Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: CPE Ar-lein a ffurflenni
Gwybodaeth ynghylch cofrestru ac adrodd ar-lein.
Os ydych yn bwriadu gwario mwy na £10,000 yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, neu mwy na £20,000 yn Lloegr yn ymgyrchu mewn etholiadau penodol, mae'n rhaid i chi gofrestru gyda ni fel ymgyrchydd nad yw'n blaid.
Os ydych yn ymgyrchydd nad yw'n blaid gofrestredig, mae rhai pethau mae'n rhaid i chi eu hadrodd i ni.
Ar y dudalen hon mae gwybodaeth ynghylch cofrestru ac adrodd ar-lein. Os oes well gennych gyflwyno papurau ar-lein, gallwch hefyd ddod o hyd i'r holl ddogfennau perthnasol i chi eu hargraffu a'u cwblhau.
Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw agwedd o gwblhau'r ffurflenni - un ai ar-lein neu â llaw - gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen ein canllawiau.
Darllen ein holl ganllawiau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Adrodd ar-lein ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Gallwch gofrestru gyda ni, adrodd i ni, a'n hysbysu eich bod yn brif ymgyrchydd gan ddefnyddio ein system ar-lein ddiogel.
Defnyddio CPE Ar-lein
Ffurflenni ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Neu, gallwch lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen berthnasol a'i dychwelyd i ni drwy'r post, ffacs, sgan neu e-bost.
Cofrestru gyda ni
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
ffurflenni i gofrestru gyda ni. I gael rhagor o wybodaeth ar gofrestru gyda ni, gweler ein canllawiau ar Cofrestru fel ymgyrchydd nad yw'n blaid:
Adrodd i ni
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
ffurflenni ar gyfer adrodd gwybodaeth ariannol i ni. I gael rhagor o wybodaeth ar drefniadau adrodd i ni, gweler ein canllawiau Rheoli gwariant ymgyrchu rhai nad ydynt yn bleidiau:
Ymgyrchu ar y cyd
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
ffurflenni i roi gwybod i ni eich bod chi'n brif ymgyrchydd. I gael rhagor o wybodaeth ar drefniadau adrodd i ni, gweler ein canllawiau ymgyrchu ar y cyd i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.