Pleidleisio os ydych yn byw dramor
Blwch crynodeb
Os ydych yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig cymwys sy’n byw dramor ac sydd wedi byw yn y DU yn flaenorol neu wedi’ch cofrestru i bleidleisio yn y DU, gallwch gofrestru i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU.
Mae rhai newidiadau i bleidleisio o dramor bellach yn berthnasol:
- Gallwch nawr gofrestru i bleidleisio os oeddech yn byw yn y DU yn flaenorol ond nid oeddech wedi cofrestru i bleidleisio.
- Gallwch gofrestru i bleidleisio yn y DU waeth pa mor bell yn ôl y gwnaethoch adael neu y cawsoch eich cofrestru i bleidleisio ddiwethaf.
- Mae eich datganiad tramor bellach yn ddilys am dair blynedd, gan bara hyd nes 1 Tachwedd yn y drydedd flwyddyn ar ôl iddo ddod i rym (er enghraifft, os bydd eich datganiad yn dod i rym ar 1 Mawrth 2024, bydd yn dod i ben ar 1 Tachwedd 2026).
- Gallwch gofrestru ar-lein nawr (nid yw hyn ar gael yng Ngogledd Iwerddon).
Os ydych yn bleidleisiwr tramor a gofrestrodd i bleidleisio cyn 16 Ionawr 2024, bydd angen i chi adnewyddu eich cofrestriad pan ddaw eich datganiad i ben. Os gwnaethoch gais am bleidlais drwy ddirprwy cyn 31 Hydref 2023, bydd hyn yn dod i ben ar 31 Ionawr 2024 a bydd angen i chi ailymgeisio am bleidlais drwy ddirprwy.
Cofrestru i bleidleisio
Os ydych yn byw dramor, gallwch gofrestru i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU os ydych:
- yn ddinesydd Prydeinig. Mae hyn yn cynnwys dinasyddion Gwyddelig cymwys (rhywun a aned yng Ngogledd Iwerddon, sy'n ddinesydd Gwyddelig ac sydd hefyd yn gymwys fel dinesydd Prydeinig) a dinasyddion Dibynwledydd y Goron.
- Ac, os ydych chi wedi'ch cofrestru i bleidleisio yn y DU yn flaenorol neu wedi byw yn y DU.
Gwirio eich bod wedi cofrestru i bleidleisio
Os nad ydych yn siŵr a ydych eisoes wedi cofrestru i bleidleisio, cysylltwch â’r corff perthnasol i gael gwybod.
Rhowch god post eich cyfeiriad DU diwethaf yn ein hadnodd chwilio i ddod o hyd i fanylion cyswllt.
Cwblhau cais
I gofrestru i bleidleisio mewn etholiad Senedd y DU, mae angen i chi gwblhau cais. Gallwch wneud cais:
Efallai y byddwch hefyd yn gallu gwneud cais dros y ffôn. Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael gwybod a allwch chi wneud cais dros y ffôn. Gallwch roi cod post eich cyfeiriad diwethaf yn y DU yn ein hadnodd chwilio i ddod o hyd i'w manylion cyswllt.
Wrth wneud cais, mae angen i chi ddarparu’r cyfeiriad diwethaf yn y DU yr oeddech yn byw ynddo neu yr oeddech wedi cofrestru i bleidleisio ynddo. Mae angen i chi hefyd ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol a'ch dyddiad geni. Defnyddir y rhain i wirio pwy ydych.
Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy. Gallwch hefyd bleidleisio yn bersonol os byddwch yn y DU ar y diwrnod pleidleisio. Ni allwch bleidleisio'n bersonol mewn llysgenhadaeth Brydeinig, uchel gomisiwn neu is-genhadaeth.
I wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy, mae angen i chi gwblhau cais ar wahân ochr yn ochr â gwneud cais i bleidleisio fel pleidleisiwr tramor:
Rhagor o wybodaeth am wneud cais i bleidleisio drwy'r post
Rhagor o wybodaeth am wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy
Gall pleidleisio drwy ddirprwy fod yn opsiwn gwell os bydd y post yn cymryd amser hir i'ch cyrraedd.
Os oeddech yn rhy ifanc i gofrestru i bleidleisio yn y DU cyn i chi adael, bydd angen i chi hefyd gynnwys manylion eich rhiant neu warcheidwad a chopi o’ch tystysgrif geni.
Gofyn i berson rydych yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan
Os na fyddwch yn y DU ar y diwrnod pleidleisio, gallwch ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddo i fwrw eich pleidlais ar eich rhan. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy ac yn aml cyfeirir at y sawl sy’n bwrw eich pleidlais fel eich dirprwy.
