Results and turnout at the 2017 UK general election

Cyflwyniad

Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn casglu ac yn
dadansoddi data etholiadol ar ôl pob etholiad a refferendwm.

Mae'r adroddiad hwn yn darparu dadansoddiad ar y cyfranogiad yn etholiad cyffredinol Senedd y DU (UKPGE) a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2017 a'r modd y gweinyddwyd yr etholiad hwnnw. Ar gyfer hyn, casglwyd data gan Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol ledled Prydain Fawr a Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon (EONI). Roedd hyn yn cynnwys y datganiad o Ganlyniad y Bleidlais, y Ffurflen K statudol 'Datganiad o ran Papurau Pleidleisio drwy'r Post' a ffurflen data ychwanegol, a nodwyd gan y Comisiwn, a oedd yn cynnwys data yn ymwneud â chofrestru etholiadol, y nifer a bleidleisiodd, pleidleisio absennol a phapurau pleidleisio a wrthodwyd.

Arweiniodd yr etholiad at senedd grog, ac ni enillodd unrhyw blaid fwyafrif cyffredinol. Enillodd y Ceidwadwyr 317 o seddi (42.2% o bleidleisiau) o gymharu â 262 o seddi (40.0% o bleidleisiau) ar gyfer Llafur, 35 o seddi ar gyfer yr SNP (3.1% o bleidleisiau), 12 o seddi (7.4% o bleidleisiau) ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol a 10 sedd (0.9% o bleidleisiau) ar gyfer y DUP.

Tabl 1.1: Crynodeb

 Y rhai sydd â hawl i bleidleisioPleidleiswyr postNifer y pleidleiswyrNifer y pleidleiswyr postNifer a aeth i orsaf bleidleisioPapurau
pleidleisio a
wrthodwyd
Pleidleisiau
drwy'r post
a
wrthodwyd
Lloegr39.3 m18.2%69.3%85.3%66.2%0.2%2.4%
De-ddwyrain
Lloegr
6.5 m17.8%71.4%85.5%68.7%0.3%2.0%
Dwyrain
Canolbarth
Lloegr
4.1 m15.0%67.1%86.0%64.4%0.3%3.7%
Gogleddorllewin
Lloegr
5.3 m19.5%68.0%84.3%64.6%0.2%2.7%
Dwyrain
Canolbarth
Lloegr
3.4 m18.2%69.4%86.6%66.0%0.2%2.5%
Llundain5.5 m16.7%70.2%83.0%68.1%0.3%2.4%
Swydd Efrog
a'r Humber
3.9 m19.3%66.5%85.8%62.4%0.2%2.4%
Dwyrain Lloegr4.4 m17.1%69.9%85.8%67.0%0.2%1.9%
De-orllewin
Lloegr
4.2 m18.9%72.1%86.9%69.0%0.2%2.2%
Gogleddddwyrain
Lloegr
1.9 m26.6%66.1%84.9%60.0%0.2%2.2%
Yr Alban4.0 m19.4%66.8%82.9%63.3%0.1%2.0%
Cymru2.3 m19.4%68.7%84.4%65.3%0.2%2.2%
GI1.2 m1.9%65.6%89.0%65.2%0.4%4.0%
Y DU46.8 m18.0%69.0%85.1%65.9%0.2%2.4%

 

Y rhai sydd â hawl i bleidleisio

Rhoddodd yr etholiad gyfle i fwy na 46.8 miliwn o etholwyr cofrestredig bleidleisio. Er gwaethaf gostyngiad bach (2.7%) yn yr Alban o gymharu ag
etholiad cyffredinol y DU yn 2015, dyma'r nifer fwyaf erioed o etholwyr ar gyfer pleidlais y DU gyfan.

Tabl 2.1: Etholwyr, 2010-2017

 20102015% change
2010-15
2017% change
2015-17
Lloegr38.3 m38.7 m1.1%39.3 m1.4%
Yr Alban3.9 m4.1 m6.1%4.0 m-2.7%
Cymru2.3 m2.3 m0.7%2.3 m0.8%
Gogledd Iwerddon1.2 m1.2 m5.8%1.2 m0.5%
Y DU45.6 m46.4 m1.7%46.8 m1.0%

Ledled y DU, ychwanegwyd mwy nag 1.3 miliwn o etholwyr (2.7% o'r rhai oedd â hawl i bleidleisio) at y gofrestr etholiadol yn ystod yr wythnosau yn arwain at yr etholiad.1

Ledled Prydain Fawr, amcangyfrifwyd bod 2.4 miliwn o geisiadau i gofrestru wedi'u derbyn yn yr wythnosau yn arwain at yr etholiad. Cofnodwyd mwy na thraean ohonynt (36.9%) fel cofrestriadau dyblyg2 ac amcangyfrifwyd bod 226,565 o unigolion wedi gwneud cais i gofrestru ar ôl y dyddiad cau i gofrestru.

