Moderneiddio cofrestru etholiadol: astudiaethau dichonoldeb

Moderneiddio cofrestru etholiadol

Mae gallu pobl i bleidleisio mewn etholiadau a refferenda'n seiliedig ar gofrestrau etholwyr y DU – y cofrestrau yw mynegiant ymarferol yr etholfraint ac felly maent yn sylfaenol i gyfranogiad democrataidd. Mae sicrhau eu bod yn gywir ac yn gyflawn yn ganolog i iechyd ein system etholiadol yn ei chyfanrwydd.

Mae'r defnydd o ddata eisoes yn dechrau gweddnewid y broses o ddarparu gwasanaethau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, er budd dinasyddion ac er mwyn cyflawni arbedion. Mae potensial mawr i ystyried sut y gellid defnyddio data cyhoeddus sydd eisoes yn bodoli er mwyn gwella ein system cofrestru etholiadol ymhellach, a pha fuddiannau y gallai hyn eu cynnig i bleidleiswyr.

Mae'r cynlluniau i ddiwygio'r canfas blynyddol yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond gellid gwneud mwy er mwyn sicrhau bod gennym broses gofrestru unedig drwy gydol y flwyddyn, gan ei gwneud hi'n haws i bobl gofrestru i bleidleisio ac i Swyddogion Cofrestru Etholwyr gynnal cofrestrau etholwyr cywir a chyflawn.

Rydym am i lywodraethau'r DU ystyried newidiadau mwy sylfaenol i fframwaith cofrestru etholiadol y DU, gan ei wneud yn fwy unedig â gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae hynny'n golygu ystyried y canlynol: Y potensial i alluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gael gafael ar ddata gan ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill; ffurfiau awtomatig neu fwy awtomataidd ar gofrestru; ac integreiddio cofrestru etholiadol â thrafodion gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Astudiaethau dichonoldeb

Er mwyn helpu i lywio'r drafodaeth am ddiwygio cofrestru etholiadol, rydym wedi cynnal astudiaethau i ystyried sut gellir moderneiddio cofrestru etholiadol yn ymarferol. Roedd yr astudiaethau dichonoldeb yn cwmpasu pedwar maes diwygio allweddol:

Feasibility studies

Canfyddiadau allweddol

Yn bwysig ddigon, nodwyd bod pob un o'r diwygiadau hyn yn ymarferol o safbwynt technegol a gweithredol ac y gellid eu cyflwyno heb newid strwythur y system cofrestru etholiadol yn sylweddol yn y DU. 

Yn benodol, gallai'r dechnoleg a ddefnyddir eisoes gan Wasanaeth Digidol Cofrestru Etholiadol Unigol Llywodraeth y DU fod yn sail i'r mwyafrif o'r diwygiadau. Mae'r system hon eisoes yn cysylltu awdurdodau lleol â gwasanaeth canolog sy'n gallu dilysu pobl yn erbyn system gwybodaeth am gwsmeriaid yr Adran Gwaith a Phensiynau fel rhan o'r broses o wneud cais i gofrestru. 

Mae'r Gwasanaeth Digidol Cofrestru Etholiadol Unigol hefyd yn cysylltu ac yn cydgysylltu'r broses o rannu data rhwng y wefan hawl i bleidleisio (gan alluogi pobl i wneud cais ar-lein), CIS DWP (gan hwyluso'r broses o ddilysu ceisiadau) a'r systemau a ddefnyddir yn lleol i reoli'r 372 o gofrestrau etholwyr ar wahân yn y DU. 

Nodwyd gennym y gellid datblygu hyn ymhellach i fod yn gyfrwng i gael data trafodion diweddar o ffynonellau data newydd a dibynadwy. Yna, byddai'r data hyn yn cael eu trosglwyddo i'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol perthnasol, a allai eu defnyddio i dargedu etholwyr posibl.

Gallai datblygu'r Gwasanaeth Digidol Cofrestru Etholiadol Unigol ymhellach baratoi'r ffordd i roi systemau cofrestru awtomataidd neu awtomatig ar waith, neu ar gyfer proses cofrestru etholiadol fwy integredig, lle byddai'r dinesydd yn cael yr opsiwn o gofrestru i bleidleisio ar ddiwedd trafodyn ar-lein arall, e.e. wrth wneud cais am basbort neu drwydded yrru.

Er mwyn gwella'r broses o nodi a rheoli ceisiadau i gofrestru dyblyg, rydym wedi dod i'r casgliad y byddai'r holl atebion yn golygu creu dynodwr unigryw i bob etholwr. Byddai hyn yn galluogi ceisiadau dyblyg i gael eu nodi o fewn cofrestrau lleol, neu rhwng cofrestrau, yn dibynnu ar yr ateb penodol a roddwyd ar waith.

Roedd yr astudiaethau dichonoldeb hefyd yn amlygu nifer o heriau y byddai angen ymdrin â nhw cyn cymryd camau i roi unrhyw un o'r diwygiadau ar waith. Mae'r rhain yn cynnwys pwysigrwydd cynnal profion manwl ar ffynonellau data newydd posibl (lle y byddai angen porth cyfreithiol) er mwyn penderfynu a fyddai'r opsiynau'n sicrhau canlyniadau buddiol a chosteffeithiol.

Mae'r diwygiadau hefyd yn codi cwestiynau ehangach am bolisïau cyhoeddus sy'n ymwneud â rhannu data, diogelu data a therfynau ymyriad y wladwriaeth (yn benodol o ran cofrestru awtomatig) sy'n gofyn am drafodaeth ehangach.

Rydym wedi cyhoeddi papur manylach sy'n rhoi rhagor o wybodaeth am yr astudiaethau dichonoldeb.