Os na all eich dirprwy gyrraedd yr orsaf bleidleisio, gallant wneud cais i bleidleisio ar eich rhan drwy’r post. Gelwir hyn yn bleidlais ddirprwy drwy'r post. Os ydynt yn pleidleisio drwy’r post, nid oes angen iddynt fyw yn yr etholaeth lle’r oeddech yn byw ddiwethaf neu lle cawsoch eich cofrestru i bleidleisio.
Datgan eich dinasyddiaeth
Ochr yn ochr â'ch cais i gofrestru, mae angen i chi gyflwyno datganiad tramor. Mae’n rhaid i hwn gynnwys:
- Eich enw llawn a'ch cyfeiriad presennol ar gyfer gohebiaeth
- Datganiad yn datgan eich bod yn Ddinesydd Prydeinig
- Datganiad yn egluro a ydych yn cofrestru i bleidleisio yn seiliedig ar a oeddech wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU yn flaenorol neu eich bod wedi byw yn y DU yn flaenorol
- Manylion eich pasbort Prydeinig, hyd yn oed os yw eich pasbort wedi dod i ben
- Os nad oes gennych basbort, mae angen i chi gynnwys datganiad i egluro eich statws dinasyddiaeth a’r dyddiad a’r lleoliad y cawsoch eich geni
- Datganiad eich bod yn credu bod y wybodaeth a nodir yn y datganiad yn gywir
- Dyddiad y datganiad
Efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth i brofi eich bod yn gymwys. Os oes angen i chi ddarparu tystiolaeth, gallwch wneud hynny yn ystod y broses ymgeisio ar-lein. Gallwch hefyd anfon tystiolaeth drwy e-bost, drwy’r post neu’n bersonol.
Rhowch god post eich cyfeiriad diwethaf yn y DU i ddod o hyd i fanylion cyswllt eich cyngor lleol.
Mae angen i'r tîm gwasanaethau etholiadol neu'r swyddfa cofrestru etholiadol leol dderbyn eich datganiad o fewn tri mis ar ôl ei ddyddio. Os daw i law ar ôl y dyddiad hwn, caiff eich datganiad ei wrthod, a bydd angen i chi gyflwyno un newydd.
Adnewyddu eich datganiad tramor
Mae datganiadau tramor yn ddilys am dair blynedd, gan bara hyd nes 1 Tachwedd yn y drydedd flwyddyn ar ôl iddo ddod i rym (er enghraifft, os bydd eich datganiad yn dod i rym ar 1 Mawrth 2024, bydd yn dod i ben ar 1 Tachwedd 2026). Bydd datganiadau bob amser yn dod i ben ar 1 Tachwedd.
Bydd eich cyngor lleol neu swyddfa cofrestru etholiadol yn cysylltu â chi pan ddaw'n amser adnewyddu eich datganiad tramor. Byddant yn rhoi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud i adnewyddu eich datganiad.
Gallwch adnewyddu eich datganiad hyd at chwe mis cyn iddo ddod i ben. Os byddwch yn adnewyddu eich datganiad cyn iddo ddod i ben, bydd yn para hyd nes 1 Tachwedd yn y drydedd flwyddyn ar ôl i chi ei adnewyddu (er enghraifft, os daw eich datganiad i ben ar 1 Tachwedd 2024 ond eich bod yn ei adnewyddu ym mis Awst 2024, bydd yn dod i ben ar 1 Tachwedd 2026).
Ni ellir adnewyddu ar-lein trwy GOV.uk.
Bydd eich pleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy yn dod i ben ar yr un pryd â'ch datganiad tramor. Gallwch ailymgeisio am bleidlais drwy ddirprwy neu bleidlais drwy’r post wrth adnewyddu eich datganiad tramor.
Pleidleiswyr dienw
Os ydych o’r farn y gallai cael eich enw a’ch cyfeiriad ar y gofrestr etholiadol effeithio ar eich diogelwch, neu ddiogelwch rhywun sy’n byw gyda chi, gallwch gofrestru i bleidleisio’n ddienw.
Os ydych yn byw dramor ac yn dymuno cofrestru i bleidleisio'n ddienw, ni allwch wneud cais ar-lein drwy GOV.uk a bydd angen i chi gysylltu â'ch cyngor lleol. Gallwch roi cod post eich cyfeiriad diwethaf yn y DU yn ein hadnodd chwilio i ddod o hyd i'w manylion cyswllt.
Mae angen i chi ailymgeisio i gael eich cofrestru'n ddienw bob blwyddyn, ond dim ond bob tair blynedd y mae angen i chi adnewyddu eich cofrestriad fel pleidleisiwr tramor.
Canslo eich cofrestriad tramor
Os ydych am ganslo eich cofrestriad tramor, mae angen i chi gysylltu â'ch cyngor lleol. Gallwch roi cod post eich cyfeiriad diwethaf yn y DU yn ein hadnodd chwilio i ddod o hyd i'w manylion cyswllt.