Pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn derbyn taliadau ar-lein
Summary
Mae defnyddio llwyfannau ar-lein i gyfrannu symiau bach at bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn ffordd bwysig a gwerthfawr i bleidleiswyr gymryd rhan yn ein democratiaeth. Fodd bynnag, gall llwyfannau ar-lein wneud pleidiau ac ymgyrchwyr yn agored i risg ychwanegol mewn perthynas â chydymffurfio â chyfraith cyllid gwleidyddol y DU.
Ymweld â Phlaid Brexit
Ymwelodd y Comisiwn Etholiadol â Phlaid Brexit ddydd Mawrth 21 Mai i adolygu'r system sydd ganddi ar gyfer derbyn arian. Rydym wedi dod i'r casgliad bod y strwythur codi arian y mae'r blaid wedi'i fabwysiadu yn ei gwneud hi'n agored i risg uchel a pharhaus o gael a derbyn rhoddion nas caniateir. Rydym wedi gwneud argymhellion a fydd yn sicrhau bod gan y blaid weithdrefnau cadarn ar gyfer derbyn arian, os cânt eu rhoi ar waith ganddi, a byddant yn ei helpu i gydymffurfio â'i gofynion cyfreithiol.
Meddai Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio yn y Comisiwn Etholiadol:
“Mae'n ddilys i unrhyw blaid neu ymgyrchydd gwleidyddol fabwysiadau strategaeth codi arian sy'n canolbwyntio ar godi symiau bach. Mae ein hymweliad â Phlaid Brexit wedi ein galluogi i wneud argymhellion penodol i'r blaid a fydd yn ei helpu i gyflawni ei chyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas â derbyn arian. Os na fydd yn cyflawni'r cyfrifoldebau hynny, ystyrir hyn yn unol â'n Polisi Gorfodi."
Further information
Codi arian ar-lein
Nid yw defnyddio llwyfannau ar-lein i dderbyn taliadau yn rhywbeth newydd. Rydym wedi bod yn cynghori pleidiau ac ymgyrchwyr ers 2015 o ran pa wiriadau a systemau y mae angen iddynt eu rhoi ar waith wrth godi arian ar-lein er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith. Rydym yn parhau i argymell y dylai'r holl bleidiau ac ymgyrchwyr gwleidyddol wneud y canlynol:
- gwirio pob taliad maent yn ei dderbyn ar-lein i sicrhau eu bod wedi nodi pob rhodd ac nad ydynt wedi derbyn unrhyw rai nad oedd ganddynt hawl iddynt;
- gofyn am gymaint o wybodaeth â phosibl gan y bobl sydd am gyfrannu er mwyn sicrhau bod yr holl daliadau'n dod o ffynhonnell a ganiateir.
Byddwn yn gwneud unrhyw argymhellion ehangach angenrheidiol o ran y ffordd y mae'r rheolau cyllid gwleidyddol yn gweithio yn Etholiadau Senedd Ewrop yn ein hadroddiad statudol ar y bleidlais yn ddiweddarach eleni.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy wneud y canlynol:
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid,
- anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
- Hyd yn hyn, mae Plaid Brexit wedi dychwelyd un rhodd gwerth £1,000 i'r rhoddwr gan na allai'r blaid ganfod a oedd wedi dod o ffynhonnell a ganiateir ai peidio. Mae'r gyfraith yn caniatáu i bleidiau gwleidyddol ddychwelyd rhodd o fewn 30 niwrnod os yw'n un nas caniateir neu os oes ansicrwydd ynghylch a yw'r rhodd yn un a ganiateir ai peidio. Mae'n ofynnol bod pleidiau yn rhoi gwybod am roddion dros £7,500 i'r Comisiwn am y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Mehefin ar ddiwedd mis Gorffennaf a chyhoeddir hyn ym mis Awst.