Y gofrestr etholiadol
Pwy sy'n cadw'r gofrestr etholiadol
Nid ni sy'n cadw'r gofrestr etholiadol, ac nid oes fersiwn ar-lein.
Rydym yn cadw copïau o'r cofrestrau etholiadol, a gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd i gael gwybod mwy.
Mae'r tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol yn cadw'r gofrestr etholiadol ar gyfer eu hardal.
Os ydych am wirio a ydych wedi cofrestru i bleidleisio, bydd angen i chi gysylltu â'r tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol.
Rhowch eich cod post
Rhowch eich cod post i ddod o hyd i'ch swyddfa cofrestru etholiadol leol
Fersiynau o'r gofrestr etholiadol
Mae dwy fersiwn o'r gofrestr etholiadol.
Mae'r fersiwn lawn yn cynnwys enw a chyfeiriad pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio, heblaw am y rheini sydd wedi cofrestru i bleidleisio'n ddienw.
Mae'r gofrestr agored (neu'r gofrestr olygedig yng Ngogledd Iwerddon) yn rhan o'r gofrestr etholiadol lawn. Mae'r fersiwn hon ar gael i unrhyw un sydd am ei phrynu, megis busnesau neu elusennau.
Gallwch optio allan o'r gofrestr agored pan fyddwch yn cofrestru i bleidleisio. Os ydych eisoes wedi cofrestru i bleidleisio ac yn dymuno optio allan, bydd angen i chi gysylltu â'r tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol.
Pwy sy'n gallu defnyddio'r gofrestr etholiadol lawn
Mae'r tîm etholiadol yn eich cyngor lleol yn defnyddio'r gofrestr at ddibenion etholiadol, megis dosbarthu cardiau pleidleisio.
Caiff ei defnyddio hefyd ar gyfer:
- canfod troseddau
- galw pobl i wasanaeth rheithgor
- gwirio ceisiadau am gredyd
Gall ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol cofrestredig ac ymgyrchwyr cofrestredig eraill hefyd gael copïau o'r gofrestr etholiadol lawn. Gallant ddefnyddio'r gofrestr ar gyfer gweithgareddau ymgyrchu, gan gynnwys anfon cyfathrebiadau etholiadol at bleidleiswyr.
Cadw'r gofrestr yn gyfredol
Mae'n ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol (EROs) gadw'r gofrestr pleidleiswyr cymwys yn gyfredol. O fis Gorffennaf bob blwyddyn, maent yn cysylltu â phob cartref i ddarganfod a yw'r manylion ar y gofrestr etholiadol yn gywir. Gelwir hyn yn ganfasiad blynyddol.
Gellir cysylltu â'ch cartref mewn gwahanol ffyrdd, megis trwy:
- y post
- e-bost
- ffôn
- curo ar eich drws
Os oes angen i chi ddiweddaru eich manylion ar y gofrestr etholiadol, mae'n bwysig eich bod chi'n ymateb cyn gynted ag y gallwch. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i nodiadau atgoffa gael eu hanfon, ac nid oes angen i rywun ymweld â chi i gael y wybodaeth hon.