Rhoi dirwy i Vote Leave a'u cyfeirio at yr heddlu am dorri cyfraith etholiadol
Diweddariadau
Diweddariad - 25 Gorffennaf 2019
Apeliodd "Vote Leave Limited" a Darren Grimes yn erbyn y cosbau a nodwyd yn yr adroddiad canlynol. Talodd "Veterans for Britain" eu dirwy o £250.
Talodd "Vote Leave" eu dirwyon i gyfanswm o £61,000 ym mis Mawrth 2019 a thynnu eu hapêl yn ôl.
Bu Darren Grimes yn llwyddiannus yn ei apêl. Tynnodd y dyfarniad, a roddwyd ar 19 Gorffennaf 2019, y gosb o £20,000 a osodwyd gan y Comisiwn yn ôl.
Diweddariad - 14 Awst 2019
Canfu Llys Sirol Canol Llundain fod Darren Grimes wedi hysbysu’r Comisiwn yn iawn y byddai BeLeave yn ymgyrchydd yn refferendwm yr UE, gan olygu nad oedd BeLeave wedi torri’r terfyn gwariant ar gyfer ymgyrchydd anghofrestredig. Canfu'r Llys hefyd nad oedd cynnwys Darren Grimes o wariant BeLeave yn yr hyn yr oedd y Comisiwn wedi'i ystyried yn ddychweliad ei hun yn golygu ei fod wedi cyflwyno ffurflen wariant anghywir.
Gallwn gadarnhau, mewn perthynas ag apêl Darren Grime, fod ein ffioedd cyfreithiol oddeutu £228,000. Mae hyn yn cynnwys ffioedd cyfreithwyr o £128,000 a ffioedd bargyfreithwyr o £90,000.
Fel sy'n arferol mewn cyfreitha, dyfarnodd y Llys gostau Mr Grimes, sy'n golygu y bydd y Comisiwn yn talu am ffioedd cyfreithiol Mr Grimes. Rydym wedi gwneud taliad o £300,000 ar gyfrif.
Ar wahân, mae Vote Leave wedi talu £180,000 i'r Comisiwn mewn perthynas â'i gostau cyfreithiol.
Diweddariad yr ymchwiliad
Heddiw mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi casgliadau ei ymchwiliad i wariant ymgyrchu Vote Leave a nifer o ymgyrchwyr eraill, ac mae wedi canfod fod Vote Leave a Darren Grimes wedi torri cyfraith etholiadol.
Mae ymchwiliad y Comisiwn wedi dod o hyd i dystiolaeth sylweddol o gydweithio rhwng y prif ymgyrchydd, Vote Leave a grŵp ymgyrchu arall BeLeave.
Mae tystiolaeth yn dangos bod BeLeave wedi gwario dros £675,000 gyda Aggregate IQ o dan gynllun cyffredin gyda Vote Leave. Dylai'r gwariant yma fod wedi cael ei ddatgan gan Vote Leave. Mae'n golygu bod Vote Leave wedi gwario mwy na'r terfyn gwariant o £7 miliwn gan bron i £500,000.
Fe wnaeth Vote Leave hefyd gyflwyno cofnod gwariant anghyflawn a gwallus, gyda bron i £234,501 wedi'i adrodd yn wallus, ac anfonebau ar goll ar gyfer gwariant o £12,849.99.
Canfuwyd fod Darren Grimes, sefydlwr grŵp ymgyrchu BeLeave wedi cyflawni dwy drosedd ac mae wedi cael dirwy o £20,000. Gwariodd Mr Grimes dros £675,000 ar ran BeLeave, ymgyrchydd anghofrestredig oedd â therfyn gwariant o £10,000. At hyn, fe wnaeth adrodd y gwariant yna fel ei wariant ei hun yn anghywir.
Mae'r Comisiwn bellach wedi cyfeirio Mr David Halsall, y person cyfrifol am Vote Leave, a Mr Grimes i’r Heddlu Metropolitanaidd mewn perthynas â datganiadau ffug o wariant ymgyrchu.
