Honiadau a wneir mewn hysbysebion gwleidyddol ar-lein
Introduction
Camdybiaeth gyffredin yw nad oes unrhyw un i gwyno iddynt am hysbysebion gwleidyddol ar-lein. Ond a oeddech chi’n gwybod y gall ystod o sefydliadau helpu i fynd i’r afael â’r rhan fwyaf o bryderon?
Hysbysebion gwleidyddol ar-lein, dewch i’w nabod fel maen nhw’n eich nabod chi
Mae’n drosedd gwneud neu gyhoeddi datganiad anwir am gymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd, ond ar wahân i hynny a’r cyfreithiau ynghylch cyhoeddi deunydd sarhaus, nid oes cyfyngiad ar yr hyn y gall ymgeiswyr neu ymgyrchwyr ei ddweud mewn deunyddiau ymgyrchu.
Ond nid yw hynny’n golygu na allwch amlygu pryderon.
Honiadau a wneir mewn hysbysebion gwleidyddol ar-lein
Dyna fater i’r heddlu. P’un a yw’n hysbyseb brint neu hysbyseb ar-lein, adroddwch i’r heddlu am eich pryderon.
Nid yw’r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn rheoleiddio honiadau mewn hysbysebion a fwriadwyd at ddylanwadu ar bleidleiswyr mewn etholiadau lleol, rhanbarthol neu ryngwladol, nac ychwaith refferenda.
Fodd bynnag, mae’r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn rheoleiddio honiadau a wneir mewn hysbysebion gan lywodraeth ganolog a llywodraeth leol, nad ystyrir eu bod yn rhan o ymgyrch etholiad neu refferendwm - er enghraifft, ymgyrch rhoi’r gorau i ysmygu gan adran iechyd. Mewn rhai amgylchiadau, lle mae hysbyseb yn ymddangos mewn gofod y talwyd amdano, ac nid yw wedi ei bwriadu at ddylanwadu ar bleidleiswyr, mae hefyd yn rheoleiddio hysbysebion am faterion gwleidyddol, er enghraifft, estyniad arfaethedig i faes awyr, a osodir gan unigolyn, busnes, elusen, ymgyrch/grŵp buddiant, neu sefydliad o fath arall. Nid yw ei gylch gwaith yn cynnwys ‘achosion a syniadau’ mewn gofod hysbysebu na thalwyd amdano, megis pamffledi neu wefannau.
Weithiau mae’n anodd pennu a yw hysbyseb yn ymwneud â mater gwleidyddol, a yw wedi ei chynnal gan y llywodraeth, neu yn rhan o ymgyrch etholiadol. Os oes amheuaeth gennych, mae’r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn argymell eich bod yn cysylltu â nhw yn gyntaf i ddweud wrthynt beth rydych yn ei feddwl.
Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad hynny, gallwch wedyn gwyno i’r Awdurdod Safonau Hysbysebu.
Yr Awdurdod Safonau Hysbysebu
Yr Awdurdod Safonau Hysbysebu
Mae’r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn rheoleiddio hysbysebu cyffredinol, hyrwyddiadau gwerthu, a marchnata uniongyrchol ar draws y cyfryngau. Rhaid i bob hysbyseb fod yn “gyfreithiol, gweddus, onest, a geirwir.” Fel rheoleiddiwr annibynnol, mae’r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn gorfodi Codau Hysbysebu. Mae yna godau ar wahân ar gyfer hysbysebion nad ydynt yn ddarllediadau (a adwaenir fel Cod CAP) ac hysbysebion darlledu (a adwaenir fel Cod BCAP). Mae gan y ddau god reolau sydd, ar y cyfan, yn gorgyffwrdd, ac maent yn gwahardd triniaeth wahaniaethol a/neu niwed neu sarhad. Mae hysbysebion a fwriadwyd at ddylanwadu ar bleidleiswyr mewn etholiadau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol, neu ryngwladol, neu refferenda, wedi eu heithrio o’r ddau god.
Honiadau a wneir mewn hysbysebion gwleidyddol ar-lein
Mae Awdurdod Ystadegau’r DU a’i gangen statudol, y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, yn gweithio i hyrwyddo a diogelu cynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol. Cyn etholiadau a refferenda, mae Awdurdod Ystadegau’r DU a’i gangen weithredol, y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, yn annog pleidiau gwleidyddol i sicrhau y canlynol:
- dylai ffynonellau ystadegol fod yn glir ac yn hygyrch i bawb
- dylai unrhyw gafeatau neu gyfyngiadau yn yr ystadegau gael eu parchu
- ni ddylai ymgyrchoedd ddethol rhifau unigol sy’n cyfleu darlun gwahanol i hwnnw a grëir gan yr ystadegau fel cyfanwaith
Os byddwch yn gweld hysbyseb ar-lein nad yw’n dilyn y canllawiau hyn, gall Awdurdod Hysbysebu’r DU a’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau helpu.
