Penodwyd Sarah Chambers yn Gomisiynydd Etholiadol
Cwrdd Sarah Chambers
Cymeradwywyd Sarah Chambers, cyn-bennaeth y Comisiwn Gwasanaethau Post, fel y Comisiynydd newydd ar gyfer y Comisiwn Etholiadol – y corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU.
Sarah oedd Prif Weithredwr corff rheoleiddio’r diwydiant post rhwng 2004 a 2008, ac ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Panel Defnyddwyr Gwasanaethau Cyfreithiol. Yn gyn was sifil mae Sarah wedi bod yn aelod o fwrdd a phwyllgor nifer o sefydliadau cyhoeddus, gan gynnwys yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, Bwrdd Safonau'r Bar a'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol.
Cymeradwyodd Senedd y DU y cynnig i benodi Sarah Chambers, yn dilyn proses dethol drylwyr a oruchwyliwyd gan Bwyllgor y Llefarydd ar y Comisiwn Etholiadol. Pasiwyd y cynnig gan Dŷ’r Cyffredin a rhoddwyd cydsyniad brenhinol gan Ei Mawrhydi’r Frenhines.
Gan sôn am ei phenodiad, dywedodd Sarah Chambers:
Dyma adeg gymhellol i ymuno â'r Comisiwn Etholiadol fel Comisiynydd annibynnol. Mae democratiaeth yn rhywbeth gwerthfawr y mae angen ei amddiffyn, ac mae angen diweddaru ei phrosesau i adlewyrchu newidiadau ein cymdeithas. Mae'n glir bod rhai heriau caled yn y misoedd a'r blynyddoedd o'n blaen i wneud pleidleisio'n haws, yn fwy cynhwysol ac yn fwy diogel, ac rwy'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â nhw fel rhan o'r Comisiwn.
Dywedodd Syr John Holmes, Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol:
Mae gan Sarah Chambers gyfoeth o brofiad ym meysydd rheoleiddio a pholisi ac mae hi'n ychwanegiad i'w groesawu i'r Comisiwn. Bydd ei dealltwriaeth yn ein helpu i sicrhau y ceir mwy o hyder yn ein system rheoleiddio a'i bod yn fwy tryloyw.
Bydd Sarah Chambers yn gwasanaethu fel comisiynydd etholiadol am bedair blynedd. Penodir pob Comisiynydd gan banel annibynnol a oruchwylir gan Bwyllgor y Llefarydd ar y Comisiwn Etholiadol a gallant wasanaethu am hyd at ddau dymor pedair blynedd.
Mae Bwrdd y Comisiwn yn cynnwys:
- Cadeirydd;
- Pedwar Comisiynydd a enwebir gan bleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn Nhŷ’r Cyffredin;
- Tri Chomisiynydd Etholiadol yn cynrychioli Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon;
- Dau Gomisiynydd annibynnol arall.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704 (Y tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
- Mae rhestr lawn o Gomisiynwyr etholiadol ar gael ar wefan y Comisiwn.
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Mae'r Comisiwn Etholiadol yn gorff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
- galluogi darparu etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael â newid yn yr amgylchedd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri'r rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau yn ein democratiaeth, gan anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn ei yn 2000 ac mae'n adrodd i Seneddau'r Deyrnas Unedig a'r Alban.
- Gwneir y broses ddethol Comisiynwyr gan Bwyllgor y Llefarydd ar y Comisiwn Etholiadol, ac nid gan y Comisiwn Etholiadol ei hun. Mae adroddiad ar y broses a wnaethant ar gael yma.