Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol yn cael ei phenodi i arwain corff masnach newydd
Diogelu diwydiant domestig rhag masnachu annheg ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd
Mae Claire Bassett wedi ei phenodi i'r Adran dros Fasnach Ryngwladol fel Darpar Brif Weithredwr ar yfer Awdurdod Datrysiadau Masnach y dyfodol, fydd yn gyfrifol am ddarparu diogelwch i ddiogelu diwydiant domestig rhag arferion masnachu annheg ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Syr John Holmes, Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol:
Hoffwn roi fy llongyfarchion gwresog i Claire a dymuniadau gorau at bob llwyddiant i'r dyfodol yn y rôl newydd yma. Mae'r tair blynedd diwethaf wedi cynnwys amrywiaeth digynsail o heriau cymhleth i reoleiddiwr cyllid gwleidyddol y DU ac i'n proses ddemocrataidd. Yn ystod yr amser yma mae Claire wedi gweithio'n galed ym mudd pleidleiswyr, i fod yn bencampwr tryloywder a thegwch i sicrhau bod cylch gorchwyl y sefydliad yn cael ei gyflawni'n effeithiol. Mae ei hegni i sicrhau bod y Comisiwn yn reoleiddiwr deinamig ac effeithiol wedi bod yn glir, a dyna fydd hi'n gadael ar ei hôl. Mae'r Bwrdd a minnau yn diolch yn fawr iddi am ei gwaith a'i hymrwymiad ac yn dymuno pob dymuniad da iddi i'r dyfodol.
Dywedodd Claire Bassett:
Rwy'n falch iawn i'r gwaith mae'r Comisiwn Etholiadol wedi gwneud dros y tair blynedd diwethaf. Ry'n ni wedi cymryd camau pwysig ymlaen i fod yn reoleiddiwr modern, ac mae hyn ond wedi bod yn bosibl oherwydd sgiliau a gwaith y tîm yr wyf wedi cael y fraint o'u harwain. Byddaf yn gweld eisiau'r Comisiwn a phawb sy'n gweithio yma, ond rwy'n hyderus fy mod yn ei adael mewn dwylo da, a'i fod yn barod i gamu ymlaen i'r cam nesaf. Rwy'n edrych ymlaen at gymryd y gwersi rwy wedi eu dysgu i'r Awdurdod Datrysiadau Masnach.
Bydd Claire yn gadael y Comisiwn ddiwedd y flwyddyn. Bydd Bob Posner sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Cyllid Gwleidyddol a Rheoleiddio a Chwnsler Cyfreithiol, yn brif weithredwr dros dro nes bod penodiad parhaol.
Ymunodd Bob â'r Comisiwn Etholiadol yn 2007, ac mae ganddo brofiad helaeth dros nifer o flynyddoedd mewn cydymffurfiaeth reoleiddiol a chynghori ar gyfrith gyhoeddus. Roedd yn swyddog canlyniadau ar gyfer nifer o etholiadau tra'r oedd yn gweithio fel Cyfarwyddwr a Dirprwy Brif Weithredwr mewn llywodraeth leol, mae'n Fargyfreithiwr, mae ganddo radd Meistr mewn rheoli busnes ac yn gyd-olygydd Schofield's Election Law.
Ychwanegodd Syr John:
Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Bob. Bydd yn dod â gwybodaeth ddofn o waith y Comisiwn ac ymrwymiad cryf i wasanaethu buddion pleidleiswyr. Bydd hefyd yn rhoi dilyniant pwysig tra bod y broses penodi yn mynd rhagddi, i ddod o hyd i brif weithredwr parhaol, i sicrhau bod cynlluniau a blaenoriaethau allweddol y Comisiwn yn gallu mynd rhagddynt.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Ar gyfer ymholiadau i'r Adran Masnach Rhyngwladol a'r Awdurdod Datrysiadau Masnach, cysylltwch â'u swyddfa'r cyfryngau drwy:
- 020 7215 2000
- newsdesk@trade.gov.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth,
- gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.