Awdurdod Ystadegau’r DU
Awdurdod Ystadegau’r DU
Mae Awdurdod Ystadegau’r DU, a’i gangen weithredol, Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, ill dau yn gyrff sy’n annibynnol ar y llywodraeth. Eu hamcan statudol yw hyrwyddo a diogelu cynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol sydd ‘er budd y cyhoedd.’ Mae budd y cyhoedd yn cynnwys:
- hysbysu’r cyhoedd am faterion cymdeithasol ac economaidd
- cynorthwyo datblygu a gwerthuso polisi cyhoeddus
- rheoleiddio ansawdd, a herio camddefnydd ar ystadegau yn gyhoeddus
Er y gallai ystadegau gynnig cefnogaeth gadarn i ddadleuon gwleidyddol, mae Awdurdod Ystadegau’r DU, wedi ei gefnogi gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, yn cynghori arweinwyr pleidiau yn rheolaidd cyn etholiadau a refferenda bod camddefnyddio ystadegau yn niweidio eu hunionder, yn creu dryswch, ac yn tanseilio ymddiriedaeth ynddynt. Gall hefyd beri bod dadleuon yn canolbwyntio’n ormodol ar yr ystadegau, gan dynnu sylw oddi wrth y materion eu hunain. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod y craffu cyhoeddus dwys ar ymgyrchoedd etholiadol, lle gall camwybodaeth ledu’n gyflym.
Mae gan awdurdod Ystadegau’r DU a’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau bolisi ymyrryd sy’n llywio eu gwaith o ran gwneud datganiadau ar ddefnydd ystadegau mewn dadleuon cyhoeddus. Mae’r polisi hwn yn cydnabod bod ymgeiswyr am berswadio pleidleiswyr ynghylch eu cynigion, ac mae’n rhan o ddadlau gwleidyddol normal iddynt dynnu ar ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys ystadegau, i gyflwyno eu hachos. O’r herwydd, nid yw Awdurdod Ystadegau’r DU a’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau yn ceisio gwirio geirwiredd pob datganiad, neu wirio pob datganiad a gyflwynwyd fel ffaith; yn hytrach, maent yn sicrhau nad yw’r ystadegau a ddefnyddir yn cael eu camgynrychioli - os ydynt, maent yn egluro sut dylid eu dehongli.
Honiadau a wneir mewn hysbysebion gwleidyddol ar-lein
Ni chaniateir hysbysebu gwleidyddol ar y teledu neu ar y radio yn y DU. Mae hyn yn cynnwys hysbysebion a ddyluniwyd i wneud y canlynol:
- dylanwadu ar ganlyniad etholiadau a refferenda
- hyrwyddo buddiannau plaid
- peri newidiadau i’r gyfraith
- dylanwadu ar farn y cyhoedd ynglŷn â mater cyhoeddus dadleuol
Yn hytrach, caiff pleidiau gwleidyddol gyflwyno darllediadau pleidiau gwleidyddol, ac ni chaiff y rhain eu hystyried yn hysbysebu.
Os oes gennych bryderon bod hysbyseb rydych wedi ei gweld neu ei chlywed yn hysbysebu gwleidyddol, yna gallwch gwyno i Ofcom. Mae Ofcom hefyd yn ymchwilio p’un a yw rhaglenni ar y teledu a’r radio wedi cadw at ei reolau o ran didueddrwydd a chywirdeb.
Ofcom
Ofcom
Mae Ofcom yn rheoleiddio’r teledu, y radio, a gwasanaethau fideo ar-alw. Rhaid i ddarlledwyr sy’n meddu ar drwydded Ofcom gadw at y rheolau a nodir yn y Cod Darlledu, ac mae Ofcom yn asesu pob rhaglen, a chwynion yn erbyn y rheolau hyn. Yn ystod cyfnod etholiad, rhaid i ddarlledwyr gadw at y rheolau yn Adran Chwech y Cod Darlledu sy’n cwmpasu etholiadau a refferenda. Mae hyn yn cynnwys rheolau sy’n gofyn i ddarlledwyr sicrhau bod pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol yn cael lefelau priodol o sylw.
Mae Ofcom yn asesu pob cwyn cyn penderfynu a fydd yn ymchwilio iddynt ai peidio. Oherwydd pwysigrwydd etholiadau, gallant hwyluso cwynion am y modd y darlledir etholiadau. Yn ystod cyfnodau etholiadau, mae Ofcom yn galw ynghyd Bwyllgor Etholiadau
sy’n cynnwys aelodau eu prif fwrdd a’u Bwrdd Cynnwys arbenigol. Mae’r pwyllgor yn ymdrin â chynhennau rhwng darlledwyr a phleidiau gwleidyddol am ddyraniad darllediadau etholiadol pleidiau, yn ogystal ag ymchwilio i gŵynion sylweddol maent yn eu derbyn am raglenni a ddarlledir yn ystod cyfnod yr etholiad. Yn ôl Siarter y BBC, ymdrinnir â chwynion am raglenni’r BBC fel arfer gan y BBC i gychwyn, ac mae Ofcom yn disgwyl iddynt ymdrin â’r cwynion maent yn eu derbyn yn ystod etholiadau mor fuan â phosib. Ond os bydd rhywun yn anhapus â’r modd y mae’r BBC wedi ymdrin â’u cwyn, gallant gysylltu ag Ofcom ynghylch eu hachos. Os yw’r gŵyn yn ymwneud â theledu neu radio y BBC, bydd Ofcom yn ei hasesu er mwyn penderfynu a yw’n codi unrhyw faterion a fyddai’n destun ymchwiliad yn ôl eu Cod.
Darganfyddwch ragor am rôl Ofcom yn ystod etholiad cyffredinol