a
Mae’r Cwestiynau Cyffredin hyn yn amlinellu’r gyfradd ar gyfer cynadleddau a gynhelir hyd at Wanwyn 2021. Gweler ein canllawiau ar gyfer cynadleddau a gynhelir yn ystod Hydref 2021 a’r tu hwnt.
Rydym yn deall y bydd rhai pleidiau gwleidyddol yn cynnal cynadleddau a chyfarfodydd eraill yn ddigidol a fyddai fel arall wedi cael eu cynnal yn bersonol, o ganlyniad i’r pandemig Covid-19. Rydym wedi paratoi rhai Cwestiynau Cyffredin isod, gan obeithio y byddant yn ddefnyddiol i chi.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â hyn, neu unrhyw faterion eraill sy’n deillio o’r pandemig, cysylltwch â’n gwasanaeth cyngor.
a
Mae rheolau nawdd PPERA yn cwmpasu cynadleddau a chyfarfodydd ar-lein yn yr un modd ag y maent yn cwmpasu cynadleddau a chyfarfodydd ffisegol. Yn unol â hyn, trinnir taliadau penodedig a wneir i bleidiau gwleidyddol mewn perthynas â “threuliau diffiniedig” ar gyfer cynadleddau ar-lein fel taliadau nawdd. Mae hyn yn golygu y bydd y rheolau ynglŷn â rhoddion yn cael eu cymhwyso at y taliadau hynny.
Mae treuliau diffiniedig yn daliadau a wneir i helpu i fodloni cost y canlynol:
- Unrhyw gynhadledd neu ddigwyddiad (gan gynnwys rhai digidol)
- Paratoi, cynhyrchu, neu ddosbarthu cyhoeddiad (gan gynnwys cyhoeddiadau digidol)
- Unrhyw astudiaeth neu ymchwil
Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at ein canllawiau nawdd.
a
Yn gyntaf, dylech bennu p’un a yw’r taliadau rydych yn eu derbyn yn cael eu hystyried yn nawdd at ddibenion PPERA ai peidio.
Bydd unrhyw daliadau a wneir tuag at fodloni cost digwyddiad yn cael eu hystyried yn nawdd. Bydd hyn yn golygu bod y taliad cyfan yn cael ei ystyried yn rhodd.
Nid yw taliadau hysbysebu nad ydynt yn bodloni cost digwyddiad yn cael eu hystyried yn nawdd, ac felly fe gânt eu trin yn ôl rheolau rhoddion arferol. Bydd unrhyw symiau a dderbynnir gennych sydd uwch na’r gwerth masnachol yn cael eu hystyried yn rhodd.
a
Bydd hysbysebion mewn llawlyfr ar-lein yn cael eu heithrio o’r rheolau nawdd yn yr un modd â hysbysebion mewn llawlyfr ffisegol. O’r herwydd, cymhwysir y rheolau arferol a dim ond arian a ddarperir sy’n uwch na gwerth masnachol yr hysbysebion a fydd yn rhodd.
a
Mae rheolau PPERA ar gyfer stondinau cynadleddau digidol yn cael eu cymhwyso yn yr un modd â stondinau ffisegol. Bydd stondin cynhadledd ddigidol yn cynnwys y canlynol:
- Rhaid bod y stondin dim ond ar gael i’w hurio am hyd y gynhadledd ddigidol.
- Rhaid bod yna ryw lefel o ryngweithio rhwng mynycheion ac arddangoswyr
- Rhaid bod y stondin yn fyw
- Hysbyseb neu faner (neu rywbeth tebyg) ar y wefan neu’r platfform lletya (noder: ni fyddai hysbyseb ar wefan heb elfennau eraill yn stondin cynhadledd ddigidol ynddi ei hun)
Os ydych yn credu eich bod yn derbyn taliadau tuag at stondinau cynhadledd digidol, cyfeiriwch at yr ateb i’r cwestiwn dilynol ynghylch sut dylech drin y taliadau hyn.
a
O dan PPERA, mae taliadau a dderbynnir gan bleidiau tuag at stondinau cynhadledd yn eu cynadleddau yn ddarostyngedig i gyfradd ddi-roddion a bennir gan y Comisiwn. Mae’r rheolau rhoddion ond yn cael eu cymhwyso at daliadau sydd uwch na’r gyfradd hon.
Y gyfradd gyfredol a bennir gan y Comisiwn ar gyfer stondinau ffisegol yw £15,000 (ac eithrio TAW) ar gyfer stondin gynhadledd 3m x 3m.
Ni fydd y Comisiwn yn gosod cyfradd ddi-roddion sefydlog ar gyfer stondinau cynhadledd digidol ar gyfer tymor cynadleddau pleidiau 2020, o ystyried y cyfyngiadau amser. Eleni, rydym yn gosod lefel amrywiol, wedi’i diffinio gan y marchnadwerth teg. Bydd unrhyw swm a dderbynnir sydd uwch na’r marchnadwerth teg ar gyfer cynhadledd ddigidol yn cael ei ystyried yn rhodd os yw’n fwy na £500.
Mae’r Comisiwn yn bwriadu adolygu’r gyfradd ar gyfer stondinau cynhadledd ffisegol a gosod cyfradd ar gyfer stondinau cynhadledd digidol cyn tymor cynadleddau pleidiau 2021.
Gwerthfawrogwn y gallwch fod yn ansicr ynghylch sut mae PPERA yn cael ei chymhwyso at daliadau penodol rydych yn eu derbyn tuag at eich digwyddiadau digidol. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cynghori.
a
Y marchnadwerth teg yw’r pris y byddai rhywun yn disgwyl ei dderbyn yn y farchnad gyffredinol.
Mewn rhai achosion, os na allwch ganfod cyfatebiaeth union, efallai y bydd angen i chi edrych ar bris nwyddau neu wasanaethau sy’n debyg.
Yn achos stondinau cynhadledd digidol, efallai y byddwch yn dymuno edrych ar yr tâl a godir am stondin mewn cynhadledd ddigidol safon uchel arall, neu fathau eraill o hysbysebu ar-lein uwch.
Yn ymarferol, dyma’r un weithdrefn y dylech fynd trwyddi ar gyfer asesu marchnadwerth unrhyw fath arall o hysbysebu rydych yn eu gwerthu.
Dylech wneud asesiad onest a theg o’r marchnadwerth ar gyfer y nwyddau neu’r gwasanaethau rydych yn eu gwerthu. Dylech gofnodi unrhyw benderfyniadau rydych yn eu gwneud a sut y daethoch atynt.