Mae trefniadau arbennig yn berthnasol i rai etholwyr, gan gynnwys y rheini nad ydynt yn bodloni'r amod cymhwyso ar gyfer preswyliaeth arferol,
sef:
etholwyr tramor, h.y. dinasyddion Prydeinig sy'n byw y tu allan i'r DU
pleidleiswyr sy'n aelodau o luoedd EM (a'u cymar neu bartner sifil)
pobl o dan 18 oed ac sy'n byw gyda rhiant neu warcheidwad sy'n aelod o luoedd EM. Mae'n rhaid eu bod yn byw yng Nghymru neu y byddent yn byw yng Nghymru pe na fyddai eu rhiant neu warcheidwad wedi'i leoli dramor
gweision y Goron ac aelodau o staff y British Council (a'u cymar neu bartner sifil)
pobl o dan 18 oed ac sy'n byw gyda rhiant neu warcheidwad sy'n un o weision y Goron neu'n aelod o staff y British Council sy'n gwasanaethu dramor, ar yr amod y byddent yn byw yng Nghymru pe na fyddai eu rhiant neu warcheidwad wedi'i leoli dramor
etholwyr â datganiad o gysylltiad lleol, sy'n cynnwys pobl sy'n byw yn y DU ond nad oes ganddynt gyfeiriad parhaol neu gyfeiriad sefydlog
pobl o dan 16 oed sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu sydd wedi bod yn derbyn gofal gan awdurdod lleol neu sy'n cael eu cadw mewn llety diogel ar hyn o bryd (mae'n rhaid eu bod wedi byw mewn cyfeiriad yng Nghymru cyn hynny)
etholwyr sydd wedi'u cofrestru'n ddienw, h.y. y rhai a all gofrestru'n ddienw oherwydd y byddent mewn perygl pe byddent yn ymddangos ar y gofrestr gan ddefnyddio eu henw
cleifion mewn ysbytai iechyd meddwl y mae eu cyfnod yn yr ysbyty yn ddigon hir iddynt gael eu hystyried fel preswylwyr yno
carcharorion remand y mae eu cyfnod mewn sefydliad cosbi yn ddigon hir iddynt gael eu hystyried fel preswylwyr yno
Yn ogystal â darparu'r un wybodaeth ag etholwyr cyffredin yn eu cais i gofrestru, mae'n rhaid iddynt ddarparu gwybodaeth benodol ychwanegol, drwy ddatganiad, er mwyn cofrestru fel etholwr categori arbennig.