Arian cyhoeddus ar gyfer pleidiau gwleidyddol
Grantiau Datblygu Polisi
Bob blwyddyn, cawn £2 filiwn gan Senedd y DU i'w ddyrannu i bleidiau gwleidyddol fel Grant Datblygu Polisi.
Mae'r grant yn rhoi cyllid i bleidiau gwleidyddol er mwyn datblygu polisïau i'w cynnwys yn eu maniffestos etholiadol.
Mae'r grant ond ar gael i bleidiau sydd ag o leiaf ddau aelod presennol o Dŷ'r Cyffredin, sydd wedi tyngu llw o deyrngarwch.
Rydym yn dosbarthu £1 filiwn gyntaf y grant yn gyfartal rhwng y pleidiau cymwys.
Yna rydym yn defnyddio fformiwla er mwyn cyfrifo faint o'r £1 filiwn sy'n weddill sydd ar gael i'w ddosbarthu i'r pleidiau. Mae'r fformiwla yn seiliedig ar y canlynol:
- cyfran yr etholwyr cofrestredig lle mae'r blaid yn ymladd etholiadau (Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon)
- cyfran y bleidlais y cafodd y blaid ym mhob rhan o'r DU
Yn ein cyfrifiadau, rydym yn defnyddio data etholwyr gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Y rhain yw'r ffigurau a ddefnyddiwyd gennym yng nghyfrifiadau eleni:
Rhan o'r DU | Etholwyr |
---|---|
Lloegr | 38,371,414 |
Cymru | 2,230,104 |
Yr Alban | 3,925,820 |
Gogledd Iwerddon | 1,248,420 |
Ar ôl i ni gyfrifo faint y gall pob plaid wneud cais amdano, byddwn yn eu gwahodd i gyflwyno eu cais. Bydd angen i'r cais gynnwys y gweithgareddau datblygu polisi y mae'r blaid yn eu cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Bydd pleidiau yn aml yn cynnwys pob un o'u gweithgareddau datblygu polisi, hyd yn oed os bydd cyfanswm y gost yn fwy na'r hyn y gallant wneud cais amdano
Os byddwn yn cymeradwyo'r cais, byddwn yn rhoi hyd at 75% o'r grant ymlaen llaw.
Ar ddiwedd y flwyddyn, bydd y pleidiau'n cyflwyno adroddiad terfynol ar gostau, gan gynnwys eu gweithgareddau gwirioneddol a'r hyn a wariwyd ganddynt. Yna bydd eu gwariant yn mynd drwy broses archwilio.
Yna byddwn naill ai'n talu swm llawn y grant i'r blaid, neu byddwn yn adennill y grant a dalwyd gennym ymlaen llaw os na chafodd ei wario ar weithgareddau datblygu polisi gan y blaid. Os byddwn yn adennill unrhyw grantiau, bydd yr arian yn dychwelyd i gronfa gyfunol y llywodraeth.
Cronfeydd cyhoeddus eraill
Gall pleidiau gwleidyddol hefyd gael cyllid gan gyrff seneddol. Mae hyn yn cynnwys:
- Arian Short, y mae Tŷ'r Cyffredin yn ei dalu i wrthbleidiau
- Arian Cranborne, y mae'r Tŷ'r Arglwyddi yn ei dalu i'r wrthblaid a'r wrthblaid fwyaf ond un yn Nhŷ'r Arglwyddi
- Cymorth Ariannol, y mae Senedd yr Alban yn ei dalu i wrthbleidiau yn Senedd yr Alban
- Cymorth Ariannol, y mae Senedd Gogledd Iwerddon yn ei dalu i wrthbleidiau yn Senedd Gogledd Iwerddon
Pryd rydym yn cyhoeddi gwybodaeth
Rydym yn cynnwys gwybodaeth am yr arian cyhoeddus y mae pleidiau gwleidyddol wedi'i gael pan fyddwn yn cyhoeddi'r rhoddion bedair gwaith y flwyddyn.
Rydym hefyd yn cyflwyno sylwadau ar arian cyhoeddus yn ein hadroddiad blynyddol.
Tagiau cysylltiedig
- Campaigner
- Funding
- Journalist
- UK wide
- Voter