Overview

Cyn etholiadau a refferenda, mae cyfnod a reoleiddir ar gyfer yr ymgyrch sy'n cyfyngu ar wariant.

Etholiadau

Mae terfynau gwariant yn ystod ymgyrchoedd etholiadol yn gymwys i'r canlynol: 

  • ymgeiswyr
  • pleidiau gwleidyddol
  •  ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau

Mae'r terfynau hyn yn amrywio ar gyfer etholiadau gwahanol.

Rhaid i ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol wneud y canlynol: 

  • cofnodi'r hyn y maent yn ei wario yn ystod yr ymgyrch etholiadol
  • bydd pleidiau'n rhoi gwybod i ni am eu gwariant mewn ffurflen gwariant
  • bydd ymgeiswyr yn rhoi gwybod i'r swyddog canlyniadau am eu gwariant

Rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gofrestru â ni os ydynt yn bwriadu gwario mwy na swm penodol yn ystod yr ymgyrch. Y symiau hyn yw:

  • £20,000 yn Lloegr
  • £10,000 yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Ar ôl i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gofrestru â ni, rhaid iddynt gofnodi eu gwariant, a rhoi gwybod i ni amdano. 
 

Refferenda

Rydym yn rheoleiddio refferenda a gynhelir o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (refferenda PPERA). Nid ydym yn rheoleiddio mathau eraill, megis refferenda llywodraeth leol.

Gall ymgyrchwyr wario hyd at £10,000 mewn refferendwm PPERA heb gofrestru â ni. 

Os bydd ymgyrchwyr am wario mwy na £10,000, rhaid iddynt gofrestru â ni a dilyn rheolau gwariant ar ymgyrchu. Rhaid i ymgyrchwyr wneud y canlynol: 

  • dilyn terfynau gwariant
  • penderfynu a allant dderbyn rhoddion yn seiliedig ar bwy sy'n eu cyflwyno
  • cofnodi'r hyn y maent yn ei wario yn ystod ymgyrch y refferendwm

Ar ôl y refferendwm, rhaid i ymgyrchwyr cofrestredig roi gwybod i ni am eu gwariant mewn ffurflen gwariant.

Grŵp ymgyrchu arweiniol

Gall ymgyrchwyr cofrestredig mewn refferendwm wneud cais i fod yn grŵp ymgyrchu arweiniol ar gyfer un ochr i'r ddadl. Gelwir y rhain yn "sefydliad dynodedig" hefyd.

Mae grwpiau ymgyrchu arweiniol: 

  • yn cael terfyn gwariant uwch nag ymgyrchwyr cofrestredig eraill
  • yn cael cyllid er mwyn anfon gwybodaeth at bleidleiswyr
  • yn gallu bod yn rhan o ddarllediadau mewn ymgyrch refferendwm
  • yn gallu defnyddio ystafelloedd cyhoeddus penodol am ddim
  • yn cael grant gennym

Gwariant ar ymgyrchu mewn etholiadau a refferenda yn y gorffennol

Rhagor o wybodaeth am yr hyn a wariwyd gan ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn ystod ymgyrchoedd ar gyfer etholiadau a refferenda yn y gorffennol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 July 2019
Next review: 10 July 2020