Canllawiau a gwybodaeth i unigolion a sefydliadau sy'n ymgyrchu dros neu yn erbyn deiseb adalw
Ar y dudalen hon mae canllawiau a gwybodaeth i unigolion a sefydliadau sy'n ymgyrchu dros neu yn erbyn deiseb adalw. Rydym yn galw'r unigolion a'r sefydliadau hyn yn ymgyrchwyr deiseb adalw.
Mae'n rhaid i ymgyrchwyr deiseb adalw ddilyn rheolau ar wariant, roddion ac adrodd.
Mae ein canllawiau yn helpu ymgyrchwyr deiseb adalw i gydymffurfio gyda'r rheolau. Does dim rhaid i chi ddilyn y canllawiau hyn, ond os gwnewch, byddwch fel arfer yn gwneud digon i gydymffurfio gyda'r gyfraith.