Noder bod y ffurflen hon ar gyfer sefydliadau sydd eisoes wedi eu hachredu, i ddarparu manylion unigolion ychwanegol i’w hachredu. Os ydych am wneud cais am achrediad sefydliadol, cliciwch yma
Beth fydd ei angen ar eich arsylwyr i wneud cais
I ychwanegu enw arall i’w achredu, bydd angen y canlynol:
enw eich sefydliad
cyswllt e-bost ar gyfer eich sefydliad
enwau'r bobl a fydd yn arsylwi ar ran eich sefydliad, yn ogystal â llun pasbort ac ID ar eu cyfer
Mae angen bod y llun yn bodloni'r meini prawf canlynol:
rhaid iddo gynnwys yr arsylwr yn unig
rhaid iddo gynnwys eu pen a’u hysgwyddau
rhaid iddo ddangos eu hwyneb yn glir gyda'u llygaid ar agor
rhaid iddo fod wedi ei dynnu yn erbyn cefndir plaen
Mae angen i'r ID ddangos enw ac oedran yr arsylwr. Gallwch uwchlwytho eu:
pasbort
trwydded yrru
cerdyn adnabod cenedlaethol
cerdyn adnabod etholiadol Gogledd Iwerddon
700KB yw uchafswm maint y ffeil ar gyfer pob llun a’r ID. Ni ellir prosesu unrhyw ffeil sy’n fwy na hynny.
Gallwch gysylltu â ni trwy [email protected] os nad oes gan unrhyw un o’r arsylwyr y math hwn o ID.
Sylwer - er mwyn cael eich achredydu yn Arsyllwr Etholiadol cyn yr etholiadau ar 2 Mai, mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch cais erbyn dydd Iau 18 Ebrill. Er y byddwn yn parhau i brosesu pob cais a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn, ni allwn warantu y byddant yn cael eu prosesu mewn pryd i chi allu arsylwi ar 2 Mai.