Bydd y Comisiwn yn asesu eich cais yn erbyn y profion statudol yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).
Mae hyn yn cynnwys:
Dilysu'r wybodaeth a roddir yn eich cais. Bydd hyn yn golygu cadarnhau, er enghraifft, bod cyfeiriadau cartref wedi'u rhoi ar gyfer swyddogion y blaid.
Adolygu eich cyfansoddiad a'ch cynllun ariannol i gadarnhau eu bod yn bodloni gofynion PPERA. Ar gyfer cyfansoddiadau, mae hefyd yn golygu cadarnhau nad ydynt yn mynd yn groes i gyfraith cydraddoldeb y DU.
Asesu a yw enw arfaethedig eich plaid, ynghyd ag unrhyw ddisgrifiadau ac arwyddluniau, yn bodloni'r profion statudol yn PPERA.
Mae'n bosibl y byddwn yn nodi materion yn y cais rydym yn awgrymu eich bod yn eu hystyried ar y cam hwn. Os felly, efallai y byddwn yn oedi eich cais am gyfnod rhesymol o amser i'ch galluogi i ymateb. Gall unrhyw oedi wrth ymateb i ni arwain at oedi wrth brosesu eich cais. Os na fyddwn yn clywed gennych erbyn y dyddiad cau, efallai y caiff eich cais ei wrthod.