Overview

Mae’r Senedd yn cynrychioli pobl Cymru. Mae ganddo’r pŵer i wneud penderfyniadau mewn meysydd penodol, a elwir yn faterion datganoledig. Mae’r rhain yn cynnwys meysydd megis addysg, iechyd, diwylliant, a rhai trethi.

Mae Senedd y DU yn dal i fod yn gyfrifol am rai gwasanaethau cyhoeddus, a rhai meysydd deddfwriaethol yng Nghymru.

Darganfyddwch ragor am y Senedd

Rhanbarth etholiadol

Mae 60 Aelodau o’r Senedd etholedig (ASau), ac mae pump ohonynt yn eich cynrychioli chi. Mae un AS yn cynrychioli eich etholaeth, ac mae pedwar yn cynrychioli eich rhanbarth.

Y pum rhanbarth etholiadol yw:

  • Gogledd Cymru
  • Gorllewin a Chanolbarth Cymru
  • De-Ddwyrain Cymru
  • De-Orllewin Cymru
  • Canol De Cymru

Pwy all bleidleisio yn yr etholiadau hyn

Pleidleisio yn yr etholiadau hyn

Mae etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal bob pum mlynedd.

Cynhelir etholiadau’r Senedd trwy ddefnyddio’r System Aelod Ychwanegol. Yn yr etholiadau hyn, cewch ddwy bleidlais. 

Gyda’r bleidlais gyntaf, rydych yn dewis rhwng ymgeiswyr sy’n sefyll etholiad yn eich etholaeth trwy roi [X] wrth eich dewis.

Byddwch wedyn yn bwrw ail bleidlais i ddewis plaid wleidyddol i gynrychioli eich Rhanbarth. Rydych yn rhoi [X] yn y blwch gyferbyn â’ch dewis blaid wleidyddol.