Amcanion ar gyfer etholiadau llwyddiannus yn y cyd-destun iechyd cyhoeddus cyfredol
2021 elections
Bydd etholiadau a gynhelir yn y misoedd nesaf, gan gynnwys y gyfres o bleidleisiau pwysig sydd wedi eu trefnu at fis Mai 2021, yn debygol o ddigwydd yng nghyd-destun cyfyngiadau iechyd cyhoeddus. Bydd y rhain yn cyflwyno heriau newydd cymhleth i bawb sydd ynghlwm wrth y broses etholiadol.
Objectives
Rydym wedi gweithio ac ymgynghori gyda gweinyddwyr etholiadol, pleidiau gwleidyddol a llywodraethau ar draws Prydain Fawr i ganfod cyfres o amcanion lefel uchel ar gyfer cyflawni etholiadau llwyddiannus yn yr amgylchedd iechyd cyhoeddus presennol.
Rydym yn annog y rheiny sydd ynghlwm wrth gefnogi a chyflawni etholiadau i ddefnyddio’r amcanion canynol:
• asesu a phrofi opsiynau polisi a dulliau gweithredu
• canfod a rheoli risgiau sylweddol i gyflawni’r etholiadau yn llwyddiannus
• llywio ymchwil, dadansoddi, ac adrodd am y pleidleisiau
Amcanion ar gyfer etholiadau llwyddiannus yn y cyd-destun iechyd cyhoeddus cyfredol
Dylai pleidleiswyr allu cymryd rhan yn y pleidleisiau yn ddiogel a chyda hyder, a dylai ymgyrchwyr a phleidiau allu cyflwyno eu hachos i etholwyr.
Voter objectives
Pleidleiswyr
- Dylai fod opsiynau pleidleisio rhesymol ar gael i bob etholwr sy’n lleihau peryg trosgwlyddo’r feirws iddynt, neu hwythau’n trosgwlyddo’r feirws i eraill.
- Dylai hyn gynnwys opsiynau pleidleisio realistig ar gyfer pobl y mae eu hamgylchiadau yn newid ar fyr-rybudd yn agos at y diwrnod pleidleisio (er enghraifft, oherwydd gofynion cyfyngiadau lleol, neu hunan-ynysu gan bobl neu aelwydydd sydd â symptomau).
- Dylai hyn hefyd sicrhau bod gan bleidleiswyr a allai fod yn arbennig o agored i niwed gan y feirws gyfleoedd i bleidleisio mewn ffordd sy’n lleihau’r peryg i’w hiechyd.
- fewn ac ar draws ardaloedd sy’n cynnal yr un fath o etholiad, dylai fod gan bleidleiswyr fynediad at yr un wybodaeth a dulliau pleidleisio, ble bynnag y bônt yn byw.
- Dylai pleidleiswyr gydag anableddau allu cael mynediad at y lefel o gymorth sydd ei hangen arnynt ac y mae ganddynt hawl i’w derbyn er mwyn gallu pleidleisio â hyder.
- Dylai pleidleiswyr dderbyn gwybodaeth eglur a chynhwysfawr ymlaen llaw ynghylch yr opsiynau sydd ar gael, i’w helpu nhw i gynllunio sut i bleidleisio’n ddiogel.
- Dylai gwneud cais i bleidleisio o bell (trwy’r post neu drwy ddirprwy) fod yn syml a hygyrch i bob etholwr.
- Dylai pleidleiswyr dderbyn gwybodaeth eglur, hygyrch, a chynhwysfawr i’w helpu i ddeall sut i bleidleisio trwy ddefnyddio eu dewis ddull, yn enwedig ar gyfer y rheiny sy’n defnyddio’r dull hwnnw am y tro cyntaf.
Candidates and campaigner objectives in detail
Ymgeiswyr ac ymgyrchwyr
- Dylai ymgyrchwyr dderbyn eglurder o ran sut bydd yr etholiadau’n cael eu cynnal a’u rheoleiddio, yn ddigon pell cyn diwrnod y bleidlais ac unrhyw gyfnodau ymgyrchu rheoledig i allu rhoi cynlluniau addas ar waith.
- Dylai’r rheiny sy’n bwriadu sefyll mewn etholiad fod â mynediad at opsiynau rhesymol ar gyfer cwblhau a chyflwyno’r papurau enwebu angenrheidiol sy’n lleihau peryg trosglwyddo’r feirws iddynt neu ganddynt hwythau.
- Dylai fod yn bosib i ymgyrchwyr gyflwyno eu dadleuon a rhoi gwybodaeth i bleidleiswyr yn ystod y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio mewn ffyrdd sy’n lleihau’r peryg y trosglwyddir y feirws ganddynt neu iddynt hwythau.
- Dylai fod gan ymgeiswyr, asiantau, a phleidiau ddealltwriaeth drylwyr o unrhyw newidiadau i’r broses weinyddol o ganlyniad i’r sefyllfa iechyd cyhoeddus.
Electoral administrator objectives in detail
Gweinyddwyr etholiadol
- Dylai EROs ac ROs dderbyn eglurder o ran sut bydd yr etholiadau’n cael eu cynnal, yn ddigon pell cyn diwrnod y bleidlais i allu rhoi cynlluniau addas ar waith.
- Dylai prosesau etholiadau fod yn ymarferol reoladwy a chyflawnadwy gan EROs, ROs, gweinyddwyr etholiadol a’u cyflenwyr, a dylent hwythau fod â’r adnoddau priodol - yn enwedig ar gyfer unrhyw brosesau newydd neu ddiwygiedig a gyflwynwyd yn weddol fyr-rybudd.
- Ni ddylai unrhyw brosesau etholiadau newydd neu ddiwygiedig leihau/tanseilio gweithdrefnau cyfredol ar gyfer gwarchod uniondeb etholiadol, gan gynnwys lle mae gan ymgeiswyr, asiantau, ac eraill hawl i arsylwi prosesau etholiadau.
- Dylai fod yn bosib roi amddiffyniadau addas ar waith ar gyfer staff gweinyddu etholiadol (gan gynnwys mesurau pellhau cymdeithasol neu gyfarpar diogelu, er enghraifft) mewn amgylchiadau cyhoeddus allweddol, yn enwedig mewn gorsafoedd pleidleisio, mewn sesiynau agor pleidleisiau post a lleoliadau cyfri.