Ymgyrchu ar-lein
Hysbysebion gwleidyddol ar-lein, dewch i’w nabod fel maen nhw’n eich nabod chi
- Ydych chi’n pryderu am bwy wnaeth dalu am hysbyseb wleidyddol a welsoch ar-lein?
- Ydych chi’n synnu sut cafodd plaid wleidyddol, ymgeisydd neu ymgyrchydd afael ar eich data?
- Ydych chi’n credu bod honiad neu ystadegyn a ddefnyddiwyd mewn hysbyseb wleidyddol ar-lein yn anghywir neu yn gamarweiniol?
Introduction
Rydych chi wedi dod i’r man cywir. Mae hysbysebu gwleidyddol yn gymhleth, ond mae gennym atebion syml i gwestiynau cyffredin. Ac os na allwn helpu, gallwn eich rhoi chi ar y llwybr cywir.
Mae cyflwyno negeseuon i bleidleiswyr yn rhan fawr o’r broses ddemocrataidd. Mae’n bwysig bod pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn gallu cyfathrebu â chi er mwyn egluro eu safbwyntiau a’u polisïau, fel eich bod yn wybodus pan fyddwch yn pleidleisio. Ond daw heriau newydd yn sgil ymgyrchu digidol, ac rydym yn gwybod bod diffyg tryloywder yn destun pryder i bleidleiswyr.
Rydym am eich helpu i ddeall pwy sy’n talu er mwyn dylanwadu ar eich pleidlais. Rydym am i chi fod ym hyderus ynghylch yr hysbysebion gwleidyddol rydych yn eu gweld ar-lein, er mwyn deall pwy sy’n eich targedu, a pham. Rydym am i chi wybod pryd y gallwch chi weithredu os byddwch yn gweld rhywbeth sy’n destun pryder i chi.
Dechreuwn, felly, â chwestiwn syml.
Pwy sy’n rheoleiddio hysbysebion gwleidyddol ar-lein?
Pwy sy’n rheoleiddio hysbysebion gwleidyddol ar-lein?
Mae gan nifer o reoleiddwyr rôl, gan gynnwys:
- Y Comisiwn Etholiadol
- Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)
- Awdurdod Ystadegau’r DU a’i gangen weithredol, y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau
Nid yw’r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn rheoleiddio hysbysebion a fwriadwyd at ddylanwadu ar bleidleiswyr mewn etholiadau lleol, rhanbarthol neu ryngwladol, nac ychwaith refferenda. Fodd bynnag, mae’r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn rheoleiddio honiadau a wneir mewn hysbysebion gan lywodraeth ganolog a llywodraeth leol, nad ystyrir eu bod yn rhan o ymgyrch etholiad neu refferendwm - er enghraifft, ymgyrch rhoi’r gorau i ysmygu gan adran iechyd. Mae hefyd yn rheoleiddio hysbysebion am faterion gwleidyddol, er enghraifft, estyniad arfaethedig i faes awyr, a osodir gan unigolyn, busnes, elusen, ymgyrch/grŵp buddiant, neu sefydliad o fath arall.
Nid yw Ofcom yn rheoleiddio hysbysebion gwleidyddol ar-lein, ond mae’n rheoleiddio rhaglenni, gan gynnwys y newyddion a chynnwys materion cyfoes ar y teledu, y radio, a gwasanaethau ar-alw.
Mae’r heddlu yn gyfrifol am ymchwilio i unrhyw droseddau posib mewn perthynas â hysbysebion gwleidyddol ar-lein gan ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiadau.
Mae pob sefydliad yn gyfrifol am wahanol agweddau ar hysbysebu gwleidyddol, a gall pob un ohonynt helpu i fynd i’r afael â’ch pryderon.
Cwestiynau cyffredin
Dyma rai cwestiynau cyffredin - cliciwch ar y dolenni i ganfod yr atebion, a phwy y gallwch gysylltu â nhw os hoffech wybod rhagor neu os hoffech adrodd am unrhyw bryderon.
Wyddech chi?
Wyddech chi?
Pan fyddwn yn siarad am hysbysebu gwleidyddol ar-lein, nid ydym yn sôn am y negeseuon hyrwyddo rydych yn eu gweld ar y cyfryngau cymdeithasol yn unig, neu’r hysbysebion rydych yn eu gweld ar wefannau neu apiau. Rydym hefyd yn siarad am negeseuon eraill yn eich ffrwd newyddion gan bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr. Ni thelir am y negeseuon hyn. Efallai y byddwch yn eu gweld nhw gan eich bod yn dilyn plaid wleidyddol, neu am fod ffrind wedi rhannu eu neges.