Crynodeb

Ar 23 Mai 2019 pleidleisiodd pobl ledled y DU mewn etholiadau i Senedd Ewrop, a oedd wedi'u hamserlennu o hyd o dan y gyfraith ond na ddisgwyliwyd iddynt gael eu cynnal. I bobl yng Ngogledd Iwerddon a rhannau o Loegr, cynhaliwyd y bleidlais hon yn fuan ar ôl etholiadau lleol a gynhaliwyd ar 2 Mai. 

Er mwyn sicrhau bod modd ymddiried yng nghanlyniadau etholiad, mae angen bod y cyhoedd yn hyderus yn y ffordd y caiff yr etholiad ei weinyddu. Yn ôl ein hymchwil gyda'r cyhoedd, roedd mwyafrif o bobl yn teimlo'n hyderus bod yr etholiadau ym mis Mai 2019 wedi cael eu rhedeg yn dda, ac roedd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn fodlon ar y broses bleidleisio. Ond, ar y cyfan, roedd lefelau hyder yn etholiadau Senedd Ewrop a'r etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr yn is o gymharu ag etholiadau eraill a gynhaliwyd yn ddiweddar. 
 

Crynodeb

Effaith ar hyder yn yr etholiadau

Ymhlith y materion mwyaf nodedig ac anffodus a effeithiodd ar hyder pobl yn yr etholiadau roedd y problemau a wynebwyd gan rai dinasyddion o aelod-wladwriaethau eraill yr UE sy'n byw yn y DU a oedd yn awyddus i bleidleisio yn etholiadau Senedd Ewrop yn y DU. 

Gwnaethom dynnu sylw'r llywodraeth at anawsterau tebyg ar ôl etholiadau Senedd Ewrop yn 2014 a gwnaethpwyd argymhellion ar gyfer newid. Mae'n annerbyniol bod pobl sydd â hawl i bleidleisio wedi cael eu rhwystro rhag gwneud hynny, ac mae'n destun gofid mawr nad aeth llywodraeth y DU i'r afael â'r sefyllfa hon a'i datrys. 

Er mwyn cyflwyno unrhyw newidiadau i'r broses, byddai'r Llywodraeth wedi gorfod cyflwyno deddfwriaeth, ond ni chafodd y gyfraith ei newid cyn etholiad 2019. Gwnaed y sefyllfa'n waeth hefyd am na wnaeth y llywodraeth gadarnhau'r sefyllfa o ran cynnal yr etholiadau hyn ym mis Mai 2019 tan yn hwyr iawn. O ganlyniad, nid oedd Swyddogion Cofrestru Etholiadol wedi anfon ffurflenni datganiad at ddinasyddion yr UE yn y misoedd cyn yr etholiad, fel y byddai wedi digwydd fel arfer.

Cysylltodd etholwyr tramor â ni hefyd yn ystod ac ar ôl etholiadau Senedd Ewrop i fynegi pryder ynghylch y ffaith nad oeddent wedi gallu dychwelyd eu pleidleisiau post mewn pryd i gael eu cyfrif.

Nid yw hyn yn fater newydd ac, unwaith eto, nid yw llywodraethauyu DU wedi mynd i'r afael â'r broblem hon drwy gyflwyno newidiadau i'r gyfraith. O ganlyniad, mae llawer o ddinasyddion y DU sy'n byw dramor ac sydd â'r hawl i bleidleisio yn cael eu hamddifadu o'r cyfle i bleidleisio mewn ffordd sy'n rhesymol ymarferol. 

Byddwn yn parhau i annog y Llywodraeth i fynd ati i gyflwyno ffyrdd newydd o wella mynediad i'r broses bleidleisio ar gyfer etholwyr tramor, fel y gwnaed mewn ffordd hwylus a llwyddiannus mewn democratiaethau tebyg eraill. 

Ymgyrchu digidol 

Parhaodd pleidleiswyr i gael gwybodaeth am ymgyrchoedd etholiadol drwy gyfrwng amrywiaeth o ffynonellau, ac roedd y cyfryngau cymdeithasol ac ymgyrchoedd eraill ar-lein yn ffynhonnell wybodaeth sylweddol ar gyfer y sawl a oedd yn pleidleisio yn etholiadau mis Mai 2019.

Cymerodd y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol mwyaf gamau i wella tryloywder ynghylch hysbysebu gwleidyddol ar gyfer eu defnyddwyr. Nawr, mae angen i lywodraethau'r DU fynd ati fel mater o frys i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i ymgyrchwyr gynnwys argraffnodau ar eu deunydd ymgyrchu digidol er mwyn dangos pwy sydd wedi'i ddosbarthu. 

