Cofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog
All other nations
Please note that this page is only relevant to voters living in Wales
Pwy all gofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog
Gallwch gofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog os ydych:
- yn aelod o'r lluoedd arfog
- yn briod neu bartner sifil i rywun yn y lluoedd arfog
Yng Nghymru, gall plant 14 oed hefyd gofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog yn yr amgylchiadau canlynol:
- os yw eu rhiant neu warcheidwad yn aelod o’r lluoedd arfog ac yn gymwys i gofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog
- os ydynt yn byw yng Nghymru, neu os byddent yn byw yng Nghymru pe na bai eu rhiant neu warcheidwad yn gwasanaethu dramor.
Er y gallwch gofrestru i bleidleisio yn 14 oed, ni fyddwch yn gallu pleidleisio mewn unrhyw etholiadau nes eich bod yn 16 oed.
Cofrestru i bleidleisio
Gallwch ddewis p’un a ydych yn cofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog neu yn cofrestru i bleidleisio yn y ffordd arferol.
Sut i gofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog
Os ydych yn gwasanaethu dramor, neu yn disgwyl cael eich anfon dramor yn y flwyddyn nesaf, gallwch gofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog.
Mae cofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog yn golygu:
- y cewch eich cofrestru mewn cyfeiriad sefydlog yn y DU, hyd yn oed os byddwch yn cael eich symud
- y bydd eich cofrestriad yn para pum mlynedd
Os ydych yn o dan 18 oed ac wedi eich cofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog, bydd angen i chi adnewyddu eich cofrestriad bob blwyddyn.
Gallwch ganslo eich cofrestriad fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog ar unrhyw adeg.
Cofrestru i bleidleisio yn y ffordd arferol
Os ydych yn y DU ac yn annhebygol o newid eich cyfeiriad neu gael eich anfon dramor yn y flwyddyn nesaf, gallwch gofrestru i bleidleisio yn y ffordd arferol.
Mae gan eich uned Swyddog Cofrestru Etholiadol Unedol penodedig a fydd yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth a chyngor i chi. Gofynnwch i’ch swyddfa weinyddol am eu manylion cyswllt.
Ffyrdd i bleidleisio
Pleidleisio trwy ddirprwy
Gallwch wneud cais i bleidleisio trwy ddirprwy.
Gallwch ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddynt fwrw eich pleidlais ar eich rhan. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy ac yn aml cyfeirir at y person sy'n bwrw eich pleidlais fel dirprwy.
Gall y person sy'n pleidleisio ar eich rhan naill ai fynd i'ch gorsaf bleidleisio i fwrw eich pleidlais, neu gallant wneud cais i bleidleisio ar eich rhan trwy'r post.
Gwneud cais i bleidleisio trwy ddirprwy
Pleidleisio trwy’r post
Gallwch wneud cais i bleidleisio trwy’r post.
Bydd pecyn pleidlais bost yn cael ei anfon atoch cyn yr etholiad, a bydd angen i chi ei ddychwelyd i’r tîm gwasanaethau etholiadol yn y cyngor lle’r ydych wedi cofrestru. Os nad ydych yn credu y bydd gennych ddigon o amser i dderbyn a dychwelyd eich pecyn pleidlais bost, efallai y byddwch am ystyried pleidleisio trwy ddirprwy (pan fydd rhywun rydych yn ymddiried ynddynt yn pleidleisio ar eich rhan)