Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Sut y gall unigolion gofrestru i bleidleisio?
Gall unigolion wneud cais i gofrestru i bleidleisio mewn sawl ffordd:1
- ar-lein drwy wefan y llywodraeth ganolog – www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
- drwy ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol yn ysgrifenedig (e.e. ar ffurflen bapur)
- dros y ffôn i'ch staff (os ydych yn cynnig y gwasanaeth)
- yn bersonol yn eich swyddfa (os ydych yn cynnig y gwasanaeth)
Mae'n rhaid i chi anfon gwahoddiad i gofrestru at ddarpar etholwyr o fewn 28 diwrnod i'r adeg y byddwch yn dod yn ymwybodol ohonynt. Fodd bynnag, os oes gennych gyfeiriad e-bost ar gyfer darpar etholwr gallech, yn y lle cyntaf, ei ddefnyddio i'w annog i gyflwyno cais ar-lein neu roi gwahoddiad i gofrestru yn electronig.
Ni fydd y wefan cofrestru i bleidleisio yn caniatáu i unigolyn gyflwyno ffurflen ar-lein oni bai ei fod yn darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen neu'n rhoi rheswm pam na ellir darparu'r wybodaeth honno. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn cael ceisiadau ar bapur nad ydynt yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen i'w prosesu. Mewn achosion o'r fath, byddwch yn gallu cael y wybodaeth goll drwy sianeli gwahanol, ni waeth sut y cafodd y cais gwreiddiol ei wneud.
Er bod proses benodol i'w dilyn os na all rhywun ddarparu ei ddyddiad geni, ei rif Yswiriant Gwladol neu ei genedligrwydd, gallwch gasglu gwybodaeth goll dros y ffôn, yn bersonol neu drwy e-bost. Er enghraifft, efallai na fydd yn glir ar gais papur a yw Rhif Yswiriant Gwladol ar goll oherwydd esgeulustod ar ran y darpar etholwr neu am nad oedd modd ei ddarparu. Os bydd gennych rif ffôn neu gyfeiriad e-bost yr etholwr hwnnw, gallwch gael y wybodaeth goll drwy'r sianeli hynny.
Nid yw'n ofynnol i ymgeisydd o dan 16 oed ddarparu ei rif Yswiriant Gwladol na rheswm pam na all wneud hynny.2
Hyrwyddo'r sianeli y gellir eu defnyddio i wneud cais
Dylech sicrhau bod darpar etholwyr yn gwybod sut i wneud cais i gofrestru. Dylech sicrhau eich bod wedi gwneud y canlynol:
- darparu dolen i'r ffurflen gofrestru ar-lein ar unrhyw dudalennau perthnasol o'ch gwefan (a gwefan y cyngor, os yw ar wahân)
- darparu dolen i'r ffurflen gofrestru ar-lein ble bynnag y gall cofrestru etholiadol fod yn berthnasol, er enghraifft, ar unrhyw system ar-lein ar gyfer trefnu cyfrifon treth gyngor newydd ac ar wefannau sefydliadau partner
- nodi sianeli cofrestru amgen ar gyfer y rhai na allant wneud cais ar-lein neu nad ydynt yn dymuno gwneud hynny
- cydweithio â phleidiau ac ymgeiswyr lleol i rannu gwybodaeth ar sut i gofrestru ar-lein neu gael ffurflenni cofrestru
- cydweithio â phartneriaid lleol eraill i hyrwyddo'r broses gofrestru mewn unrhyw ddeunyddiau a ddosberthir ganddynt i breswylwyr neu a ddefnyddir ganddynt i gyfathrebu â phreswylwyr
- darparu dolen glir i'r ffurflen gais ar-lein ar ddiwedd unrhyw broses a roddir ar waith er mwyn ymateb i ohebiaeth ganfasio
Dylech nodi'n glir y sianeli gwahanol ar gyfer gwneud cais fel bod etholwyr yn gallu gwneud dewis sy'n diwallu eu hanghenion ac yn bodloni eu dymuniadau orau. Dylai hyrwyddo'r ffyrdd gwahanol o gofrestru sicrhau bod y broses gwneud cais mor hygyrch â phosibl.
Beth y gall rhywun ei wneud i helpu rhywun arall i gofrestru i bleidleisio?
Rydym wedi llunio taflen ffeithiau ar gyfer cartrefi gofal y gallwch ei haddasu er mwyn adlewyrchu eich amgylchiadau penodol. Mae'r daflen ffeithiau yn seiliedig ar ein canllawiau ar geisiadau gyda chymorth sy'n nodi'r hyn y gall rhywun ei wneud i helpu rhywun arall i gofrestru.
- 1. Rheoliadau 26(8) a (9), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content
- 2. Adran 16 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) sy'n mewnosod (9A) yn Rheoliad 26 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content