Pleidleisiwr sy’n gwasanaethu fel un o weision y Goron
All other nations
Please note that this page is only relevant to voters living in Wales
Pwy all gofrestru fel pleidleisiwr sy’n gwasanaethu fel un o weision y Goron
Gallwch gofrestru fel pleidleisiwr sy’n gwasanaethu fel un o weision y Goron os ydych:
- yn was y Goron (megis diplomydd neu was sifil tramor)
- yn gyflogai’r British Council
- yn briod neu yn bartner sifil i was y Goron neu gyflogai’r British Council
Yng Nghymru, gall plant 14 oed hefyd gofrestru fel pleidleisiwr sy’n gwasanaethu fel un o weision y Goron yn yr amgylchiadau canlynol:
- os yw eu rhiant neu warcheidwad yn was y Goron neu gyflogai’r British Council ac yn gymwys i gofrestru fel pleidleisiwr sy’n gwasanaethu fel un o weision y Goron
- os ydynt yn byw yng Nghymru, neu os byddent yn byw yng Nghymru pe na bai eu rhiant neu warcheidwad yn gwasanaethu dramor
Er y gallwch gofrestru i bleidleisio yn 14 oed, ni fyddwch yn gallu pleidleisio mewn unrhyw etholiadau nes eich bod yn 16 oed.
Cofrestru i bleidleisio fel un sy’n gwasanaethu fel un o weision y Goron
Gallwch gofrestru fel pleidleisiwr sy’n gwasanaethu fel un o weision y Goron ar-lein.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif Yswiriant Gwladol, os oes gennych un
- eich rhif adnabod staff neu eich rhif cyflogres (gellir dod o hyd i’r rhain fel arfer ar eich slip talu)
Ffyrdd i bleidleisio
Pleidleisio trwy’r post
Gallwch wneud cais i bleidleisio trwy’r post.
Bydd pecyn pleidlais bost yn cael ei anfon atoch cyn yr etholiad, a bydd angen i chi ei ddychwelyd i’r tîm gwasanaethau etholiadol yn y cyngor lle’r ydych wedi cofrestru. Os nad ydych yn credu y bydd gennych ddigon o amser i dderbyn a dychwelyd eich pecyn pleidlais bost, efallai y byddwch am ystyried pleidleisio trwy ddirprwy (pan fydd rhywun rydych yn ymddiried ynddynt yn pleidleisio ar eich rhan).
Gwneud cais i bleidleisio trwy’r post
Pleidleisio trwy ddirprwy
Gallwch wneud cais i bleidleisio trwy ddirprwy.
Gallwch ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddynt fwrw eich pleidlais ar eich rhan. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy ac yn aml cyfeirir at y person sy'n bwrw eich pleidlais fel dirprwy.
Gall y person sy'n pleidleisio ar eich rhan naill ai fynd i'ch gorsaf bleidleisio i fwrw eich pleidlais, neu gallant wneud cais i bleidleisio ar eich rhan trwy'r post.