Person wedi ei remandio yn y ddalfa
All other nations
Please note that this page is only relevant to voters living in Wales
Register to vote
Os ydych wedi eich remandio yn y ddalfa (ond heb eich cael yn euog) ac wedi eich cadw mewn carchar neu fan tebyg, gallwch gofrestru yn y cyfeiriad hwnnw os ydych wedi eich cadw yno yn ddigon hir i gael eich ystyried yn breswylydd yno.
Os ydych ond wedi bod yn y ddalfa am gyfnod byr, yna gallwch gofrestru yn y cyfeiriad lle byddech yn byw fel arfer pe na baech yn y ddalfa.
Os ydych yn garcharor ar remánd am dymor hwy, gallech hefyd ddewis cofrestru mewn cyfeiriad lle byddech yn byw pe na baech yn garcharor ar remánd, neu lle’r oeddech yn byw cyn i chi gael eich remandio yn y ddalfa.
I gofrestru yn y modd hwn, bydd angen i chi lawrlwytho a llenwi ffurflen ar gyfer rhywun heb gyfeiriad sefydlog neu barhaol.
Help gyda’r ffurflen hon
Os na allwch argraffu’r ffurflen gais, neu os bydd ei hangen arnoch mewn fformat hygyrch, neu os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch â’r tîm gwasanaethau etholiadol yn y cyngor lleol ar gyfer y cyfeiriad rydych yn cofrestru ynddo am help.
Llenwi eich ffurflen
Mae’r ffurflen gais yn cynnwys cyfarwyddiadau ynghylch sut i’w llenwi’n gywir.
Ble dylech anfon eich ffurflen ar ôl ei chwblhau
Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen a sicrhau eich bod wedi ei llofnodi, bydd angen i chi ei hanfon at y tîm gwasanaethau etholiadol yn y cyngor lleol ar gyfer y cyfeiriad rydych yn cofrestru ynddo.
Gallwch anfon eich ffurflen trwy'r post. Efallai y bydd y tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol hefyd yn fodlon derbyn copi o’r ffurflen wedi ei sganio trwy e-bost, ond dylech wirio gyda nhw yn gyntaf.
Darganfyddwch i ble y mae angen i chi anfon eich ffurflen
Rhowch y cod post ar gyfer y cyfeiriad rydych yn cofrestru ynddo i gael hyd i gyfeiriad eich tîm gwasanaethau etholiadol