Pobl sy’n profi digartrefedd
All other nations
Please note that this page is only relevant to voters living in Wales
Register to vote
Os nad oes gennych gartref parhaol, gallwch gofrestru i bleidleisio mewn cyfeiriad lle’r ydych yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser (yn ystod y dydd neu’r nos).
Gallai hyn fod yn lloches, neu fan lle’r ydych yn cysgu neu’n treulio’r rhan fwyaf o’ch diwrnod.
Bydd angen i chi lawrlwytho a llenwi ffurflen ar gyfer rhywun heb gyfeiriad sefydlog neu barhaol.
Help gyda’r ffurflen hon
Help gyda’r ffurflen hon
Os na allwch argraffu’r ffurflen gais, neu os bydd ei hangen arnoch mewn fformat hygyrch, neu os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch â’r tîm gwasanaethau etholiadol yn y cyngor lleol ar gyfer y cyfeiriad rydych yn cofrestru ynddo am help.
Llenwi eich ffurflen
Mae’r ffurflen gais yn cynnwys cyfarwyddiadau ynghylch sut i’w llenwi’n gywir.
Pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen, byddwch yn gallu nodi sut rydych am dderbyn gwybodaeth am eich cofrestriad. Gallwch ei chasglu oddi wrth y tîm gwasanaethau etholiadol yn y cyngor lleol ar gyfer y cyfeiriad rydych yn cofrestru ynddo, neu ofyn iddi gael ei hanfon at gyfeiriad rydych yn ei ddarparu.
Ble dylech anfon eich ffurflen ar ôl ei chwblhau
Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen a sicrhau eich bod wedi ei llofnodi, bydd angen i chi ei hanfon at y tîm gwasanaethau etholiadol yn y cyngor lleol ar gyfer y cyfeiriad rydych yn cofrestru ynddo.
Gallwch anfon eich ffurflen trwy'r post. Efallai y bydd y tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol hefyd yn fodlon derbyn copi o’r ffurflen wedi ei sganio trwy e-bost, ond dylech wirio gyda nhw yn gyntaf.
Darganfyddwch i ble y mae angen i chi anfon eich ffurflen
Rhowch y cod post ar gyfer y cyfeiriad rydych yn cofrestru ynddo i gael hyd i gyfeiriad eich tîm gwasanaethau etholiadol