Caniateir ymgyrchu ar y diwrnod pleidleisio, felly efallai y byddwch yn gweld deunydd ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol neu'n derbyn taflen drwy eich drws ar y diwrnod pleidleisio ei hun. Fodd bynnag, ni chaniateir deunydd ymgyrchu o fewn perimedrau gorsaf bleidleisio. Mae hyn yn golygu na ddylai fod unrhyw bosteri ymgyrchu, baneri na llenyddiaeth hysbysebu arall:
n yr orsaf bleidleisio ei hun
ar adeilad yr orsaf bleidleisio
ar dir yr orsaf bleidleisio, megis maes parcio
Fodd bynnag, does dim byd yn rhwystro’r tŷ drws nesaf i’r orsaf bleidleisio rhag arddangos deunydd ymgyrchu yn y ffenestr neu roi baner yn yr ardd. Efallai bydd yna rai cyfyngiadau cynllunio lleol a fyddai’n atal hysbyslenni neu faneri rhag cael eu harddangos gerllaw, ond ni fyddai hyn yn dod o dan y gyfraith etholiadol.
Rhaid i ymgyrchwyr neu ymgeiswyr beidio ag ymgyrchu ger gorsafoedd pleidleisio mewn ffordd a allai gael ei hystyried yn ymosodol neu'n fygythiol (er enghraifft, grwpiau mawr o gefnogwyr yn cario baneri, neu gerbydau ag uchelseinyddion neu wedi'u brandio'n drwm â deunydd ymgyrchu).
Rhaid i ddarlledwyr ar y teledu a'r radio beidio â thrafod na dadansoddi materion etholiadol unwaith y bydd y gorsafoedd pleidleisio wedi agor, hyd at 10pm pan ddaw'r pleidleisio i ben.
Mae yn erbyn y gyfraith i unrhyw un, gan gynnwys darlledwyr, gyhoeddi canlyniadau unrhyw arolwg barn ar y diwrnod pleidleisio tan i’r gorsafoedd pleidleisio gau.
Mae Cod Darlledu Ofcom yn nodi cyfrifoldebau darlledwyr yn ystod etholiadau.