Introduction

Mae’n rhaid i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio mewn rhai etholiadau. 

Mae’r gofyniad hwn yn gymwys i is-etholiadau Senedd y DU, deisebau adalw ac etholiadau lleol yn Lloegr, ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr.

O fis Hydref 2023 ymlaen bydd y gofyniad hefyd yn gymwys i etholiadau cyffredinol Senedd y DU.

Nid yw’n gymwys yn etholiadau Senedd Cymru, nac yn etholiadau Senedd yr Alban, nac mewn etholiadau cynghorau yng Nghymru a'r Alban.

Lawrlwythwch ein hadnoddau

Gall sefydliadau sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phleidleiswyr, gan gynnwys awdurdodau lleol ac elusennau, chwarae rôl bwysig wrth gynorthwyo pleidleiswyr i sicrhau fod ganddynt ID ffotograffig cyn unrhyw etholiad lle mae’r gofyniad yn gymwys.

Rydym wedi cynhyrchu ‘pecyn partneriaid’ sy’n cynnwys set generig o adnoddau i’w defnyddio yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Bydd yr adnoddau hyn yn helpu sefydliadau i godi ymwybyddiaeth ac yn cynorthwyo pleidleiswyr gyda gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, os bydd angen. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys gwybodaeth am gofrestru pleidleiswyr, yn ogystal â gwybodaeth sydd wedi’i theilwra at anghenion grwpiau yr ydym yn gwybod eu bod yn fwy tebygol o wynebu rhwystrau wrth fodloni’r gofyniad hwn ac a fydd efallai angen cymorth i gael mynediad at ID ffotograffig. 

Mae’r pecyn yn cynnwys:

  • Arweiniad i staff a gwirfoddolwyr
  • Llyfryn i bleidleiswyr
  • Mewnosodiad A5 sy’n crynhoi’r gofyniad
  • Posteri 
  • Templed ar gyfer y we a chopi ar gyfer cylchlythyr
  • Templedi graffigau dangosyddion digidol, graffigau cyfryngau cymdeithasol a chopi

Lawrlwythwch y Pecyn Partneriaid

Rydym wedi cynhyrchu mewnosodiad A5 pwrpasol ar gyfer cynghorau lleol yng Nghymru i gyfathrebu’r gofynion ID pleidleisiwr newydd i’w trigolion. 

Adnoddau ar gyfer pleidleiswyr dienw

Rydym hefyd wedi cyhoeddi adnoddau sydd wedi’u teilwra at anghenion pobl sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio’n anhysbys, neu a allai elwa o wneud hynny, megis y sawl sy'n goroesi cam-drin domestig

Lawrlwythwch y Pecyn Partneriaid ar gyfer pleidleiswyr dienw