Mae hefyd wedi rhannu ei ffeiliau ymchwilio gyda'r Heddlu Metropolitanaidd mewn cysylltiad â p’un a bod unrhyw berson wedi cyflawni troseddau cysylltiedig, ond sydd tu allan i orchwyl rheoleiddiol y Comisiwn.
Dywedodd Bob Posner, Cyfarwyddwr Cyllid Gwleidyddol a Rheoleiddio a Chwnsler Cyfreithiol:
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi dilyn y dystiolaeth ac wedi cynnal ymchwiliad trylwyr i wariant ac ymgyrchu Vote Leave a BeLeave. Daethom o hyd i dystiolaeth sylweddol fod y ddau grŵp wedi gweithio i gynllun cyffredin, heb ddatgan eu bod yn gweithio ar y cyd a heb lynu at y terfynau gwariant cyfreithiol. Mae'r rhain yn achosion difrifol o dorri'r gyfraith a osodwyd gan Senedd y DU i sicrhau tegwch a thryloywder mewn etholiadau a refferenda. Mae ein canfyddiadau yn bennaf berthnasol i'r sefydliad roddodd ei hun ymlaen fel yr ymgyrchydd dynodedig ar gyfer canlyniad 'gadael'.
Gan wneud sylwadau ynghylch yr ymchwiliad ei hun, parhaodd Bob Posner:
Mae Vote Leave wedi ymwrthod ein hymchwiliad ers y cychwyn, gan gynnwys herio ein hawl fel y rheoleiddiwr statudol i agor yr ymchwiliad. Mae wedi gwrthod cydymffurfio, gwrthod ein cais am gynrychiolydd i'w gyfweld, ac wedi'n gorfodi ni i ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol i'w gorfodi i ddarparu tystiolaeth. Er hynny, mae'r dystiolaeth yr ydym wedi ei chanfod yn glir ac yn sylweddol ac mae bellach ar gael yn ein hadroddiad.
Daeth yr ymchwiliad o hyd i dystiolaeth fod y grŵp ymgyrchu Veterans for Britain wedi adrodd rhodd dderbyniodd gan Vote Leave yn anghywir. Mae wedi cael dirwy o £250. Nid oedd tystiolaeth bod Veterans for Britain wedi ymgyrchu o gan gynllun cyffredin gyda Vote Leave.
Cefndir yr ymchwiliad
O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) cyfrifoldeb pob ymgyrchydd oedd sicrhau bod cofnod gwariant ymgyrchu cyflawn a chywir yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn Etholiadol erbyn y dyddiad cau statudol yn dilyn Refferendwm yr UE.
Ym mis Tachwedd 2017, agorodd y Comisiwn ymchwiliad, wedi iddo ddod o hyd i dystiolaeth i ddangos bod Vote Leave wedi gwneud taliadau i Aggregate IQ yn y deg diwrnod cyn y refferendwm, yn ymddangos fel petaent ar ran dau ymgyrchydd arall: BeLeave a Veterans for Britain. Roedd hyn yn awgrymu patrwm gweithredu gan Vote Leave oedd yn ei dro yn awgrymu posibilrwydd fod Vote Leave wedi gweithio gyda grwpiau ymgyrchu eraill o dan gynllun cyffredin
Mae'r canfyddiadau a gyflwynir yn ein hadroddiad cyhoeddus heddiw yn nodi casgliad ein hymchwiliad cyntaf, a'n hunig ymchwiliad i wariant ar y cyd gan Vote Leave yn Refferendwm yr UE.
Cwmpas yr ymchwiliad
Edrychodd yr ymchwiliad ar y canlynol:
- P'un a bod gweithio ar y cyd wedi digwydd rhwng Vote Leave, BeLeave a Veterans for Britain, ac os achos y gweithio ar y cyd yma i Vote Leave wario'n fwy na'r terfyn gwariant.
- Cywirdeb a chyfanrwydd cofnodion gwariant a ddarparwyd gan Vote Leave, Mr Grimes a Veterans for Britain.
- P'un a bod BeLeave wedi gwario mwy na'r terfyn gwariant fel ymgyrchydd anghofrestredig.
