Pwynt Cyswllt Unigol
Introduction
Mae gan bob heddlu yn y DU swyddog Pwynt Cyswllt Unigol ar gyfer cyfraith etholiadol.
Rydym yn rhoi hyfforddiant a chyngor ar atal a chanfod troseddau sy'n gysylltiedig ag etholiadau i swyddogion yr heddlu sy'n ymgymryd â rôl y Pwynt Cyswllt Unigol.
Dogfennau canllaw a deunyddiau hyfforddiant
Mae'r Coleg Plismona yn darparu canllawiau ar blismona etholiadau.
Mae hefyd yn darparu rhestr o droseddau a chosbau sy'n gysylltiedig ag etholiadau a refferenda, sydd ar gael i'w lawrlwytho.
Gallwch hefyd lawrlwytho dogfen gryno sy'n cynnwys trosolwg o droseddau sy'n gysylltiedig ag etholiadau a'r camau y dylid eu cymryd.
Mae Heddlu Dinas Llundain yn darparu cwrs ar gyfer Pwyntiau Cyswllt Unigol sy'n ymwneud â phlismona etholiadau ac ymchwilio i dwyll etholiadol. Dysgu mwy am y cwrs
Ein canllawiau i weinyddwyr etholiadau
Rydym yn darparu canllawiau ac adnoddau i helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol, Swyddogion Canlyniadau a'u staff i gynnal etholiadau a refferenda ynghyd â'r broses cofrestru etholiadol.
Gweld y canllawiau i weinyddwyr etholiadau
Ein canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid
Rhaid i ymgeiswyr a'u hasiantiaid ddilyn rheolau penodol a nodir mewn deddfwriaeth. Rydym yn darparu canllawiau i helpu ymgeiswyr ac asiantiaid i gydymffurfio â'r rheolau.
Data ar dwyll etholiadol
Bob mis, rydym yn gofyn i heddluoedd ledled y DU anfon data atom am honiadau o dwyll etholiadol y maent yn eu cael ac yn ymchwilio iddynt.
Rydym yn adrodd ar nifer yr honiadau, y math o honiadau a'u canlyniadau.
Os ydych yn chwilio am ddata hŷn, cysylltwch â ni.
Rhoi gwybod am dwyll etholiadol
Rydym yn rhoi gwybodaeth i bleidleiswyr am yr hyn y mae twyll etholiadol yn ei olygu, sut i roi gwybod amdano, a beth fydd yn digwydd pan fyddant yn gwneud hynny.