Cofnododd Swyddogion Canlyniadau fod tua 10,500 o unigolion wedi ceisio pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad er nad oeddent wedi cofrestru. Caiff y data hyn eu cofnodi yn anghyson ac ni chawsom ffurflen ddata gyflawn gan bob etholaeth.3

Pleidleiswyr tramor

Ledled Prydain Fawr, roedd tua 285,000 o bleidleiswyr tramor cofrestredig (0.6% o'r etholaeth). Roedd hyn yn amrywio o 0.1% mewn 20 etholaeth i 6.0% mewn dwy etholaeth yn Llundain (Dulwich a Gorllewin Norwood a Streatham).4

Tabl 2.2: Pleidleiswyr tramor

RhanbarthPleidleiswyr tramor% o'r rhai sydd â
hawl i bleidleisio
Lloegr260,9870.7%
De-ddwyrain Lloegr56,2080.9%
Gorllewin Canolbarth Lloegr17,1620.4%
Gogledd-orllewin Lloegr24,9160.5%
Dwyrain Canolbarth Lloegr18,2690.5%
Llundain60,3861.1%
Swydd Efrog a'r Humber17,1560.4%
Dwyrain Lloegr28,2180.6%
De-orllewin Lloegr31,1820.7%
Gogledd-ddwyrain Lloegr7,4900.4%
Yr Alban15,7310.4%
Cymru8,4800.4%
Prydain Fawr285,1980.6%

 

Nifer y pleidleiswyr

Mae'r dull o fesur nifer y pleidleiswyr y cyfeirir ato yn yr adroddiad hwn, 'nifer y papurau pleidleisio yn y blwch pleidleisio', yn cynnwys pob pleidlais
ddilys a fwriwyd ('nifer y papurau pleidleisio gyda phleidleisiau dilys') a phleidleisiau a wrthodwyd yn y cyfrif. Mae cyfanswm y pleidleiswyr yn cyfeirio at y pleidleisiau dilys a fwriwyd, y pleidleisiau a wrthodwyd yn y cyfrif, a'r rhai a wrthodwyd ar y cam dilysu papurau pleidleisio drwy'r post cyn y cyfrif.

Mae Tabl 3.1 yn cadarnhau mai dim ond nifer fach o bleidleisiau a fwriwyd na chânt eu neilltuo i ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad. Mae'r ffigur hwn wedi gostwng ychydig ers 2015 a 2010.

Tabl 3.1: Nifer y pleidleiswyr

 Etholwyr Nifer y papurau pleidleisio gyda phleidleisiau dilysNifer y papurau pleidleisio yn y blwch pleidleisioCyfanswm
a bleidleisiodd
Y gwahaniaeth yn y pleidleisiau dilys – cyfanswm (pc)
2017     
Y DU46.8 m68.8%69.0%69.3%0.5
Lloegr39.3 m69.1%69.3%69.7%0.5
Yr Alban4.0 m66.7%66.8%67.1%0.4
Cymru2.3 m68.5%68.7%69.0%0.5
GI1.2 m65.4%65.6%65.7%0.5
2015     
Y DU46.4 m66.2%66.4%66.9%0.7
Lloegr38.7 m66.0%66.2%66.7%0.7
Yr Alban4.1 m71.0%71.1%71.5%0.5
Cymru2.3 m65.7%65.8%66.3%0.6
GI1.2 m58.1%58.4%58.5%0.4
2010     
Y DU45.6 m65.1%65.3%65.8%0.7

Roedd nifer y papurau pleidleisio yn y blychau pleidleisio ledled y DU yn 69.0%, sy'n uwch na'r nifer a bleidleisiodd yn etholiadau 2015 a 2010. 

Ar lefel etholaeth, amrywiodd y nifer a bleidleisiodd o 53.5% yng Ngogledd-ddwyrain Glasgow i 79.9% yn Twickenham. Gwelwyd y cynnydd mwyaf o gymharu â 2015 yn Foyle, lle cafwyd cynnydd o 12.0% yn nifer y rhai a bleidleisiodd.

