Y Comisiwn Etholiadol yn argymell newid i gwestiwn refferendwm yr UE
Diweddariad ar y refferendwm
Heddiw rhoddodd y Comisiwn Etholiadol ei gyngor statudol i'r Senedd ar y cwestiwn refferendwm arfaethedig ym Mil Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd 2015-16, sydd â'i gyfnod seneddol nesaf (Adroddiad) ar 7 Medi.
Y cwestiwn sydd yn y Bil ar hyn o bryd ac a brofwyd gan y Comisiwn yw:
“Should the United Kingdom remain a member of the European Union?”
Yr ymatebion fyddai ‘Yes’/‘No’
Yn dilyn ei broses asesu, mae'r Comisiwn wedi argymell y dylai'r cwestiwn gael ei ddiwygio i:
‘Should the United Kingdom remain a member of the European Union or leave the European Union?’
Yr ymatebion fyddai ‘Remain a member of the European Union’ / ‘Leave the European Union’.
Mae'r Comisiwn wedi ysgrifennu at y Llywodraeth ac wedi cyhoeddi papur briffio i'r holl Aelodau Seneddol yn argymell y dylid gwneud y newid hwn yn ystod cam Adroddiad y Bil ar 7 Medi.
Dywedodd Jenny Watson, Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol:
Rhaid i unrhyw gwestiwn refferendwm fod mor glir â phosibl fel bod pleidleiswyr yn deall y dewis pwysig y gofynnir iddynt ei wneud. Rydym wedi profi’r cwestiwn arfaethedig gyda phleidleiswyr, a derbyniwyd sylwadau gan ymgyrchwyr posibl, academyddion ac arbenigwyr iaith glir.
Er bod pleidleiswyr yn deall y cwestiwn yn y Bil, roedd rhai ymgyrchwyr ac aelodau o'r cyhoedd yn teimlo nad yw'r geiriad yn gytbwys a chafwyd canfyddiad o ragfarn. Mae’r cwestiwn arall yr ydym wedi ei argymell yn ymdrin â hyn. Mater i’r Senedd yn awr yw trafod ein cyngor a phenderfynu pa eiriad cwestiwn y dylid ei ddefnyddio.
Mae'r Bil hefyd yn cynnwys fersiwn Gymraeg o'r cwestiwn a fyddai'n cael ei ddefnyddio ar bapurau pleidleisio yng Nghymru. Rydym wedi profi’r cwestiwn iaith Gymraeg ac wedi argymell fersiwn ddiwygiedig.
Ymchwil y Comisiwn
Canfu ein hasesiad bod geiriad cwestiwn y refferendwm sydd wedi’i gynnwys yn y Bil ar hyn o bryd wedi'i ysgrifennu mewn iaith glir ac yn hawdd i bobl ei ddeall a’i ateb. Fodd bynnag, mae gennym bryderon, yn seiliedig ar ein hasesiad, am y cwestiwn arfaethedig. Mae hyn oherwydd yr hyn a glywsom drwy’r ymgynghoriad ac ymchwil ynghylch y canfyddiad bod y cwestiwn yn annog pleidleiswyr i ystyried un ymateb yn fwy ffafriol na'r llall. Mae hyn yn unol â'n gwaith ymchwil blaenorol a wnaed ar adeg y Bil Aelod Preifat ar refferendwm yr UE yn 2013; gellir cael manylion am y gwaith hwn ar wefan y Comisiwn.
Profwyd y cwestiwn sydd yn y Bil ar hyn o bryd gydag aelodau o'r cyhoedd, a hefyd ceisiodd y Comisiwn farn unigolion a grwpiau eraill i sicrhau bod y cwestiwn yn glir, yn ddiamwys ac i'r pwynt. Noda canllawiau asesu cwestiwn refferendwm sefydledig y Comisiwn (a ddefnyddiwyd ar gyfer Biliau refferendwm blaenorol, yn fwyaf diweddar ar gyfer y Refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban yn 2014) y dylai'r cwestiwn fod yn niwtral, sy'n golygu na ddylai annog pleidleiswyr i ystyried un ymateb yn fwy ffafriol nag un arall, neu gamarwain pleidleiswyr.
