Pleidiau gwleidyddol am ymgyrchwyr yn cael dirwy am dorri rheolau cyllid gwleidyddol
Canlyniadau'r ymchwiliad
Heddiw, mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben. Mae'r wybodaeth hon wedi'i chyhoeddi fel rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn, fel rhan bwysig o'i ymrwymiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU.
Best for Our Future Limited
Rhoddwyd dirwy i Best for Our Future Limited, cyfranogwr a ganiateir yn Refferendwm yr UE o £2,000 am gyflwyno cofnod gwariant gwallus ar gyfer y refferendwm. Nid oedd y cofnod yn cynnwys rhoddion a dderbyniwyd gan undebau Unison a GMB. Talwyd y ddirwy yn llawn ar 10 Mai 2018.
Unison
Rhoddwyd dwy ddirwy i Unison, cyfranogwr a ganiateir yn Refferendwm yr UE o £500 a £1,000. Roedd y cyntaf am gyflwyno cofnod gwariant gwallus ar gyfer Refferendwm yr UE; nid oedd wedi adrodd rhodd a wnaeth i Best for Our Future Limited yn gywir. Roedd yr ail ddirwy o £1,000 oherwydd bod y sefydliad wedi talu anfoneb yn hwyr. Talwyd y ddirwy yn llawn ar 4 Mai 2018.
GMB
Rhoddwyd dirwy i £500 am beidio ag adrodd rhodd a wnaeth i Best for Our Future Limited yn gywir yn ei gofnod gwariant yn Refferendwm yr UE. Talwyd y ddirwy yn llawn ar 24 Ebrill 2018.
The Democratic Party
Mae'r blaid wleidyddol gofrestredig, The Democratic Party, wedi cael dirwy o £1,000 am ddanfon datganiad cyfrifon 2016 yn hwyr. Mae'r ddirwy yn ystyried hanes cydymffurfio gwael blaenorol y blaid. Mae'r taliad yn ddyledus erbyn 30 Mai 2018.
Wrth wneud sylw ar y dirwyon, dywedodd Bob Posner, Cyfarwyddwr Cyllid Gwleidyddol a Rheoleiddio a Chwnsler Cyfreithiol y Comisiwn Etholiadol:
Mae'r gofynion adrodd ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan fo pleidiau yn adrodd yn hwyr neu'n wallus. Mae hi'n hanfodol bod pleidleiswyr yn cael cyfle i weld data adroddadwy llawn a chywir ar beth mae pleidiau yn gwario eu harian er mwyn dylanwadu arnynt mewn etholiadau. Mae hyn yn rhoi tryloywder i'r system gyllid wleidyddol ac mae ar gael i unrhyw un graffu arno. Bydd y Comisiwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn i sicrhau bod gan bleidleiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen.
Dirwyon eraill
Mae manylion dirwyon sy'n amrywio o £200 i £600 a roddwyd i bum plaid wleidyddol ac un cyfranogwr a ganiateir Refferendwm yr UE ac un gymdeithas anghorfforedig hefyd wedi eu rhyddhau heddiw gan y Comisiwn. Mae'r diweddariad ymchwiliadau misol llawn, sy'n cynnwys manylion pob ymchwiliad sydd wedi cau'n ddiweddar gan y Comisiwn, ar gael ar ein gwefan yma.
Lle bo'r dirwyon ddim yn cael eu talu erbyn y dyddiad dyledus, mae'r dirwyon yn cynyddu.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Mae'n gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch.
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
- Mae'r datganiad yma'n rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn, fel rhan bwysig o'i ymrwymiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU. Caiff gwybodaeth o'r natur yma ei gyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth bob mis. Mae'r diweddariad ymchwilio llawn, sy'n cynnwys manylion yr holl ymchwiliadau sydd wedi'u cwblhau gan y Comisiwn yn ddiweddar, ar ein gwefan yma: http://www.electoralcommission.org.uk/cymru/our-work/roles-and-responsibilities/our-role-as-regulator-of-political-party-finances/sanctions
- Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff ei reoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.