Ein Tîm Gweithredol
Summary
Mae aelodau ein tîm gweithredol i gyd yn gyfrifol am agweddau gwahanol ar ein gwaith. Maent yn arwain eu timau, ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni'r strategaethau a ddarperir gan Fwrdd y Comisiwn.
Our Executive Team
Fel y Prif Weithredwr, mae Shaun yn arwain y sefydliad, gan roi ar waith strategaethau a gytunwyd gyda Bwrdd y Comisiwn.
Ymunodd Shaun â’r Comisiwn ym mis Ebrill 2022. Daeth o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder lle bu’n arwain ar brosesau cynllunio, paratoadau ac ymateb yr Adran i ddigwyddiadau mawr, gan gynnwys diwedd cyfnod pontio’r UE a Covid-19.
Mae ganddo dros 35 mlynedd o brofiad o weithio o fewn system gyfiawnder y DU. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Prif Weithredwr yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol, Cyfarwyddwr Gwaith Achos Cymorth Cyfreithiol, a Chyfarwyddwr Troseddu yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, Gwasanaeth Llysoedd EM.
Gwobrwywyd CBE i Shaun yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines ym mis Ionawr 2008, i gydnabod ei arweinyddiaeth a’i gyflawniadau yng Nghanolfan Cyfiawnder Cymunedol Gogledd Lerpwl.
Ailsa sy'n gyfrifol am ein canllawiau, sy'n cynnwys canllawiau ar gyfer gweinyddwyr etholiadau am redeg digwyddiadau etholiadol, yn ogystal â'r canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid, pleidiau gwleidyddol a sefydliadau eraill.
Mae Ailsa wedi bod yn y Comisiwn ers dros ddegawd, gan weithio mewn nifer o swyddi gwahanol ers dechrau fel y Swyddog Polisi ac Ymarfer yn yr Alban yn 2003.
Rhwng dechrau 2010 a diwedd 2016, Ailsa oedd Pennaeth Canllawiau, gan arwain ar waith canllawiau, cymorth a safonau perfformiad y Comisiwn. Chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o gefnogi Cadeirydd blaenorol y Comisiwn, Jenny Watson, yn ei rôl fel Prif Swyddog Cyfrif yn refferendwm diweddar yr UE.
Penodwyd Ailsa yn Gyfarwyddwr Gweinyddiaeth Etholiadol ym mis Ionawr 2017.
Louise Edwards yw ein Cyfarwyddwr Rheoleiddio.
Mae'n gyfrifol am ein gwaith rheoleiddio, sy'n cynnwys cyllid a gwariant mewn etholiadau a refferenda, cofrestru pleidiau gwleidyddol a'n gwaith gorfodi.
Yn 2015, penodwyd Louise yn Bennaeth Rheoleiddio.
Cyn ymuno â'r Comisiwn, bu'n gweithio i amrywiaeth o reoleiddwyr gan gynnwys Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol, Ofgem a'r Swyddfa Gartref.
Mae Craig yn goruchwylio gwaith ein timau ymgyrchoedd, cyfathrebu allanol, polisi ac ymchwil, sy'n cynnwys ein hymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a'n hargymhellion ar gyfer newid polisi.
Ymunodd Craig â'r Comisiwn Etholiadol ym mis Awst 2016.
Rhwng mis Chwefror 2013 a mis Gorffennaf 2016, roedd Craig yn Bartner yn yr asiantaeth cyfathrebu corfforaethol Pagefield, gan arwain cyfrifon materion corfforaethol ar gyfer cleientiaid yn amrywio o frandiau amlwladol mawr i elusennau bach. Roedd y rhain yn cynnwys AB InBev, Kellogg’s a HS1 Ltd, y Llyfrgell Brydeinig, y Rheoleiddwr Codi Arian a Sefydliad Roddick.
Treuliodd y 10 mlynedd cyn hynny yn y Gwasanaeth Sifil, mewn cyfres o rolau polisi yn yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a'r Adran Iechyd, gan orffen gyda thair blynedd fel Ysgrifennydd Preifat i'r Gweinidog Diwylliant, Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol. Cyn ymuno â'r Gwasanaeth Sifil, bu Craig yn gweithio mewn swyddfeydd y wasg corfforaethol, gan gynnwys y cwmni cyhoeddi Fourth Estate a'r Llyfrgell Brydeinig.
Mae Craig yn un o ymddiriedolwyr yr elusen gelfyddydol Poet in the City, sy'n creu cynulleidfaoedd newydd ar gyfer barddoniaeth drwy raglen o ddigwyddiadau, comisiynau a gwaith addysg.
Fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, mae'r timau y mae Kieran yn eu goruchwylio yn gyfrifol am reoli a chynorthwyo'r sefydliad o ddydd i ddydd.
Ymunodd Kieran â'r Comisiwn ym mis Mawrth 2018.
Am y 10 mlynedd cyn hynny, bu Kieran yn gweithio ym maes trafnidiaeth, gan ddechrau yn yr Adran Drafnidiaeth lle bu'n arwain y maes strategaeth ariannol ac yn gweithio ar Gemau Olympaidd 2012, cyn ymuno â HS2 fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol. Yn fwyaf diweddar, bu'n gweithio i Highways England fel Cyfarwyddwr Isadrannol yn arwain y Strategaeth Buddsoddi mewn Ffyrdd.
Cyn ymuno â'r Adran Drafnidiaeth, cafodd Kieran yrfa amrywiol yn gweithio yn Nhrysorlys EM, y Sefydliad Siartredig ar gyfer Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ac mewn llywodraeth leol. Mae'n gyfrifydd cymwysedig ac yn un o gymrodorion CIPFA.
Tagiau cysylltiedig
- Journalist
- The Electoral Commission
- UK wide
- Voter