Gofyn am dystiolaeth o genedligrwydd

Gofyn am dystiolaeth o genedligrwydd

Os nad ydych yn fodlon ynghylch cenedligrwydd unrhyw ymgeisydd neu etholwr, mae gennych y pŵer i'w gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd neu'r etholwr roi tystiolaeth ddogfennol i chi sy'n cadarnhau ei genedligrwydd. Cewch ofyn am y dystiolaeth ganlynol:1  

  • tystysgrif geni
  • tystysgrif dinasyddio
  • os bydd unigolyn wedi gwneud cais i gofrestru fel etholwr tramor, tystiolaeth bellach mewn perthynas â'i statws fel dinesydd Prydeinig 
  • dogfen sy'n dangos bod unigolyn wedi dod yn ddinesydd y Gymanwlad 
  • datganiad statudol yn datgan ei fod yn ddinesydd cymwys y Gymanwlad, yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon neu'n ddinesydd perthnasol yr Undeb Ewropeaidd

Er mwyn bod â hawl i gofrestru i bleidleisio, rhaid i unigolyn fod yn byw'n gyfreithlon yn y DU. Os bydd gennych unrhyw amheuon ynghylch p'un a yw ymgeisydd neu etholwr yn byw yma'n gyfreithlon ai peidio, gallwch ofyn am wirio statws mewnfudo unigolyn yn erbyn cofnodion y Swyddfa Gartref. 

Mae canllawiau pellach ar y broses hon a manylion cyswllt ar gael drwy gysylltu â'r Swyddfa Gartref. Gofynnir i chi gwblhau templed a gaiff ei ddarparu – dylech ei gwblhau a dychwelyd y darn o dan y pennawd 'Subject 1' i'r un cyfeiriad e-bost. Yn ôl y Swyddfa Gartref, dylai pob templed drafod un unigolyn, a dylid cynnwys un templed ym mhob e-bost. Dylid ychwanegu 'ER' at bennawd pwnc pob e-bost er mwyn sicrhau ei fod yn mynd i'r ffolder cywir i gael ymateb. Bydd y Swyddfa Gartref yn ymateb o fewn pum diwrnod gwaith oni bai bod angen ffeil. Os felly,  bydd yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith. Cynhwysir y ffaith y byddwch yn gofyn am dystiolaeth ychwanegol o ran cenedligrwydd ymgeisydd, ac yn gofyn am wirio statws mewnfudo unigolyn yn erbyn cofnodion y Llywodraeth, ar y ffurflen gais cofrestru a gymeradwyir gan y Gweinidog ac a gyflwynir i chi gan y Comisiwn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Mawrth 2022