Rydym wedi gweithio gydag RNIB Cymru i gynhyrchu taflen ffeithiau ar gyfer pleidleiswyr sydd wedi colli eu golwg, ar sut i gymryd rhan yn etholiad cyffredinol Seneddol y DU sydd yn digwydd ddydd Iau 12 Rhagfyr.
Lawrlwythwch y canllaw
The referenced media source is missing and needs to be re-embedded.
Mae'r canllaw yn esbonio'r adnoddau a'r cymorth sydd ar gael ynghylch gorsafoedd pleidleisio, i bleidleiswyr sydd wedi colli eu golwg.
Mae'r canllaw hefyd yn rhoi'r dyddiadau cau i gofrestru i bleidleisio, a gwybodaeth ar sut i wneud cais am bleidlais bost neu ddirprwy yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.