Tabl 3.2: Etholaethau â'r nifer leiaf a'r nifer fwyaf a bleidleisiodd

Nifer leiaf a bleidleisiodd
Gogledd-ddwyrain Glasgow53.5%

Canol Leeds

53.8%
Dwyrain Glasgow 55.0%
Gorllewin West Bromwich55.2%
Canol Manceinion 55.6%

 

Nifer fwyaf a bleidleisiodd
St Albans79.3%
Caer-wynt79.3%
Gorllewin Rhydychen ac Abingdon79.5%
Richmond Park79.5%
Twickenham79.9%

Papurau pleidleisio a wrthodwyd 

Cyfran y papurau pleidleisio a wrthodwyd yn y cyfrif oedd 0.2%. Mae hyn yn cymharu â 0.3% yn 2015.  

Tabl 3.3: Papurau pleidleisio a wrthodwyd yn y cyfrif, 2015-2017

 20152017Newid (pc)
Lloegr0.4%0.2%-0.1
Yr Alban0.1%0.1%0.0
Cymru0.2%0.2%0.0
GI0.7%0.4%-0.3
Y DU0.3%0.2%-0.1

Cafwyd y lefel uchaf o bapurau pleidleisio a wrthodwyd yng Ngogledd Iwerddon (0.4%) a'r lefel isaf yn yr Alban (0.1%). Ar lefel etholaeth, gwrthododd 81 o etholaethau 0.1% o bapurau pleidleisio. Fel yn 2015, gwelwyd y gyfradd wrthod uchaf yn sedd Llefarydd Tŷ'r Cyffredin,
Buckingham, lle y gwrthodwyd 3.6% o'r pleidleisiau.

Ledled y DU, gwrthodwyd y mwyafrif helaeth o bapurau pleidleisio (71.9%) am nad oeddent wedi cael eu marcio neu am eu bod yn gwbl ddi-rym
oherwydd ansicrwydd. Gwrthodwyd bron chwarter (24.9%) am eu bod wedi pleidleisio dros fwy nag un ymgeisydd.

Tabl 3.4: Rhesymau dros bleidleisiau a wrthodwyd, 2017

 Dim marc
swyddogol
Pleidleisio
fwy nag
unwaith
Ysgrifen neu farc a oedd yn ei gwneud yn bosibl i rywun adnabod y pleidleisiwrHeb ei farcio neu'n ddi-rym oherwydd ansicrwyddGwrthodwyd
yn rhannol
Lloegr0.9%24.0%1.8%72.8%0.5%
Yr Alban0.1%21.7%1.0%77.3%0.0%
Cymru0.1%25.3%1.9%72.7%0.0%
GI0.6%50.0%4.3%45.1%0.0%
Y DU0.8%24.9%1.9%71.9%0.4%

 

Pleidleisio drwy’r post

Cyfanswm y pleidleisiau post a ddosbarthwyd ar gyfer yr etholiad cyffredinol oedd 8.4 miliwn, yn cynrychioli 18.0% o'r holl etholwyr. Mae hyn yn
cymharu â 16.4% yn 2015 a 15.3% yn 2010. 

Ar lefel etholaeth, roedd pleidleiswyr post yn amrywio o 1.0% yng Ngorllewin Belfast i 44.3% yng Ngogledd Newcastle upon Tyne. 

Fel yn 2015, gwelwyd y cynnydd mwyaf o gymharu â'r etholiad blaenorol, yn yr Alban, lle y cynyddodd nifer y pleidleisiau drwy'r post 1.8pc o 17.6% i 19.4%. Erys pleidleisio drwy'r post yn llawer llai cyffredin yng Ngogledd Iwerddon (1.9%) lle mae rheolau gwahanol mewn grym.

Tabl 4.1: Pleidleisio drwy’r post 2015-2017 

 20152017Newid (pc)
Lloegr16.7%18.2%1.5%
Yr Alban17.6%19.4%1.8%
Cymru17.7%19.4%1.7%
GI1.4%1.9%0.5%
Y DU16.4%18.0%1.6%

Mae cyfran y pleidleiswyr drwy'r post sy'n dychwelyd eu papurau pleidleisio bob amser yn fwy na'r nifer sy'n mynd i orsaf bleidleisio: eleni,
defnyddiodd 85.1% o etholwyr drwy'r post eu pleidlais bost o gymharu â 65.9% a aeth i orsaf bleidleisio.

Roedd pleidleisiau post yn cyfrif am 21.6% o'r holl bleidleisiau a gafodd eu cynnwys yn y cyfrif. Mae hyn yn cymharu â 20.5% yn 2015 a 18.8% yn
2009.

Tabl 4.2: Y nifer a bleidleisiodd drwy'r post o gymharu â'r nifer a aeth i orsaf bleidleisio5

 Nifer y pleidleiswyr postNifer a aeth i orsaf bleidleisio
201785.1%65.9%
201585.8%63.2%
201083.2%62.6%

Papurau pleidleisio drwy’r post a wrthodwyd

Mae pecynnau pleidleisio drwy'r post yn gofyn i bleidleiswyr roi eu llofnod a'u dyddiad geni. Wedyn, caiff y manylion adnabod hyn eu cymharu â'r
rhai a roddwyd ar adeg y cais. Os nad yw'r llofnod na'r dyddiad geni yn cyfateb neu os ydynt ar goll, caiff y bleidlais bost ei gwrthod ac ni chaiff ei
chynnwys yn y broses gyfrif.