- P'un a bod y person cyfrifol ar gyfer Veterans for Britain wedi methu ag adrodd rhodd yn gywir.
- P'un a bod Vote Leave wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad ymchwilio a roddwyd gan y Comisiwn.
Casgliadau'r ymchwiliad
- Roedd holl wariant Mr Grimes a BeLeave ar ymgyrchu refferendwm wedi digwydd o dan gynllun cyffredin gyda Vote Leave. Dylai Vote Leave fod wedi datgan y gwariant ar y cyd yn ei gofnod gwariant refferendwm, ac felly ni wnaeth ddanfon cofnod gwariant ymgyrchu cyflawn.
- Gwariant refferendwm Vote Leave oedd £7,449,079.34, oedd yn fwy na'i derfyn gwariant statudol o £7 miliwn.
- Roedd cofnod gwariant Vote Leave yn wallus o ran 43 o eitemau o wariant, gyda chyfanswm o £236,501.44. Roedd wyth taliad o dros £200 yng nghofnod Vote Leave heb anfoneb neu dderbynneb. Cyfanswm y taliadau hyn oedd £12,849.99.
- Gwariodd BeLeave fwy na'i derfyn gwariant o £10,000 fel ymgyrchydd anghofrestredig gan dros £666,000.
- Cyflwynodd Mr Grimes gofnod gwariant gwallus ac anghyflawn fel ymgyrchydd unigol.
- Adroddodd y grŵp ymgyrchu Veterans for Britain rhodd dderbyniodd gan Vote Leave yn anghywir.
- Methodd Vote Leave â chydymffurfio â hysbysiad ymchwilio a roddwyd gan y Comisiwn.
Cyfanswm y dirwyon yw £61,000 i Vote Leave, £20,000 i Mr Grimes a £250 i Veterans for Britain.
Fe gynhaliom ymchwiliad teg a thrwyadl. Gofynnom a derbyniom dystiolaeth gan nifer o unigolion a ffynonellau, gan gynnwys gan Vote Leave a Mr Grimes. Gwahoddwyd yr unigolion a'r grwpiau ymgyrchu a ymchwiliwyd gennym oll i'w cyfweld ac i roi tystiolaeth i ni. Gwrthododd Vote Leave gael eu cyfweld. Mae'r diffyg cydymffurfio wedi'i ddangos yn y cosbau.
Unwaith eto, ar ôl dod â'r mater yma i ben, mae'r Comisiwn yn amlygu ei fod wedi'i gyfyngu gan y terfyn dirwy uchaf o £20,000. Mae'r Comisiwn yn ystyried fod hyn yn annigonol ar gyfer troseddau difrifol cyfraith etholiadol neu refferendwm. Gan edrych ymlaen, ry'n ni wedi argymell bod angen i lywodraethau a Senedd y DU newid y gyfraith i'n galluogi ni i roi dirwyon sylweddol uwch, sy'n cyfateb i reoleiddwyr cymharol eraill.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol drwy:
- 020 7271 0704 (Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Mae'n gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch.
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
- Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
- Mae gan y Comisiwn Etholiadol amryw bwerau gorfodi yn unol â PPERA. Mae mwy o wybodaeth am waith rheoleiddiol y Comisiwn ar gael ar ein gwefan yma.
- Mae unrhyw achosion o dorri'r rheolau sy'n rheoleiddio gwariant ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn cael eu hystyried yn unol â pholisi gorfodi'r Comisiwn, y gellir ei weld yma, ac mae manylion cosbau a roddir yma.
- Mae gan unigolyn neu sefydliad sy'n derbyn cosb gan y Comisiwn Etholiadol 28 diwrnod i apelio'r penderfyniad. Caiff apêl o'r fath ei wneud i'r Llys Sirol.
- Bydd cosbau heb eu talu yn cynyddu gan 50% os na chânt eu talu gan 56 diwrnod. Ar ôl 28 diwrnod arall gallwn gymryd camau i gael taliad drwy'r llysoedd gan ddefnyddio'r broses adfer dyled.
- Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff ei reoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.