Overview

Rydym wedi ymrwymo i'r Iaith Gymraeg, ac yn cydymffurfio'n llawn â'n holl Safonau Iaith Gymraeg.

Gwneir y gwaith hwn yn sylweddol yn swyddfa Comisiwn Etholiadol Cymru, gyda'r aelod o staff sy'n gyfrifol am arwain ar y gwaith o amgylch Safonau Iaith Gymraeg, gan gynnwys cyfieithiadau, hefyd yn y swyddfa hon.

Safonau cyflenwi gwasanaethau, llunio polisi a gweithredu

Manylion pellach ac arferion da

Gohebiaethau 

Mae camau mewn lle i sicrhau bod unrhyw ohebiaeth gyda rhanddeiliaid yng Nghymru yn cael ei anfon yn ddwyieithog. Yn ogystal â hyn, mae camau mewn lle i sicrhau bod unrhyw ohebiaeth rydym yn ei dderbyn drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei ateb drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mae dewis iaith nifer o randdeiliaid yng Nghymru yn hysbys i ni, sydd yn sicrhau cyfathrebu yn y cyfrwng iaith dewisol. Bydd gohebiaeth yn cael ei anfon at randdeiliaid eraill yn gofyn am eu dewis iaith. 

I sicrhau bod rhanddeiliaid o Gymru yn cael eu cyfarch drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’r staff yng Nghomisiwn Etholiadol Cymru wedi derbyn hyfforddiant i gyfarch dros y ffôn yn Gymraeg/ddwyieithog. Mae camau mewn lle i sicrhau bod unrhyw aelod o’r cyhoedd sydd yn cysylltu drwy ebost neu dros y ffôn yn medru gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, a nad ydyw hyn yn arwain at oedi. Os yw aelod o’r cyhoedd yn ffonio ac eisiau cyfathrebu yn Gymraeg, gallant wneud hynny. Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael, rhoddir dewis i’r person i gael galwad yn ôl cyn gynted â bod siaradwr Cymraeg ar gael. 

Mae’r holl deunyddiau cyhoeddusrwydd a hysbysebion sydd yn targedu Cymru, neu sydd yn cynnwys gwybodaeth sydd yn effeithio Cymru, ar gael ac yn cael eu gwneud yn ddwyieithog. Yn ogystal â hyn, mae rhan helaeth o ddeunyddiau cyhoeddusrwydd a hysbysebion nad yw o’r reidrwydd yn effeithio neu wedi eu targedu at Gymru hefyd yn cael eu cyfieithu – mae hyn yn bennaf oll i sicrhau bod ein gwefan yn gwbl ddwyieithog. 

Mae’r holl ganllawiau sydd yn delio a materion yng Nghymru, hefyd ar gael yn ddwyieithog. 

 

Cyfarfodydd

Pam rydym yn trefnu bod ymwelwyr yn dod i gyfarfodydd, mae camau mewn lle i sicrhau bod yr ymwelwyr hyn yn derbyn gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg; rydym yn gofyn a oes angen gwasanaeth derbynfa yn Gymraeg, ac yn sicrhau bydd hyn ar gael os dymunir; yn ogystal â gofyn os yw rhanddeiliaid eisiau cyfrannu yn Gymraeg yn y cyfarfod. Mae cyfleusterau cyfieithu ar y pryd hefyd ar gael. 

Mae Comisiwn Etholiadol Cymru yn denant yn Nhŷ’r Cwmniau (Companies House), ac felly os nad oes ganddynt ddigon o siaradwyr Cymraeg i ddarparu gwasnaeth dderbynfa llawn yn Gymraeg, rydym yn sicrhau bod siaradwr Cymraeg ar gael i cyfarch unrhyw ymwelwyr sydd yn dod i gyfarfod, sydd wedi datgan ei (d)dymuniad i dderbyn gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. 

 

Cyfryngau cymdeithasol

Mae genny, nifer o broffiliau cyfryngau cymdeithasol. Mae unrhyw negeseuon/trydariadau sydd yn ymwneud neu’n effeithio Cymru yn cael eu gwneud yn ddwyieithog – o’r holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Ceir un cyfrif trydar dwyieithog @ElectoralWales sydd yn cael ei reoli gan Comisiwn Etholiadol Cymru. O’r cyfrif hwn, caiff gwybodaeth a greuwyd yn benodol ar gyfer y gynulleidfa yng Nghymru. Mae trydariadau yn cael eu gwneud yn ddwyieithog (ar yr un trydar, neu ar wahân ac yn cael eu rhannu ar yr un pryd).

