All other nations

Please note that this page is only relevant to voters living in Wales

Register to vote

Os ydych wedi cael eich derbyn yn glaf mewnol mewn ysbyty iechyd meddwl neu fan tebyg, gallwch gofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad ysbyty os ydych wedi treulio digon o amser yno i gael eich ystyried yn breswylydd.

Os ydych ond yn yr ysbyty am gyfnod byr, gallwch gofrestru i bleidleisio yn y cyfeiriad y byddech yn byw ynddo pe na baech yn yr ysbyty.

Cofrestrwch i bleidleisio

Gallwch hefyd gofrestru mewn cyfeiriad yr oeddech yn byw ynddo’n flaenorol cyn i chi fod yn glaf.

I gofrestru yn y modd hwn, bydd angen i chi lawrlwytho a llenwi ffurflen ar gyfer rhywun heb gyfeiriad sefydlog neu barhaol. 

Lawrlwythwch y ffurflen cofrestru i bleidleisio