Rhaid i bleidiau gwleidyddol roi gwybod am roddion y maent yn eu derbyn a rhoi gwybodaeth am bwy a'u rhoddodd, gan gynnwys rhoddion sy'n dod o arian cyhoeddus. Rydym yn cyhoeddi'r holl wybodaeth rydym yn ei chael ar Cyllid Gwleidyddol Ar-lein.
Mae'r rheolau ar gyfer cyhoeddi'r wybodaeth hon yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn caniatáu i ni gyhoeddi unrhyw wybodaeth am roddion na benthyciadau o'r cyfnod cyn 1 Gorffennaf 2017.
Cyllid cyhoeddus a dderbyniwyd gan bleidiau cofrestredig wedi'i ddadansoddi yn ôl rhoddwr
Mae'r tabl hwn yn dangos cyllid cyhoeddus a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol, wedi'i ddadansoddi yn ôl rhoddwyr unigol. Gallwch weld data o Brydain Fawr neu Ogledd Iwerddon neu gyfuno'r wybodaeth.
Mae'r wybodaeth yn chwiliadwy o bob chwarter o 2001 ymlaen.
Tabl: Cronfeydd cyhoeddus a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol yn ôl math
Siart: Cronfeydd cyhoeddus a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol yn ôl math