Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21

Trosolwg

Mae'r adran hon yn darparu trosolwg o'r Comisiwn Etholiadol, ein diben, ein perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a'r risgiau allweddol a allai beryglu ein gallu i gyflawni ein nodau.

Rydym wedi cynnwys gwybodaeth ariannol gryno yn yr adroddiad ar berfformiad. Mae'r wybodaeth hon yn gyson â'r datganiadau ariannol, lle mae rhagor o fanylion ar gael.

Cafodd y Comisiwn Etholiadol ei sefydlu gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Rydym yn annibynnol ar y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol ac yn uniongyrchol atebol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban.

Rydym wedi paratoi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020/21 yn unol â chyfarwyddyd cyfrifon, a gyhoeddir gan Drysorlys EM o dan baragraff 17 (2) o Atodlen 1 PPERA. 

Rydym wedi paratoi'r adroddiad ar bwerau a sancsiynau ar dudalen 43yn unol â pharagraff 15 Atodlen 19(b) a pharagraff 27 Atodlen 19(c) PPERA. 

Foreword

Amdanom ni

Ein rôl

Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb.

Ein gweledigaeth a'n nodau

Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad sector cyhoeddus o'r radd flaenaf – yn arloesol, yn sicrhau gwerth gwych ac yn cyflawni'r hyn sydd bwysicaf i bleidleiswyr a deddfwyr.

Yn 2020/21 gwnaethom weithio tuag at gyflawni pedwar nod:

  1. Galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
  2. Sicrhau system y gellir ymddiried fwyfwy ynddi a system gynyddol dryloyw o reoleiddio ym maes cyllid gwleidyddol, goruchwylio cydymffurfiaeth, hyrwyddo dealltwriaeth ymhlith y rhai sy'n cael eu rheoleiddio a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
  3. Bod yn ganolfan arbenigedd annibynnol uchel ei pharch, gan ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth i wella tryloywder, tegwch ac effeithlonrwydd ein system ddemocrataidd ymhellach, a helpu i'w haddasu i'r oes fodern, ddigidol
  4. Darparu gwerth am arian, gan wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau a'n harbenigedd er mwyn darparu gwasanaethau sy'n berthnasol i'r hyn sydd bwysicaf i bleidleiswyr. Mae'r nod hwn yn sail i'n holl waith ac yn ei ategu

Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni'r nodau hyn yn 2021/22.

Ein rôl ledled y DU

Rydym yn cyflawni ar ran pleidleiswyr ym mhob rhan o'r DU ac mae gennym swyddfeydd yng Nghaerdydd, Belfast, Caeredin a Llundain. Rydym yn cydweithio'n agos â llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig ac, o fis Ebrill 2021, bydd gennym atebolrwydd newydd i Senedd Cymru a Senedd yr Alban. 
 
 

Cipolwg ar y flwyddyn 2020/21

Ebrill – Mehefin 2020

  • Gwnaethom sefydlu Tîm Rheoli Argyfwng i gydgysylltu ein hymateb, ac ehangwyd ein cyfleusterau fideogynadledda er mwyn sicrhau y gallem gyfathrebu â'n gilydd ac â rhanddeiliaid.
  • Gwnaethom lansio adnodd ar-lein newydd er mwyn i'r cyhoedd allu gweld a dadansoddi ffurflenni gwariant ymgeiswyr o etholiad cyffredinol y DU yn 2019
  • Gwnaethom ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol ar y Ddeddf Seneddau Tymor Penodol
  • Cyhoeddodd Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi ar Ddemocratiaeth a Thechnolegau Digidol ei adroddiad, a oedd yn cefnogi llawer o gynigion polisi'r Comisiwn a oedd wedi bodoli ers tro.
  • Yn fewnol, gwnaethom lansio Strategaeth Pobl y Comisiwn.
  • Rhoddodd y Comisiwn dystiolaeth gerbron y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus, ar ôl iddo lansio adolygiad newydd o reoliadau etholiadol.

Gorffennaf – Medi 2020

  • Gwnaethom gynnal arolwg o lesiant ein staff
  • Roedd ein hymgyrch yn targedu pleidleiswyr a oedd newydd gael yr etholfraint, gyda chyfres o hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol, ar y radio ac ar ddeunydd argraffedig.
  • Gwnaethom gwblhau ein gwaith ymchwil cyntaf ar agweddau'r cyhoedd at bleidleisio yng nghyd-destun Covid-19, er mwyn llywio'r paratoadau ar gyfer etholiadau 2021
  • Daethom yn gynghorwyr i Grŵp Cynllunio Etholiadau Cymru, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog i ddod i gonsensws ynghylch y ddeddfwriaeth sydd ei hangen i sicrhau bod etholiadau yn cael eu cynnal yn effeithiol yn sgil pandemig Covid-19
  • Gwnaethom gynnal adolygiad mewnol i ddysgu gwersi o'n hymateb i gamau cychwynnol y pandemig
  • Gwnaethom gyhoeddi canllawiau craidd wedi'u diweddaru ar gyfer gweinyddwyr etholiadol ac ymgeiswyr ac asiantiaid i'w helpu i baratoi ar gyfer yr etholiadau ym mis Mai 2021 a'u cynnal

