Running electoral registration - England

Mathau derbyniol o ddogfennau ar gyfer cadarnhau pwy yw ymgeisydd

Dylai'r dystiolaeth sy'n ofynnol i gadarnhau pwy yw ymgeisydd yn llwyddiannus gyfeirio at yr ymgeisydd wrth ei enw.

Mae'r mathau o ddogfennau y gellir eu darparu er mwyn cadarnhau pwy yw ymgeisydd am gais fel etholwr tramor fel a ganlyn:

  • unrhyw un o'r dogfennau o dabl 1
  • un ddogfen o dabl 2 a dwy ddogfen ychwanegol o dabl 2 neu o dabl 3
  • pedair dogfen o dabl 3 – rhaid i bob dogfen yn nhabl 3 fod wedi'i chyflwyno yn y DU neu yn un o Diriogaethau Dibynnol y Goron a rhaid iddi gynnwys enw llawn yr ymgeisydd1  

Tabl 1: Prif ddogfennau adnabod
 

Dogfen
Nodiadau
PasbortUnrhyw basbort cyfredol
Trwydded preswylio fiometrigUn a ddosbarthwyd yn y DU yn unig
Cerdyn Adnabod yr Ardal Economaidd EwropeaiddRhaid iddo fod yn ddilys o hyd
Rhan cerdyn llun o drwydded yrru gyfredolY DU/Ynys Manaw/Ynysoedd y Sianel (llawn neu dros dro)
Cerdyn adnabod etholiadol Gogledd Iwerddon 

         
Tabl 2: Dogfennau Dibynadwy gan y Llywodraeth

Dogfen
Nodiadau
Hen fersiwn bapur trwydded yrru gyfredolY DU yn unig
Trwydded yrru â llunA gyflwynwyd yn unrhyw wlad heblaw'r DU a Thiriogaethau Dibynnol y Goron
Tystysgrif geniY DU a Thiriogaethau Dibynnol y Goron yn unig
Tystysgrif Priodas/Partneriaeth SifilY DU a Thiriogaethau Dibynnol y Goron yn unig
Tystysgrif mabwysiaduY DU a Thiriogaethau Dibynnol y Goron yn unig
Trwydded arfau tanioY DU a Thiriogaethau Dibynnol y Goron yn unig
Taflen mechnïaeth yr heddluY DU a Thiriogaethau Dibynnol y Goron yn unig

         
Tabl 3: Dogfennau ariannol a hanes cymdeithasol

Dogfen
  Nodiadau
Datganiad morgais A gyflwynwyd yn y DU neu yn un o Diriogaethau Dibynnol y Goron 
Cyfriflen Banc neu Gymdeithas AdeiladuA gyflwynwyd yn y DU neu yn un o Diriogaethau Dibynnol y Goron 
Llythyr yn cadarnhau agor cyfrif Banc neu Gymdeithas AdeiladuA gyflwynwyd yn y DU neu yn un o Diriogaethau Dibynnol y Goron 
Datganiad cerdyn credydA gyflwynwyd yn y DU neu yn un o Diriogaethau Dibynnol y Goron
Datganiad ariannol, e.e. pensiwn neu waddolA gyflwynwyd yn y DU neu yn un o Diriogaethau Dibynnol y Goron
Datganiad Treth GyngorA gyflwynwyd yn y DU neu yn un o Diriogaethau Dibynnol y Goron
Bil Cyfleustodau – nid bil ffôn symudolA gyflwynwyd yn y DU neu yn un o Diriogaethau Dibynnol y Goron
Datganiad P45 neu P60A gyflwynwyd yn y DU neu yn un o Diriogaethau Dibynnol y Goron
Datganiad budd-dal, e.e. Budd-dal Plant, PensiwnA gyflwynwyd yn y DU neu yn un o Diriogaethau Dibynnol y Goron
Dogfen gan lywodraeth ganolog neu leol, un o asiantaethau'r llywodraeth neu gyngor lleol yn rhoi hawl, e.e. gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, y Ganolfan Byd Gwaith, CThEFA gyflwynwyd yn y DU neu yn un o Diriogaethau Dibynnol y Goron

 
I gael gwybodaeth am y cyfnod cadw ar gyfer dogfennau a ddaw i law fel rhan o gais, gan gynnwys o dan y broses eithriadau a'r hyn a ddylai gael ei adlewyrchu yn eich polisi cadw dogfennau, gweler ein canllawiau ar gadw dogfennau.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023