Adolygiad o gofrestrau pleidiau gwleidyddol
Overview
Rydym yn adolygu rhestrau pleidiau gwleidyddol er mwyn sicrhau bod pob disgrifiad yn nodi pwy yw'r blaid y mae wedi ei gofrestru ar ei chyfer. Gwnawn hyn fel y gall pleidleiswyr nodi'n glir pwy yw'r pleidiau ar eu papur pleidleisio.
Pam y mae angen i bob disgrifiad nodi pwy yw’r blaid y mae wedi cofrestru ar ei chyfer?
Nid oes raid i ymgeiswyr ddefnyddio enw eu plaid ar y papur pleidleisio bob tro. Weithiau gallant ddefnyddio disgrifiad cofrestredig yn lle hynny. Nid yw llawer o ddisgrifiadau yn cynnwys enwau plaid. Mae hyn am y gall pleidleisiwr fwrw ei bleidlais ar gam dros ymgeisydd sy'n sefyll ar ran plaid wahanol i'r un roeddent yn bwriadu pleidleisio drosti. Neu efallai na fydd yn gwybod pa blaid y mae ymgeisydd yn sefyll drosti.
Rydym yn rhoi'r pleidleisiwr yn gyntaf bob tro. Mae'n bwysig bod pleidleiswyr yn gallu bwrw eu pleidlais fel y bwriadwyd ac na chânt eu drysu gan yr hyn a welant ar bapurau pleidleisio. Rydym wedi egluro’r diffiniad o ddisgrifiad plaid yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Drwy wneud hynny rydym yn sicrhau y gall pleidleiswyr nodi pwy yw plaid yn glir, ni waeth a yw'r ymgeisydd yn defnyddio'r enw cofrestredig neu ddisgrifiad cofrestredig ar bapur pleidleisio.
Pryd y gwnaethoch ddechrau cymhwyso'r diffiniad cliriach o ddisgrifiad plaid?
Gwnaethom ddechrau cymhwyso'r diffiniad cliriach o ddisgrifiad plaid o ddiwedd mis Ebrill 2017.
Beth yw'r pŵer cyfreithiol rydych yn ei ddefnyddio?
Fel yr amlinellwyd yn adran 23 o PPERA, mae gennym ddyletswydd i gynnal cofrestrau pleidiau gwleidyddol. O bryd i'w gilydd rydym yn cynnal adolygiadau er mwyn sicrhau bod pob plaid gofrestredig a'i marciau adnabod yn dal i fodloni'r profion statudol ar gyfer bod ar y gofrestr.
Ar ba bleidiau y mae eich adolygiad yn effeithio?
Rydym yn edrych ar bob plaid a gofrestrodd cyn 3 Mai 2017 sydd hefyd ag un neu fwy o ddisgrifiadau cofrestredig.
Beth yw'r broses gwneud penderfyniadau ar gyfer yr adolygiad?
Gwneir penderfyniadau fel arfer gan y Cyfarwyddwr Cyllid Gwleidyddol a Rheoleiddio a'r Cwnsler Cyfreithiol neu, mewn rhai amgylchiadau, gan Bennaeth y Comisiwn yn yr Alban. Ategir hyn gan Fwrdd Cymeradwyo mewnol o uwch aelodau staff y Comisiwn.
Ym mha drefn fyddwch chi'n cwblhau'r adolygiad?
Byddwn yn adolygu'r disgrifiadau cofrestredig ar y gofrestr o bleidiau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon yn gyntaf, wedi eu dilyn gan Brydain fawr, gyda phob un yn nhrefn yr wyddor fesul yn ôl enw'r blaid. Pan fydd plaid wedi ei chofrestru ar gofrestr Gogledd Iwerddon ac ar gofrestr Prydain Fawr, gallwn adolygu'r disgrifiadau ar y ddwy gofrestr gyda'i gilydd.
Pa mor hir fydd yr adolygiad yn ei gymryd?
Rydym yn disgwyl cwblhau'r adolygiad o ddisgrifiadau cofrestredig ar y gofrestr o bleidiau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon erbyn dechrau 2019. Bryd hynny fe fyddwn yn cwblhau’r adolygiad o ddisgrifiadau pleidiau sydd wedi’u cofrestru ar gofrestrau Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr.
Ar ôl yr etholiadau ar 2 Mai 2019, ry’n ni’n disgwyl cwblhau’r adolygiad o’r disgrifiadau cofrestredig ar y gofrestr o bleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fwr yn ail hanner 2019.
A wnewch chi gysylltu â'r pleidiau ynghylch yr adolygiad?
Os bydd yr adolygiad yn effeithio ar eich plaid byddwn yn cysylltu â chi. Fodd bynnag, dim ond os penderfynwn ddileu unrhyw un o ddisgrifiadau cofrestredig eich plaid y bydd angen i chi weithredu o bosibl.
A wnewch chi wahodd pleidiau i fynegi eu barn fel rhan o'r broses adolygu?
Os penderfynwn dros dro ddileu unrhyw ddisgrifiadau o'ch plaid, cewch gyfle i fynegi eich barn wrthym. Byddwn yn ysgrifennu atoch er mwyn nodi pryd y bydd angen i chi gyflwyno'r sylwadau hynny.
