Rhaid i ddeddfwriaeth llywodraethu newid i ategu refferenda yn y dyfodol, medd y Comisiwn Etholiadol
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth etholiadol
Mae angen i ddeddfwriaeth etholiadol allweddol gael ei diweddaru er mwyn sicrhau bod rheolau a roddwyd ar waith ar gyfer refferendwm yr UE yn gymwys yn y dyfodol, yn ôl adroddiad newydd gan y Comisiwn Etholiadol. Mae'r adroddiad, sy'n ystyried y gwaith o reoleiddio cyllid ymgyrchwyr yn Refferendwm yr UE, wedi canfod bod rheolau a roddwyd ar waith ar gyfer y refferendwm penodol hwnnw wedi gweithio'n dda. Noda nifer o argymhellion ar gyfer gwneud newidiadau i'r ddeddfwriaeth sy'n ategu refferenda ledled y DU.
Dywedodd Syr John Holmes, Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol:
Mae'r adroddiad hwn yn darparu glasbrint ar gyfer refferenda yn y dyfodol, gan ddysgu gwersi o'r enghreifftiau diweddar lle gweithiodd rheolaethau'n dda. Mae'n bwysig bod Senedd y DU yn cyflwyno newidiadau i'r ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau bod y fframwaith rheoleiddio yn parhau i fod yn effeithiol, yn berthnasol ac yn gymesur.
Ymhlith yr argymhellion allweddol mae'r canlynol:
- Dylai Senedd y DU ystyried y rheolaethau ar wariant ar y cyd a oedd ar waith ar gyfer y refferendwm hwn ac egluro eu cwmpas cyn unrhyw refferendwm arall yn y dyfodol. Mae'r rheolaethau hyn yn atal ymgyrchwyr rhag sefydlu sawl grŵp ymgyrchu er mwyn osgoi rheolaethau ar wariant, tra'n rhoi'r rhyddid i ymgyrchwyr gydweithio. Er mwyn gwella tryloywder a gorfodadwyedd, dylai'r rheolaethau gynnwys gofyniad i ymgyrchwyr gynnwys enwau'r rheini y gwnaethant weithio gyda nhw a faint y gwnaeth pob un ohonynt ei wario yn eu ffurflen gwariant ar ôl y refferendwm. Nid yw'r ddeddfwriaeth gyfredol yn sôn am hyn.
- Er mwyn gwella tryloywder a lleihau'r cymhelliant posibl i oedi cofrestru, dylai fod yn ofynnol i ymgyrchwyr cofrestredig sy'n gwario mwy na £10,000 ddarparu gwybodaeth fanwl am yr holl wariant a reoleiddir, gan gynnwys gwariant cyn i ymgyrchydd gofrestru â'r Comisiwn. Byddai hyn yn dileu cymhelliant i ymgyrchwyr gofrestru'n hwyrach er mwyn osgoi tryloywder llawn.
- Dylai costau staff sy'n gysylltiedig ag ymgyrch gael eu cynnwys yn y terfynau ar wariant pleidiau gwleidyddol mewn etholiad neu refferendwm, nad yw'n digwydd ar hyn o bryd. Byddai hyn yn sicrhau cysondeb rhwng ymgyrchwyr refferendwm, staff ymgyrchu pleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, yn ogystal â chau bwlch mewn rhan fawr o wariant ymgyrchu mewn etholiadau a refferenda.
Dyma'r ail adroddiad y mae'r Comisiwn Etholiadol wedi ei gyhoeddi yn dilyn Refferendwm yr UE ac mae'n cynnwys gwybodaeth am y defnydd o'i bwerau ymchwilio a sancsiynu, yn ogystal â dadansoddi cyllid a gwariant y rheini a gofrestrodd i ymgyrchu ynddo.
Diwedd
Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol:
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704 (tu allan i'r swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau uniondeb drwy:
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid, gyda'r nod o wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
- Mae gan y Comisiwn Etholiadol gyfrifoldebau a swyddogaethau penodol mewn perthynas â chynnal a rheoleiddio refferenda a gynhelir o dan Ddeddf 2000, sy'n gymwys i unrhyw Fil refferendwm a gyflwynir gerbron Senedd y DU oni nodir fel arall.