Please note that this page is only relevant to voters living in Wales
Cofrestru
Os ydych yn rhannu eich amser rhwng dau gartref, efallai y gallwch gofrestru i bleidleisio yn y ddau gyfeiriad. Er enghraifft, efallai eich bod yn berchen ar ddau eiddo ac yn rhannu eich amser rhyngddynt, neu efallai eich bod yn treulio amser mewn cyfeiriadau teulu gwahanol.
Os byddwch yn gwneud cais i gofrestru i bleidleisio o'ch ail gartref, yna caiff eich cais ei ystyried ar sail achos unigol. Bydd y canlyniad yn dibynnu ar yr amser rydych yn ei dreulio ym mhob un o'ch cyfeiriadau.
Nid yw cofrestru mewn dau gyfeiriad o reidrwydd yn golygu eich bod yn cael dwy bleidlais.
Bydd angen i chi ddewis un cyfeiriad a phleidleisio yn yr ardal honno yn unig pan fyddwch yn pleidleisio mewn:
Etholiadau Senedd y DU
Etholiadau Senedd Cymru
Refferenda'r DU
Ni allwch bleidleisio yn y ddau gyfeiriad yn yr etholiadau hyn. Mae pleidleisio mewn mwy nag un lleoliad yn drosedd.
Ar gyfer etholiadau eraill, gallwch bleidleisio yn y ddau gyfeiriad.
Gallwch ddewis pleidleisio yn y naill ardal neu'r llall neu yn y ddwy ardal (cyhyd â bod y cyfeiriadau mewn ardaloedd cyngor gwahanol) pan fyddwch yn pleidleisio mewn:
Etholiadau cyngor lleol yng Nghymru
Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y rheolau ar gyfer yr etholiadau rydych yn pleidleisio ynddynt.