Hydref – Rhagfyr 2020

  • Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad monitro blynyddol ar safonau'r Gymraeg
  • Gwnaethom gyflwyno ein Hamcangyfrif ariannol cyntaf i Bwyllgor y Llywydd a Senedd yr Alban, fel rhan o'r broses o sefydlu ein hatebolrwydd newydd i'r seneddau datganoledig
  • Gwnaethom gyhoeddi rhan gyntaf ein canllawiau atodol i helpu gweinyddwyr etholiadol i reoli effeithiau COVID ar yr etholiadau
  • Gwnaethom lansio cyfres newydd o adnoddau ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru a'r Alban er mwyn addysgu pobl ifanc yng Nghymru am eu pleidlais a'r broses ddemocrataidd.
  • Gwnaethom gydweithio â llywodraethau a seneddau'r DU, Cymru a'r Alban ar eu priod ddeddfwriaeth i baratoi ar gyfer cynnal etholiadau yn ystod y pandemig.
  • Gwnaethom gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Bwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ar Weinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol a rhoddwyd tystiolaeth ar lafar i Bwyllgor newydd Llywydd y Senedd
  • Ar ôl cyfnod o bedair blynedd fel Cadeirydd, ymadawodd Syr John Holmes â'r Comisiwn. Dechreuodd John Pullinger CB yn ei swydd ym mis Mai 2021 

Ionawr – Mawrth 2021

  • Gwnaethom drefnu seminar cyn etholiad ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn yr Alban ar y cyd â Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban
  • Gwnaethom lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Gweithredu Anabledd drafft yn unol â dyletswyddau cydraddoldeb statudol yng Ngogledd Iwerddon
  • Gwnaethom sefydlu tasglu Siarter Hil yn y Gwaith er mwyn ehangu ein gwaith i wella amrywiaeth a chydraddoldeb
  • Dechreuodd gwaith i ailwampio ein swyddfeydd yn Llundain er mwyn gwella'r ffordd rydym yn gweithio
  • Nodwyd wythnos ymwybyddiaeth ‘Croeso i dy Bleidlais’ yng Nghymru a'r Alban drwy gynnal digwyddiadau rhithwir a rhannu adnoddau i ennyn diddordeb pleidleiswyr a oedd newydd gael yr etholfraint
  • Gwnaethom drefnu'r Seminar Lleihau ac Atal Achosion o Dwyll Etholiadol flynyddol ar y cyd â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu
  • Gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar agweddau'r cyhoedd at dryloywder cyllid pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yng Ngogledd Iwerddon
  • Gwnaethom gytuno ar Ddatganiad o Egwyddorion Cyllido yng Nghymru, yr Alban a San Steffan, gan nodi'r gydberthynas ariannol newydd rhyngom ni a'r tair ddeddfwrfa;  Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Senedd y DU.

Ein blwyddyn mewn ffigurau

  • Defnyddiwyd gwerth £20.4m o adnoddau, gan gynnwys £1.3m o wariant cyfalaf
  • Buddsoddwyd 56% o'n gwariant adnoddau ar gostau staff (£10.7m) 
  • Cyflawnwyd sgôr ymgysylltu â chyflogeion o 72% sgôr ymgysylltu â chyflogeion
  • Atebwyd 4,463 o ymholiadau gan y cyhoedd – gostyngiad o 569% o gymharu â'r flwyddyn ddiwethaf am na chynhaliwyd unrhyw ddigwyddiadau etholiadol y flwyddyn hon 
  • Ymatebwyd i 153 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth
  • Cyhoeddwyd 1,186 o ffurflenni ariannol rheolaidd gan bleidiau ac ymgyrchwyr 
  • Hysbyswyd 58% o'r 134 o geisiadau i gofrestru pleidiau am eu canlyniad o fewn 30 diwrnod 
  • Cwblhawyd 54 o ymchwiliadau, 94% ohonynt o fewn 180 diwrnod
  • Cyhoeddwyd 888 o ddatganiadau blynyddol o gyfrifon ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac unedau cyfrifyddu
  • Cyhoeddwyd 100% o'n cynhyrchion canllaw yn brydlon, heb wallau sylweddol
  • Ymatebwyd i 2,130 o geisiadau am gyngor gan awdurdodau lleol – 99.39% o fewn 3 diwrnod
  • Casglwyd  £69k o sancsiynau sifil yn ein rôl fel rheoleiddiwr

Lawrlwythwch ein hadroddiad llawn