Beth mae’r hysbyseb hon yn ei ddweud wrthyf i?

Credu eich bod chi'n nabod hysbysebion gwleidyddol?

Beth mae’r hysbyseb hon yn ei ddweud wrthyf i?

Gobeithiwn ein bod wedi taflu peth goleuni ar hysbysebu gwleidyddol, ac ein bod wedi eich cyfeirio at sefydliadau a all helpu os oes gennych unrhyw bryderon. 

Ond dim ond man cychwyn yw gwybod beth sy’n cael ei ganiatáu ai peidio. Chi sy’n penderfynu p’un a ydych wedi eich perswadio gan hysbyseb benodol. A yw’n cyfnerthu neu yn gwrthddweud eich safbwyntiau ar bwnc penodol? Ydych chi’n credu ei bod yn rhoi sylw i’r manylion, neu a yw’n gorsymleiddio materion? Yw’r hysbyseb rydych wedi ei gweld yn rhoi syniad da i chi o safbwynt polisi plaid neu ymgyrchydd?;

Un ffordd i ateb y cwestiynau hyn yw siarad â’ch teulu, ffrindiau neu gydweithwyr i ddarganfod beth maen nhw’n ei feddwl am hysbyseb wleidyddol ar-lein. Yna, os oes gennych amser, gallwch wneud rhagor o ymchwil. Darllenwch faniffestos, gwrandewch ar ymgyrchwyr, gofynnwch gwestiynau uniongyrchol. Gallwch hefyd weld beth mae gwirwyr ffeithiau yn ei ddweud. Po fwyaf gwybodus ydych chi, mwyaf sicr y byddwch o ran a yw hysbyseb wleidyddol ar-lein yn cyflwyno materion mewn modd teg.