Y Llynges Fasnach
All other nations
Please note that this page is only relevant to voters living in Wales
Register to vote
Os ydych yn y Llynges Fasnach, gallwch gofrestru i bleidleisio yn y cyfeiriad y byddech yn byw ynddo pe na baech ar y môr.
Os ydych fel arfer yn aros mewn hostel neu glwb sy’n darparu llety i aelodau’r Llynges Fasnach pan nad ydych ar y môr, gallwch gofrestru yn y cyfeiriad hwnnw.
Ffyrdd i bleidleisio
Pleidleisio'n bersonol
Os ydych yn digwydd bod yn y DU ar y diwrnod pleidleisio, gallwch bleidleisio’n bersonol yn eich gorsaf bleidleisio.
Rhagor o wybodaeth am bleidleisio’n bersonol
Pleidleisio trwy ddirprwy
Gallwch wneud cais i bleidleisio trwy ddirprwy.
Gallwch ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddynt fwrw eich pleidlais ar eich rhan. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy ac yn aml cyfeirir at y person sy'n bwrw eich pleidlais fel dirprwy.
Gall y person sy'n pleidleisio ar eich rhan naill ai fynd i'ch gorsaf bleidleisio i fwrw eich pleidlais, neu gallant wneud cais i bleidleisio ar eich rhan trwy'r post.
Gwneud cais i bleidleisio trwy ddirprwy