Rydym hefyd am weld cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn parhau i ddatblygu eu polisiau ar hysbysebu gwleidyddol a'u llyfrgelloedd er mwyn sicrhau eu bod ar waith ar gyfer y gyfres nesaf o etholiadau cenedlaethol neu unrhyw refferenda eraill yn y DU. Mae hyn hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni gyflwyno rheolau rheoleiddiol newydd er mwyn sicrhau bod etholiadau yn cael eu harolygu a'u rheoli'n briodol.

Mae angen i gyfraith etholiadol gael ei diweddaru

Nid materion newydd mo llawer o'r rheini a amlygir yn ein hadroddiad, ac rydym wedi dweud ers cryn amser bod methiant llywodraethau a seneddau i gynnal a diweddaru cyfraith etholiadol yn gywir, ac i fynd i'r afael â'r pwysau ar awdurdodau lleol, wedi datblygu risgiau sylweddol ar gyfer etholiadau sy'n cael eu rhedeg yn dda. 

Dengys etholiadau 2019 fod cyfraith etholiadol yn gynyddol gymhleth a hen ffasiwn ac yn peri risgiau gwirioneddol i bleidleiswyr, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, a gweinyddwyr etholiadol.  

Unwaith eto, dangosodd yr anawsterau a wynebwyd gan rai o ddinasyddion yr UE yn y DU a dinasyddion Prydeinig a oedd yn byw dramor adeg etholiadau Senedd Ewrop ym mis Mai 2019, sut y gall methiant llywodraethau i weithredu ar argymhellion i flaenoriaethu buddiannau pleidleiswyr effeithio ar etholiadau. 

Cynnal etholiadau sy'n cael eu rhedeg yn dda 

Mae gwaith gweinyddu etholiadol effeithiol sy'n rhoi hyder i bleidleiswyr yn dibynnu ar waith cynllunio a rheoli da gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau. 

Bydd angen i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol fod yn barod bob amser i ymateb i ddatblygiadau gwleidyddol annisgwyl, ond dylai llywodraethau sicrhau bod eu penderfyniadau hwythau hefyd yn ategu gwaith cynllunio wrth gefn effeithiol. 

Byddwn yn parhau i bwysleisio'n gryf fod angen i lywodraethau sicrhau eglurder ynghylch y fframwaith cyfreithiol ar gyfer etholiadau o leiaf chwe mis cyn bod angen i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau gyflawni prosesau statudol. 

O ystyried hyn oll, mae'n glod enfawr i'r Swyddogion Canlyniadau a staff etholiadol eraill ledled y wlad eu bod wedi cyflawni'r hyn a wnaethant o dan yr amgylchiadau: etholiadau a gafodd eu rhedeg yn dda ar y cyfan yn wyneb heriau sylweddol. 

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r gymuned etholiadol i ystyried beth arall y gellir ei wneud o fewn y fframwaith presennol i fynd i'r afael â'r heriau sy'n gysylltiedig â gwydnwch a chapasiti mewn gwasanaethau etholiadol lleol. 
 

Profiad pleidleiswyr

Cynnal yr etholiadau – profiad gweinyddwyr etholiadol

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn hyderus bod yr etholiadau ym mis Mai 2019 wedi cael eu rhedeg yn dda ac yn fodlon ar y broses bleidleisio, nodwyd problemau allai fod wedi effeithio ar hyder pobl yn yr etholiadau. 

Fodd bynnag, wrth ystyried y materion hyn, rhaid cofio bod argaeledd adnoddau yn parhau i fod yn her wrth gynnal etholiadau. Mae pwysau ariannol a'r ffaith bod llai o arbenigedd yn y sector, gyda gweinyddwyr medrus yn gadael y proffesiwn heb i unigolion eraill allu gael eu penodi yn eu lle bob amser, yn golygu bod y risgiau sy'n gysylltiedig â chynnal etholiadau effeithiol yn parhau i gynyddu. 

Mae gweinyddwyr yn dibynnu ar gronfa gymharol fach o gyflenwyr meddalwedd arbenigol a rheoli prosesau argraffu, a all hefyd effeithio ar eu gallu i sicrhau bod pleidleiswyr yn cael gwasanaeth o ansawdd uchel. 

At hynny, ar gyfer yr etholiadau hyn, bu'n rhaid aros tan 1 Ebrill 2019 i Lywodraeth y DU roi sicrwydd y byddai unrhyw wariant rhesymol ar waith paratoi wrth gefn yn cael ei ad-dalu ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop. 

Cafodd hyn effaith sylweddol ar allu gweinyddwyr i wneud paratoadau angenrheidiol a chynlluniau effeithiol wrth gefn ar gyfer yr etholiadau hyn. 

