Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Canllawiau ac adnoddau
Ar y dudalen hon cewch hyd i'n canllawiau ac adnoddau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau sy'n gweinyddu etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Yma hefyd mae ein canllawiau a'n hadnoddau ar gyfer rheiny sy'n gweinyddu etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wedi'i gyfuno ag etholiad llywodraeth leol yn Lloegr.
Nid yw'r tudalennau hyn yn cynnwys canllawiau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau sy'n gweinyddu etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i gyfuno ag etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. I gael canllawiau ar weinyddu etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i gyfuno ag etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, cliciwch yma
Os hoffech lawrlwytho arywddluniau pleidiau gwleidyddol, ewch i'n cronfa ddata ar-lein.
Mae'r canllawiau ar y dudalen hon yn cael eu diweddaru ar gyfer pleidleisiau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'ch tîm lleol y Comisiwn os oes gennych unrhyw gwestiynau.
subscriber reduction temporary information
Mae Llywodraeth y DU wedi gosod deddfwriaeth i leihau nifer y llofnodwyr sydd eu hangen ar bob ymgeisydd ar gyfer rhai etholiadau. Rydym wedi diweddaru’r adnoddau a’r canllawiau ar y dudalen hon yn unol â hynny.
Rôl a chyfrifoldebau Swyddog Canlyniadau
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn
- Rôl, cyfrifoldebau, sgiliau a gwybodaeth y Swyddog Canlyniadau lleol
- Ein safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Canlyniadau lleol
Cynllunio a threfnu
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Cynllunio (gan gynnwys nodi a hyfforddi staff, dewis a bwcio lleoliadau a rheoli contractwyr a chyflenwyr)
- Sut i gynnal hygrededd etholiad
- Codi ymwybyddiaeth
- Mynediad i arsylwyr etholiadol a chynrychiolwyr y Comisiwn i ddigwyddiadau
Gweinyddu'r etholiad
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Rôl y Swyddog Canlyniadau Lleol i ddarparu gwybodaeth leol i ymgeiswyr
- Cynhyrchu hysbysiadau, cardiau pleidleisio a phapurau pleidleisio
- Pleidleisio gorsaf bleidleisi
Pleidleisio absennol
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Amserlen pleidleisio absennol
- Pleidleisio drwy ddirprwy
- Paratoadau ar gyfer prosesau pleidleisio absennol a chynhyrchu’r deunydd ysgrifennu
- Gweithdrefnau ar gyfer rhoi, derbyn ac agor pleidleisiau post
Dilysu a chyfrif y pleidleisiau
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Egwyddorion dilysu a chyfrif effeithiol
- Paratoadau ar gyfer y cyfrif
- Rheoli'r dilysu a'r cyfrif
- Gweithdrefnau'r dilysu a'r cyfrif
Ar ôl cyhoeddi'r canlyniadau
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Storio a gwaredu dogfennau
- Gweithgareddau ôl-etholiadol
- Herio'r canlyniad
- Adolygu gweithdrefnau etholiadol
Canllawiau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Rôl, cyfrifoldebau, sgiliau a gwybodaeth y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu
- Ein canllawiau a'n safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu