Dadansoddi perfformiad 2020/21: Nod dau

Goal 2

Sicrhau system y gellir ymddiried fwyfwy ynddi a system gynyddol dryloyw o reoleiddio ym maes cyllid gwleidyddol, goruchwylio cydymffurfiaeth, hyrwyddo dealltwriaeth ymhlith y rhai sy'n cael eu rheoleiddio a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau.

Mae'r nod hwn yn cwmpasu ein rôl reoleiddio. Rydym yn canolbwyntio ar ddau faes sydd wrth wraidd democratiaeth iach;  sicrhau tryloywder, a rheoleiddio da.
 

Cyflawniadau allweddol

Er mwyn sicrhau tryloywder, gwnaethom y canlynol: 

  • cyhoeddi adroddiadau ariannol gan bleidiau ac ymgyrchwyr
  • gweithio gyda phleidiau i gyflwyno adroddiadau ariannol ac addasu ein patrwm o gyhoeddiadau arferol o ganlyniad i'r heriau a wynebwyd gan bleidiau wrth gyflwyno adroddiadau yn sgil y pandemig
  • cofrestru pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr eraill a chyhoeddi manylion mewn cofrestrau ar-lein 
  • llunio canllawiau newydd er mwyn helpu ymgyrchwyr i ddeall a chydymffurfio â gofynion cyfreithiol newydd ar gyfer tryloywder deunydd ymgyrchu digidol a gyflwynwyd gan Senedd yr Alban

Er mwyn cefnogi rheoleiddio da, gwnaethom y canlynol:

  • dod o hyd i ffyrdd newydd hyblyg o barhau i ganolbwyntio ar gefnogi pleidiau ac ymgyrchwyr yn ystod y pandemig
  • adeiladu ar ein gwaith ar wybodaeth reoleiddio i ysgogi rhyngweithiadau rhagweithiol ag ymgyrchwyr unigol
  • gweithredu a rhoi sancsiynau pan gafwyd achosion o dorri cyfraith cyllid gwleidyddol
  • parhau i ddatblygu ein dull rheoleiddio er mwyn rhoi mwy o gymorth i bleidiau ac ymgyrchwyr

 

Mesurau perfformiad

Measures Performance
Rydym yn cyhoeddi ffurflenni ariannol rheolaidd gan bleidiau ac ymgyrchwyr, gan gynnwys datganiadau o gyfrifon, o fewn 30 diwrnod gwaith iddynt ddod i law (targed 100%) 37.99% 
Nis cyflawnwyd1
Rydym yn gwirio o leiaf 25% o'r holl ffurflenni ariannol am gywirdeb a chydymffurfiaeth bob blwyddyn 38.95% 
Cyflawnwyd
Rydym yn cyhoeddi 100% o'r cynhyrchion canllaw yn brydlon heb wallau sylweddol 100% 
Cyflawnwyd
Rydym yn rhoi cyngor cywir o fewn pum i 20 diwrnod i dderbyn y cais, yn dibynnu ar gymhlethdod y cyngor 
(Targed 90%)
94.44% 
Cyflawnwyd
Rydym yn hysbysu ymgeiswyr o ganlyniad eu ceisiadau cofrestru o fewn 30 diwrnod i gais cyflawn 75% o'r amser (Targed – 75%) 58.21%  
Nis cyflawnwyd2
Rydym yn cynnal ymchwiliadau amserol a chymesur y caiff 90% ohonynt eu cwblhau o fewn 180 diwrnod 94.44% 
Cyflawnwyd
Rydym yn anfon 90% o'r hysbysiadau terfynol yn nodi ein sancsiynau o fewn 21 diwrnod i'r dyddiad cau ar gyfer sylwadau.  94.29%
Cyflawnwyd
Rydym yn gwneud argymhellion rheoleiddio amserol sy'n adlewyrchu'r egwyddorion sy'n llywio ein dull o ymdrin â fframwaith rheoleiddio effeithiol 100% Cyflawnwyd

Ein gweithgareddau yn ystod y flwyddyn

Sicrhau tryloywder

Drwy gydol y flwyddyn, gwnaethom ganolbwyntio ar gyflawni'r cyfrifoldebau rydym yn atebol i seneddau'r DU mewn perthynas â nhw.  Gwnaethom gynnal y cofrestrau o bleidiau gwleidyddol, gan sicrhau mai dim ond pleidiau sy'n bodloni'r profion cyfreithiol a gaiff eu cynnwys ar y gofrestr, a gwnaethom barhau i adolygu disgrifiadau er mwyn helpu pleidleiswyr i nodi'r blaid y mae ymgeiswyr yn sefyll drosti.