Beth sy'n digwydd os penderfynwch nad yw disgrifiad plaid yn nodi pwy yw'r blaid?
Byddwn yn dileu'r disgrifiad o'r gofrestr/cofrestrau sy'n golygu na fydd y blaid yn gallu defnyddio'r disgrifiad hwnnw ar bapurau pleidleisio.
Bydd ymgeiswyr yn gallu parhau i ddefnyddio marciau adnabod cofrestredig y blaid sy'n weddill (enwau, disgrifiadau neu arwyddluniau) ar y papur pleidleisio.
A allwn barhau i ddefnyddio disgrifiad a ddilëwyd wrth ymgyrchu?
Gallwch. Os byddwn yn dileu disgrifiad o'r gofrestr, bydd y blaid neu ei hymgeiswyr yn gallu parhau i'w ddefnyddio mewn gweithgareddau ymgyrchu, gan gynnwys ar unrhyw ddeunyddiau. Fodd bynnag, ni fydd y blaid yn gallu defnyddio’r disgrifiad hwnnw ar bapurau pleidleisio.
A allwn weld eich dogfennau penderfynu?
Os penderfynwn ddileu disgrifiadau cofrestredig unrhyw blaid, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn egluro'r rhesymau dros ein penderfyniad. Os hoffech weld y dogfennau penderfynu gallwch wneud cais amdanynt o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 drwy e-bostio ein Rheolwr Gwybodaeth.
Beth gallaf ei wneud os byddaf yn anghytuno â'ch penderfyniad?
Er mwyn herio penderfyniad statudol gallwch wneud cais am adolygiad barnwrol o'n penderfyniad. Dylech geisio eich cyngor cyfreithiol eich hun ar hynny.
Mae cadw neu ddileu marc adnabod plaid gofrestredig yn un o'n penderfyniadau statudol ac nid yw'n gweithdrefn gwyno yn ymdrin ag ef. Os ydych yn cwyno am ein prosesau gweinyddol, gellir delio â hyn drwy ein gweithdrefn gwyno. Dysgwch fwy am sut i wneud cwyn
Rydych wedi dileu rhai o ddisgrifiadau fy mhlaid? A all fy mhlaid wneud cais i gofrestru disgrifiadau newydd?
Gall, gallwch wneud cais i gofrestru disgrifiadau plaid newydd ar unrhyw adeg.
A wnewch chi godi ffi am gais newydd?
Os gwnewch gais o fewn mis i ddileu'r disgrifiad o'r gofrestr, byddwn yn hepgor y ffi ymgeisio arferol.
Sut y gallaf wneud cais i gofrestru disgrifiadau newydd?
Gall pleidiau gael hyd at 12 o ddisgrifiadau cofrestredig. Rydym yn asesu pob cais i gofrestru disgrifiadau yn erbyn y gofynion statudol a'r profion a nodir yn PPERA. Darllenwch ein canllawiau ar enwau plaid, disgrifiadau ac arwyddluniau.
Dylech hefyd chwilio'r cofrestrau o bleidiau gwleidyddol er mwyn penderfynu a oes unrhyw enwau plaid, disgrifiadau ac arwyddluniau sydd eisoes wedi’u cofrestru yn debyg i'r hyn yr hoffech eu defnyddio.
Gallwch gyflwyno eich cais ar-lein. I gael help gallwch ddarllen ein canllawiau ar gyflwyno eich cais ar-lein. Cofiwch sicrhau bod y disgrifiad yn nodi'n glir pwy yw eich plaid i bleidleiswyr.
Dewiswch 'talu drwy siec' pan fydd angen i chi dalu. Ni fydd angen i chi roi siec os ydych yn gwneud cais o fewn mis i ddileu'r disgrifiad felly bydd hyn yn golygu na fyddwn yn codi tâl arnoch am eich cais.
Gallwch hefyd gwblhau ffurflen i wneud cais drwy'r post. Ni fydd angen i chi anfon tâl gyda'r ffurflen os ydych yn gwneud cais o fewn mis i ddileu'r disgrifiad.
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i asesu cais newydd?
Os byddwch yn anfon cais cyflawn byddwn fel arfer yn eich hysbysu o'r canlyniad o fewn tua chwe wythnos. Gall gymryd mwy na hynny os bydd angen i ni ofyn i chi am ragor o wybodaeth.
Sut y gallaf gael help gyda'm cais?
- Darllenwch eich canllawiau ar gofrestru a chynnal plaid
- E-bostiwch y tîm cofrestru neu ffoniwch 0333 103 1928
Gallwn ddarparu canllawiau, fodd bynnag bydd angen i chi benderfynu pa fanylion i'w cynnwys yn eich cais, ac ni fyddwn yn gallu dweud wrthych ymlaen llaw a fydd eich cais yn llwyddiannus. Pan fyddwn wedi ei dderbyn, byddwn yn asesu eich cais yn erbyn y meini prawf yn PPERA cyn eich hysbysu o'r canlyniad terfynol.