Os yw unrhyw un yn cysylltu yn Gymraeg drwy’r cyfryngau cymdeithasol, mae camau mewn lle i sicrhau bydd ymateb yn cael ei wneud drwy gyfrwng y Gymraeg, a nad yw hyn yn arwian at unrhyw oedi.     

 

Safonau llunio polisi

Mae safonau llunio polisi wedi eu hymgorffori yn ein dogfen ‘Asesiadau Effaith Cydraddoldeb’ y Comisiwn Etholiadol. Mae’r ddogfen hon ar gael i'n holl aelodau staff ar ein mewnrwyd. 

 

Polisi defnyddio’r Gymraeg yn fewnol

Rydym wedi llunio polisi ar ddefnyddio Cymraeg yn fewnol yng Nghomisiwn Etholiadol Cymru. Mae’r ddogfen yn nodi bod camau mewn lle i sicrhau bod unrhyw aelod o staff sydd yn gweithio yng Nghomisiwn Etholiadol Cymru, os yn dymuno, yn medru derbyn gwasananethau yn fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r ddogfen hon ar gael i'n holl aelodau o staff ar ein mewnrwyd. Ceir hefyd bolisïau perthnasol yn ymwneud â defnyddio’r Gymraeg yn fewnol yn adrannau Adnoddau Dynol ein mewnrwyd. 

 

System adnoddau dynol

Ar 18 Ionawr 2019, fe wnaeth ein system newydd Adnoddau Dynol (HR Online) lansio. Mae’r system yma yn gwbl ddwyieithog, ac yn caniatau ein staff i ddefnyddio’r system yn unai’r Gymraeg neu’r Saesneg. Mae ein holl bolisïau adnoddau dynol wedi eu cyfieithu ac ar gael yn ddwyieithog, ac mae yno adran penodol ar ein mewnrwyd wedi ei gysegru i faterion ynghylch yr iaith Gymraeg. 

I gyd-fynd â dyddiad lansio’r system newydd, fe yrrwyd neges i’n holl aelodau o staff yn nodi bod y system nawr ar gael yn ddwyieithog; ac mae pob aelod newydd o staff sydd yn mynd drwy’r broses anwythiad yn cael eu cyflwyno i’r system adnoddau dynol newydd, a’r ffaith ei fod ar gael yn Gymraeg. 

 

Grŵp Cynghori’r Gymraeg

Mae’r Grŵp Cynghori’r Gymraeg yn dangos ein ymrwymiad i faterion sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg. Dyma grŵp sydd wedi ei sefydlu i drafod materion y Gymraeg a Chymreig sydd yn effeithio etholiadau yng Nghymru. Mae’r grŵp yn cynnwys swyddogion cofrestru etholiadol, swyddogion canlyniadau, gweinyddwyr etholiadol ac aelodau Llywdoraeth Cymru a Cynulliad Cenedlaethol Cyrmu.   

Mae’r grŵp yn cyfarfod oddeutu dau neu dri o weithiau drwy gydol y flwyddyn. Un o brif lwyddiannau’r Grŵp Cynghori’r Gymraeg yw creu’r Eirfa Etholiadol.

 

Terminoleg a Geirfa Etholiadol  

Yn ychwanegol i’r wybodaeth ynghylch polisi defnyddio’r Gymraeg yn fewnol, rydym yn cynnig termau a brawddegau defnyddiol Cymraeg i holl staff. Mae'r termau hyn yn annog staff sydd ddim yn meddu ar sgiliau Cymraeg i geisio cyfarch yn Gymraeg a gwneud defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd. 

Mae’r Grŵp Cynghori’r Gymraeg wedi creu’r ‘Eirfa Etholiadol’, dyma eirfa o dermau etholiadol Cymraeg y gallai’r holl gymuned etholiadol yng Nghymru ei ddefnyddio. Mae'r eirfa yn sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â rheoli a rhedeg etholiadau yn gallu defnyddio’r un termau mewn dogfennau etholiadol, a thrwy hynny, sicrhau cysondeb ar draws Cymru. Mae’r eirfa yn cael ei adolygu’n flynyddol, ac yn cael ei ddiweddaru yn ôl yr angen. 

Edrych ymlaen a camau nesaf

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Rhagfyr 2019
Adolygiad nesaf: 25 Medi 2020