Aethom ati i gydweithio â phleidiau ac ymgyrchwyr cyn gynted ag y daeth effaith debygol y pandemig i'r amlwg er mwyn nodi'r heriau a oedd yn gysylltiedig â chyflwyno adroddiadau ariannol yn ystod y pandemig, a gwnaethom addasu ein patrwm o gyhoeddiadau arferol yn briodol.  Gwnaethom gyhoeddi data ar roddion a benthyciadau, datganiadau o gyfrifon, a data gwariant ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2019 cyn gynted â phosibl o ystyried yr oedi dealladwy i'r broses gyflwyno ac, mewn rhai achosion, heb unrhyw oedi o gwbl.

Gwnaethom barhau i ddatblygu porth ar-lein newydd ar gyfer cofrestru pleidiau a chyllid pleidiau a gaiff ei lansio gennym yn 2021. Bydd y porth hwn yn cynnig ffordd well i bleidiau ac ymgyrchwyr gofrestru a chyflwyno ffurflenni ariannol.

Gwnaethom hefyd ddatblygu adnodd ar-lein newydd a oedd yn galluogi pobl i weld data gwariant ymgeiswyr yn dilyn Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2019 mewn ffordd ryngweithiol a hygyrch.   Drwy gyhoeddi'r data yn y fformat hwn, ceir mwy o dryloywder ynghylch yr arian a dderbynnir ac a gaiff ei wario gan ymgeiswyr mewn etholiadau.

Rheoleiddio da

Gwnaethom ddatblygu ein dull o ymdrin â chudd-wybodaeth reoleiddio ymhellach er mwyn bod yn fwy rhagweithiol, nodi achosion yn gyflym ac ymyrryd lle y gallai hynny atal achosion o ddiffyg cydymffurfio neu leihau nifer yr achosion cymaint â phosibl.

Arweiniodd hyn at lai o achosion lle roedd angen cymryd camau gorfodi, a helpodd i atal ymgyrchwyr rhag torri'r rheolau. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar hyn. Rydym hefyd yn datblygu dull mwy systematig o gasglu tystiolaeth ynghylch meysydd lle y gall canllawiau a chymorth wedi'u targedu sicrhau'r budd mwyaf i bleidiau ac ymgyrchwyr.

Gwnaethom sefydlu tîm cymorth rheoleiddio newydd i ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol o roi cymorth rhagweithiol i bleidiau ac ymgeiswyr a'u rhoi ar waith er mwyn eu helpu i gydymffurfio â'r gyfraith. Roedd ein gwaith allgymorth yn cynnwys sesiynau hyfforddi, seminarau a gwaith ymgysylltu arall ag Awdurdod Llundain Fwyaf, y Gymdeithas Llywodraeth Leol, y Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol, ac eraill. Gwnaethom hefyd gynnal arolwg o ymgyrchwyr a oedd yn gofyn iddynt nodi sut roeddent yn disgwyl i'r pandemig effeithio ar eu gweithgareddau yn ystod yr etholiadau ym mis Mai 2021, er mwyn ein helpu i ddeall eu pryderon a'r heriau a oedd yn eu hwynebu yn well.  Drwy ymgymryd â mwy o weithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid a gwaith allgymorth, bu modd i ni roi eglurhad i bleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr am ein gwaith a'n paratoadau ar gyfer yr etholiadau ym mis Mai 2021.

Lluniwyd canllawiau newydd ar gyfer y system argraffnodau digidol a gyflwynwyd gan Senedd yr Alban, ynghyd â'n canllawiau arferol wedi'u teilwra ar gyfer pleidiau, ymgeiswyr, asiantiaid ac ymgyrchwyr mewn da bryd ar gyfer yr etholiadau ym mis Mai 2021 er gwaethaf y nifer anarferol o uchel o etholiadau gwahanol a oedd yn cael eu cynnal a'r angen i ystyried cyfyngiadau'r pandemig.

Arweiniodd y pandemig at ganllawiau newydd eraill, fel Cwestiynau Cyffredin ar ddirymu rheolau ymgeisyddiaeth ar gyfer yr etholiadau a ohiriwyd yn 2020, a chanllawiau ar nawdd a phrisio stondinau cynadleddau digidol ar gyfer cynadleddau plaid.  Yn olaf, parhawyd i ddiweddaru ein canllawiau lle y bo'n briodol, gan gynnwys newidiadau a oedd yn deillio o ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.

Gwnaethom barhau i ddefnyddio ein pwerau ymchwilio a sancsiynu i nodi ac ymateb i achosion o ddiffyg cydymffurfio ac atal achosion o ddiffyg cydymffurfio yn y dyfodol lle y bo'n briodol. Rhoddwyd cosbau ariannol gwerth £34k yn ystod 2020/21 a chafodd gwerth £9k o gyllid nas caniatawyd ei fforfedu'n wirfoddol, gan ddileu'r rhain o'r system cyllid gwleidyddol. Fodd bynnag, ni chymerwyd camau gorfodi lle y cyflwynwyd adroddiadau yn hwyr oherwydd effaith y pandemig.