Myfyrwyr
This page
Please note that this page is only relevant to voters living in Wales.
Cofrestru i bleidleisio
Os ydych yn fyfyriwr, mae'n bosibl y gallwch gofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad cartref ac yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor. Fodd bynnag, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y gallwch bleidleisio fwy nag unwaith mewn etholiadau sy'n cael eu cynnal ar yr un diwrnod.
Edrychwch i weld a ydych wedi cofrestru i bleidleisio yn barod
Bydd angen i chi gysylltu â'r tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol i ganfod a ydych wedi cofrestru i bleidleisio.
Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio, byddwch ar y gofrestr etholiadol. Eich cyngor lleol sy'n cadw'r gofrestr hon, felly bydd yn gallu dweud wrthych a ydych wedi cofrestru. Nid oes gennym gopïau o gofrestrau etholiadol, felly ni allwn ddweud wrthych a ydych wedi cofrestru.
Dod o hyd i fanylion cyswllt eich cyngor lleol
Nodwch eich cod post i ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer y tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol.
Pleidleisio fel myfyriwr
Nid yw cofrestru yn eich cyfeiriad cartref ac yn eich cyfeiriadau yn ystod y tymor o reidrwydd yn golygu y cewch bleidleisio ddwywaith.
Bydd angen i chi ddewis un cyfeiriad a phleidleisio yn yr ardal honno yn unig pan fyddwch yn pleidleisio mewn:
- Etholiadau Senedd y DU
- Etholiadau Senedd Cymru
- Refferenda'r DU
Ni allwch bleidleisio yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor a'ch cyfeiriad cartref yn yr etholiadau hyn. Mae pleidleisio mewn mwy nag un lleoliad yn drosedd.
Ar gyfer etholiadau eraill, gallwch bleidleisio yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor ac yn eich cyfeiriad cartref.
Gallwch ddewis pleidleisio yn y naill ardal neu'r llall neu yn y ddwy ardal (cyhyd â bod y cyfeiriadau mewn ardaloedd cyngor gwahanol) pan fyddwch yn pleidleisio mewn:
- Etholiadau cyngor lleol yng Nghymru
- Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y rheolau ar gyfer yr etholiadau rydych yn pleidleisio ynddynt.
Ffyrdd i bleidleisio
Os na allwch fynd i’r orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, gallwch wneud cais am bleidlais bost, neu bleidlais drwy ddirprwy (lle bydd rhywun rydych yn ymddiried ynddo yn pleidleisio ar eich rhan).