All nations

Sylwer – mae’r dudalen hon ond yn gymwys i bleidleiswyr sy’n byw yng Nghymru.

Sut mae cofrestru i bleidleisio

Cofrestru i bleidleisio

Y cwbl sydd ei angen arnoch i gofrestru i bleidleisio ar-lein yw 5 munud a’ch rhif Yswiriant Gwladol.

Os na allwch gofrestru ar-lein, gallwch lawrlwytho ffurflen bapur.

Nid oes angen i chi gofrestru cyn pob etholiad.

Diweddarwch eich manylion

Os ydych yn symud tŷ, dylech gofrestru i bleidleisio eto.

Os ydych yn newid eich enw am unrhyw reswm, gallwch naill ai:

ID Pleidleisiwr

Bellach mae angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Dim ID gyda chi? Gwnewch gais am ID pleidleisiwr am ddim nawr.

Atebwch ambell gwestiwn i ddarganfod a allwch gofrestru i bleidleisio

Pwy sy’n gallu cofrestru i bleidleisio yng Nghymru

Er mwyn cofrestru i bleidleisio, rhaid i chi fod yn 14 oed neu’n hŷn (ond ni allwch bleidleisio nes eich bod yn 16 neu’n 18 yn dibynnu ar yr etholiad) ac yn un o’r canlynol:

  • dinesydd y DU neu ddinesydd Gwyddelig
  • yn ddinesydd cymwys y Gymanwlad sy’n byw yn y DU
  • yn ddinesydd cymwys yr UE sy’n byw yn y DU
  • yn ddinesydd tramor cymwys

 

Rhestr o ddinasyddion cymwys y Gymanwlad a dinasyddion yr UE

Mae diffiniad 'dinesydd y Gymanwlad' yn cynnwys dinasyddion Tiriogaethau Dibynnol y Goron a Thiriogaethau Prydeinig Tramor. Dinesydd ‘cymwys’ y Gymanwlad yw rhywun sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, neu rywun nad oes angen y fath ganiatâd arnynt.

Gwledydd y Gymanwlad
Antigwa a Barbwda Awstralia Bangladesh
Barbados Belîs Botswana
Brwnei Darussalam Camerwn Canada
Cenia Ciribati Cyprus
De Affrica Dominica Fanwatw
Gaiana Ghana Grenada
Gweriniaeth Unedig Tansanïa India Jamaica
Lesotho Malasia Malawi
Malta Mawrisiws Mosambic
Namibia Nawrw Nigeria
Pacistan Papua Gini Newydd Rwanda
Sambia Samoa Sant Kitts-Nevis
Sant Lwsia Seland Newydd Seychelles
Sierra Leone Simbabwe Singapore
Sri Lanca St Vincent a'r Grenadies Teyrnas Eswatini
Tonga Trinidad a Thobago Twfalw
Wganda Y Bahamas Y Gambia
Ynysoedd Ffiji Ynysoedd Solomon Ynysoedd y Maldives

Sylwch: Er eu bod hefyd yn aelodau o wladwriaethau'r UE, mae dinasyddion Cyprus a Malta yn gymwys i gofrestru i bleidleisio ym mhob etholiad a gynhelir yn y DU.

Tiriogaethau Dibynnol y Goron
Ynys Manaw
Ynysoedd y Sianel (gan gynnwys Jersey, Guernsey, Sarc, Alderney, Herm ac Ynysoedd cyfannedd eraill y Sianel)
Tiriogaethau Prydeinig Tramor
Anguilla Ardaloedd gorsafoedd sofran ar Cyprus Bermwda
De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De Gibraltar Monserrat
St Helena a thiriogaethau dibynnol (Ynys y Dyrchafael a Tristan da Cunha) Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor yr India Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig
Ynysoedd Falkland Ynysoedd y Caiman Ynys Pitcairn
Ynysoedd Prydeinig yr Wyryf Ynysoedd Turks a Caicos  
Hong Kong
Mae cyn-drigolion Hong Kong sydd â phasport Tiriogaeth Ddibynnol Brydeinig, pasbort Prydeinig Tramor, neu Wladolion Prydeinig (Tramor) yn gymwys i gofrestru.

Gall holl ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd gofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru.

I gofrestru i bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, mae angen i chi fod yn ddinesydd un o’r gwledydd canlynol:

  • Denmarc, Gwlad Pwyl, Lwcsembwrg, Portiwgal a Sbaen sy’n byw yn y DU, sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros ynddynt, neu sydd heb angen caniatâd o’r fath
  • unrhyw wlad arall yn yr UE a oedd ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020 yn preswylio’n gyfreithiol yn y DU, a oedd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu nad oedd angen caniatâd, ac mae hyn wedi parhau heb doriad

Gwledydd eraill yr UE yw:

  • Yr Almaen 
  • Awstria
  • Bwlgaria 
  • Croatia
  • Cyprus
  • Yr Eidal
  • Estonia
  • Y Ffindir
  • Ffrainc
  • Groeg
  • Gweriniaeth Tsiec
  • Gwlad Belg 
  • Hwngri 
  • Yr Iseldiroedd 
  • Latfia
  • Lithwania
  • Malta
  • Romania
  • Slofacia
  • Slofenia
  • Sweden

Er eu bod hefyd yn aelod-wladwriaethau o’r UE mae dinasyddion Cyprus, Malta ac Iwerddon yn gymwys i gofrestru i bleidleisio ym mhob etholiad a gynhelir yn y DU.

Dinesydd tramor cymwys yw dinesydd gwlad arall sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, neu sydd heb angen caniatâd o’r fath.

Other options

Mae yna ddewisiadau cofrestru eraill, gan gynnwys cofrestru fel pleidleisiwr sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog neu fel un o weision y Goron, cofrestru’n ddi-enw, a chofrestru os nad oes gennych gyfeiriad sefydlog.