Lle'r oedd gweinyddwyr hefyd yn wynebu etholiadau lleol ar ddechrau mis Mai, roedd angen i lawer o weithgarwch ar gyfer y ddwy bleidlais wahanol fynd rhagddo ar yr un pryd, gan ymestyn yr adnoddau prin oedd ar gael yn sylweddol.

Yn y bôn, mae'r dystiolaeth isod yn dangos ymhellach fod cyfraith etholiadol bresennol yn gynyddol gymhleth a hen ffasiwn. Mae'n dangos hefyd nad yw'n addas ar y diben a'i fod yn cyfrannu at faterion sy'n cael effaith uniongyrchol ar bleidleiswyr, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr. 

Mae angen diwygiadau etholiadol sylfaenol er mwyn sicrhau bod etholiadau yn gallu cael eu gweinyddu'n fwy effeithlon, a bod pleidleiswyr ac ymgeiswyr yn gallu cael profiad gwell o'r broses etholiadol. 

Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i weithio gyda'r gymuned etholiadol – gan gynnwys Cymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch Reolwyr Awdurdodau Lleol, Cymdeithas Cyfreithwyr a Gweinyddwyr Awdurdodau Lleol yn yr Alban, Gymdeithas Gweinyddwyr Etholiadol, Sefydliad Assesayr yr Alban o Burdd Rhedi Etholiadol yr Alban – er mwyn ystyried beth arall y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â heriau uniongyrchol capasiti a gwydnwch o fewn gwasanaethau etholiadol awdurdodau lleol. 

Delivering the elections – the experience of electoral administrators

Ymgyrchu yn yr etholiadau

Mae ymgyrchoedd priodol sy'n cyfathrebu'n effeithiol â phleidleiswyr yn rhan ganolog o etholiadau a refferenda sy'n cael eu rhedeg yn dda. Pan fydd ymgyrchwyr yn egluro eu polisïau a'u barn wleidyddol yn glir, gall pleidleiswyr arfer eu hawl i bleidleisio mewn ffordd fwy ystyrlon a hyddysg.

Fel rhan o'r gwaith ymchwil a wnaed gennym gyda'r cyhoedd ar ôl yr etholiadau ym mis Mai 2019, gofynnwyd i bobl a oedd ganddynt ddigon o wybodaeth am yr ymgeiswyr a'r pleidiau a oedd yn sefyll ar gyfer etholiad.

Ar ôl etholiadau Senedd Ewrop, nododd 49% o bobl fod ganddynt ddigon o wybodaeth, ond dywedodd 44% ohonynt y byddent wedi hoffi cael mwy. 
Roedd y ffigurau hyn yn debyg i'r rhai ar gyfer yr etholiadau lleol yn Lloegr, ond yn is na'r rhai a nododd fod ganddynt ddigon o wybodaeth ar gyfer yr etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon (64%).

Gofynnwyd i bobl hefyd o ble y cawsant y wybodaeth honno. O'r rheini a nododd eu bod wedi gweld gwybodaeth, y ffynhonnell fwyaf cyffredin ar gyfer yr holl etholiadau ym mis Mai oedd taflen gan ymgeisydd/plaid wleidyddol. Dengys ffynonellau gwybodaeth eraill, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, isod. 
 

Tabl 1: Y ffynonellau gwybodaeth mwyaf cyffredin am ymgeiswyr a phleidiau sy'n sefyll ar gyfer etholiad
 Y rhai y soniwyd amdanynt amlaf2il mwyaf cyffredin3ydd mwyaf cyffredin4ydd mwyaf cyffredin5ed mwyaf cyffredin

Senedd Ewrop 

Taflen gan ymgeisydd/plaid wleidyddol (54%)Y wasg (38%)Cyfryngau cymdeithasol (26%)Ar lafar/ffrind/teulu (18%)Gwefan ymgeisydd/plaid a gwefan arall (16%)

Llywodraeth Leol – Lloegr

Taflen gan ymgeisydd/plaid wleidyddol (48%)Cyfryngau cymdeithasol (12%)Taflen o ffynhonnell arall (11%)Gwefan fy nghyngor lleol (9%)Ar lafar/ffrind/teulu (8%)

Llywodraeth Leol – Gogledd Iwerddon

Taflen gan ymgeisydd/plaid wleidyddol (70%)Poster neu filfwrdd (36%)Ar lafar/ffrind/teulu (26%)Cyfryngau cymdeithasol (25%)Taflen o ffynhonnell arall (17%)

Campaigning at the elections

Rhagor o wybodaeth

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 November 2019
Next review: 29 September 2020