Ers 2014, mae'n ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol roi gwybod i etholwyr os cafodd eu pleidlais bost ei gwrthod a rhoi'r rheswm/rhesymau
dros ei gwrthod. Gallant hefyd ofyn i'r etholwr ddarparu llofnod cyfredol.

Tabl 4.3: Papurau pleidleisio drwy’r post a wrthodwyd

 Papurau pleidleisio a wrthodwyd fel % o'r amlenni a ddychwelwyd
20172.4%
20153.3%
20103.8%

Mae cyfradd gwrthod pleidleisiau drwy'r post wedi gostwng i 2.4% o 3.3% yn 2015 a 3.8% yn 2010. Roedd y duedd hon yn gyson ledled y DU, yn
amrywio o ostyngiad o 0.9 pwynt canran yn Lloegr a'r Alban i ostyngiad o 1.8 pwynt canran yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r duedd hon yn adlewyrchu gostyngiadau mewn etholiadau lleol yn 2017 ac yn awgrymu y gall y polisi newydd fod yn cael effaith gadarnhaol. 

Caiff bron hanner yr holl bleidleisiau a wrthodwyd (48.5%) eu gwrthod oherwydd gwybodaeth nad yw'n cyfateb. Mewn traean o'r achosion (33.2%),
cafodd pleidleisiau drwy'r post eu gwrthod am fod pleidleiswyr wedi dychwelyd eu hamlenni pleidleisio drwy'r post ond wedi methu â chynnwys y papur pleidleisio ei hun neu'r datganiad dilysu, neu'r ddau.

Tabl 4.4: Rhesymau dros wrthod datganiad pleidleisio drwy'r post 2015 2017 Newid

  20152017Newid (pc)
Gwybodaeth ar gollLlofnod 5.5%5.4%-0.1
Dyddiad Geni4.4%5.0%0.6
Y ddau 10.7%7.9%-2.8
Gwybodaeth ddim yn cyfatebLlofnod 25.0%19.9%-5.1
Dyddiad Geni20.4%21.3%1.0
Y ddau 9.0%7.3%-1.7
Ffurflenni ar gollPapur pleidleisio10.1%24.0%13.9
Datganiad pleidleisio drwy'r post 14.9%9.2%-5.7

Mae'n werth nodi bod y canrannau hyn ond yn cynrychioli niferoedd bach iawn o bleidleisiau drwy'r post. Er enghraifft, er bod 48.5% o bleidleisiau drwy'r post a wrthodwyd wedi cael eu gwrthod oherwydd gwybodaeth nad yw'n cyfateb, mae hyn ond yn cynrychioli 1.2% o'r prif amlenni a dderbyniwyd a 0.3% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd. Gwnaeth y mwyafrif helaeth o bleidleiswyr drwy'r post ffeilio eu ffurflenni yn gywir.

Dirprwyon a hepgoriadau

Penododd cyfanswm o 283,928 o etholwyr ddirprwy (0.6% o'r rhai oedd â hawl i bleidleisio). Mae hyn yn cymharu â 0.3% yn 2015.

Nifer y pleidleisiau drwy ddirprwyon brys a ddosbarthwyd ledled Prydain Fawr oedd 14,096. Mae hyn yn sylweddol uwch nag yn 2015 pan gafwyd
8,901 o geisiadau brys am bleidleisio drwy ddirprwy.

Roedd consesiwn a roddwyd dan delerau Deddf Gweinyddu Etholiadau 2006 yn nodi y gallai etholwyr drwy'r post ym Mhrydain Fawr oedd ag
anabledd, neu oedd yn anllythrennog, neu nad oeddent yn gallu llunio llofnod cyson wneud cais am hepgoriad i ddefnyddio eu dyddiad geni fel yr unig fanylyn i'w hadnabod.

Yn 2017, cymeradwywyd 51,452 o hepgoriadau, sy'n cynrychioli 0.1% o'r rhai sydd â hawl i bleidleisio. Mae hyn yn gyson â 2015. Ar lefel etholaeth,
roedd cyfran yr hepgoriadau a gymeradwywyd yn amrywio o 0.01% mewn pedair etholaeth yn Lloegr,6 i 0.7% yn Bassetlaw. 

Appendicies

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 August 2019
Next review: 27 June 2020