Sut mae pleidleisiau’n cael eu cyfrif

Pan ddaw’r etholiad i ben

Mae staff yr orsaf bleidleisio yn cau'r orsaf bleidleisio am 10pm (neu unwaith y bydd pawb a oedd yn y ciw erbyn 10pm wedi pleidleisio). Pan ddaw’r etholiad i ben, gall y broses gyfrif ddechrau.

Mae’r cyfrif yn digwydd cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl i'r etholiad ddod i ben. Gall y cyfrif naill ai ddigwydd dros nos ar ôl i'r etholiad ddod i ben, neu ar y diwrnod canlynol, neu weithiau yn ystod yr wythnos ganlynol. Mae hyn yn dibynnu ar y math o etholiad.

Os yw'r cyfrif yn cael ei gynnal dros nos ar ôl i'r etholiad ddod i ben, mae staff yr orsaf bleidleisio yn mynd â'r blychau pleidleisio wedi'u selio o'r orsaf bleidleisio i ganolfan y cyfrif, ynghyd â'r gwaith papur wedi'i gwblhau sy'n cofnodi faint o bapurau pleidleisio a gyhoeddwyd.

Os nad yw'r cyfrif yn digwydd dros nos yna bydd y blychau pleidleisio yn cael eu storio mewn lleoliad diogel hyd nes bod y cyfrif yn dechrau.

Arolygon barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio

Ar ôl i'r etholiad gau am 10pm, efallai y byddwch chi'n gweld arolygon barn yn y cyfryngau, sy'n rhagweld canlyniad yr etholiad.

Mae’r arolygon barn hyn yn seiliedig ar arolwg o bleidleiswyr ar ôl iddynt adael yr orsaf bleidleisio, er mwyn ceisio rhagweld sut y pleidleisiodd pobol.

Dim ond ar ôl i'r etholiad ddod i ben y gellir cyhoeddi arolygon barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio. 

Yn y ganolfan gyfrif

Bydd y ganolfan gyfrif yn lleoliad canolog y bydd yr holl flychau pleidleisio ar gyfer yr ardal yn cael eu dychwelyd iddo. Mae canolfannau cyfrif yn aml mewn neuaddau mawr, fel canolfannau chwaraeon neu neuaddau ysgol.

Swyddog Canlyniadau'r ardal fydd yn rheoli'r ganolfan gyfrif. Bydd hefyd staff cyfrif, ymgeiswyr ac asiantiaid, arsyllwyr swyddogol, ac weithiau pobl sy’n gweithio i’r cyfryngau (fel gohebwyr newyddion a ffotograffwyr) yn y ganolfan gyfrif.

Dosberthir y blychau pleidleisio ymhlith y staff cyfrif. Yna, caiff y blychau pleidleisio eu hagor am y tro cyntaf, yng ngolwg ymgeiswyr ac asiantiaid. 

Pleidleisiau wedi'u difetha neu pleidleisiau amheus 

Os caiff papur pleidleisio ei ddifetha neu os oes amheuaeth yn ei gylch, bydd y Swyddog Canlyniadau yn ei ystyried ac yn penderfynu a yw'r bleidlais yn ddilys ac a ddylai gael ei chyfrif, neu a ddylid ei gwrthod. 

Mae pleidleisiau wedi’u difetha yn bapurau pleidleisio sydd wedi'u marcio'n anghywir, ac nid ydynt yn nodi bwriad y pleidleisiwr. Er enghraifft, efallai y bydd y pleidleisiwr wedi pleidleisio dros ddau ymgeisydd mewn etholiad lle gall bleidleisio dros un yn unig.

Mae pleidleisiau amheus yn bapurau pleidleisio nad ydynt yn dangos bwriad y pleidleisiwr yn llwyr. Er enghraifft, gall y groes [X] i nodi'r bleidlais fod wedi’i hysgrifennu dros ddau flwch. 

Pleidleisiau post

Cyn ac ar y diwrnod pleidleisio, mae'r Swyddfa Etholiadol yn cynnal sesiynau agor pleidleisiau post.

Gall ymgeiswyr, eu hasiantiaid neu berson y mae'r ymgeisydd yn ei benodi hefyd fynd i’r sesiynau, yn ogystal ag arsyllwyr etholiadol achrededig.

Yn y sesiynau hyn, caiff y llofnod a’r dyddiad geni sydd wedi’u nodi ar y datganiadau yn y pecynnau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd eu gwirio yn erbyn y cais am bleidlais bost, i sicrhau eu bod yr un fath.

Ni chaiff unrhyw bleidleisiau eu cyfrif mewn sesiynau agor pleidleisiau post, a chedwir papurau pleidleisio wyneb i waered.

Mae gan unrhyw un sy'n mynd i sesiwn agor pleidleisiau post ddyletswydd i gadw cyfrinachedd.

Mae'r papurau pleidleisio drwy'r post yn cael eu storio'n ddiogel hyd nes y daw'r etholiad i ben, yna cânt eu cludo i'r ganolfan gyfrif i'w cyfrif. 

Cyfrif pleidleisiau a systemau pleidleisio gwahanol

Defnyddir y system hon yn:

Mewn etholiadau sy'n defnyddio'r system ‘cyntaf i'r felin’, yr ymgeisydd sy'n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau yn ei etholaeth sy'n ennill.

Mewn rhai ardaloedd, efallai y cewch eich cynrychioli gan fwy nag un cynghorydd. Os oes nifer o leoedd gwag mewn etholiad cyngor lleol, gallwch bleidleisio dros yr un nifer o ymgeiswyr â nifer y swyddi gwag i gynghorwyr. Yr ymgeiswyr sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n ennill, gan lenwi'r seddi sydd ar gael. 

Defnyddir y system hon yn:

  • Etholiadau'r Senedd

Mewn etholiadau sy'n defnyddio'r system aelod ychwanegol, cyfrifir nifer y seddi y mae plaid yn eu hennill gan ddefnyddio fformiwla fathemategol dull d'Hondt.