Roedd dau brif reswm pam fod ymatebwyr i’r ymgynghoriad a’r cyfranogwyr ymchwil yn gweld rhagfarn yn y cwestiwn – dim ond y dewis ‘remain’ a geir ynddo, ac mae’r ymateb ‘yes’ ar gyfer y sefyllfa bresennol. O ganlyniad, er nad yw'r cwestiwn yn arwain yr ateb yn sylweddol, mae gennym bryderon ynghylch y canfyddiad y bydd y cwestiwn hwn yn annog pleidleiswyr i ystyried un ymateb yn fwy ffafriol nag un arall. Mae'r safbwyntiau hyn yn codi pryder ynghylch cyfreithlondeb posibl canlyniad y refferendwm, yng ngolwg y rhai sy'n ymgyrchu i adael a rhai aelodau o'r cyhoedd - yn enwedig petai’r bleidlais o blaid aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Roedd barn yr ymgyrchwyr yn arbennig yn rhoi dimensiwn ychwanegol na fu ar gael yn ein hasesiad blaenorol.
Profodd y Comisiwn gwestiynau eraill ac awgryma'r asesiad ei bod yn bosibl gofyn cwestiwn na fyddai’n achosi pryderon tebyg am niwtraliaeth, tra’i fod hefyd yn hawdd ei ddeall. Mae ymchwil y Comisiwn yn awgrymu bod y cwestiwn amgen a gynigwyd yn ymdrin â’r pryderon a fynegwyd ynghylch rhagfarn bosibl.
Darllenwch yr adroddiad llawn ar asesiad o’r cwestiwny Comisiwn a’r adroddiad ymchwil yma.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â Mazida Khatun yn swyddfa’r wasg y Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- mkhatun@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Mae’r Comisiwn Etholiadol yn gorff annibynnol a sefydlwyd gan Senedd y DU. Ein nod yw hygrededd y broses ddemocrataidd a hyder y cyhoedd ynddi. Rydym yn rheoleiddio cyllid pleidiau ac etholiadau ac yn gosod safonau ar gyfer etholiadau a gynhelir yn dda ac rydym yn gyfrifol am gynnal a rheoleiddio refferenda o dan y Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau & Refferenda (2000).
- Mae gan y Comisiwn Etholiadol gyfrifoldeb statudol o dan y Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) i adrodd ar eglurder y cwestiwn a gynhwyswyd mewn Bil refferendwm, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo gael ei osod gerbron Senedd y DU. Dyma’r 11eg adroddiad asesiad o gwestiwn refferendwm a wnaed gan y Comisiwn.
- Mae’r Comisiwn wedi sefydlu proses asesu cwestiwn, sy'n golygu siarad â phleidleiswyr ar draws y DU, a gofyn am gyngor gan arbenigwyr hygyrchedd ac iaith glir, a chysylltu â phleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr i ofyn am eu barn.
- Penododd y Comisiwn Etholiadol asiantaeth ymchwil annibynnol GfK i gynnal ymarfer ymchwil ansoddol i weld sut oedd pobl yn ymateb ac yn deall y cwestiwn. Defnyddiodd y profion gyfuniad o gyfweliadau dwys un-i-un a grwpiau ffocws i brofi'r cwestiwn ymhlith sampl o gyfranogwyr mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws y DU. Cafwyd cyfanswm o 5 o grwpiau ffocws, 24 o gyfweliadau dwys a 65 o gyfweliadau dwys bychan.
- GfK hefyd a gynhaliodd ein dau brosiect ymchwil blaenorol yn canolbwyntio ar gwestiynau refferendwm Undeb Ewropeaidd a gynhwyswyd mewn Bil Aelod Preifat a gyflwynwyd yn 2013. Argymellasom yr adeg honno y dylai geiriad y cwestiwn arfaethedig gael ei ddiwygio i leihau'r risg o gamddealltwriaeth neu amwysedd am statws aelodaeth bresennol y DU o fewn yr UE. Darparwyd dau eiriad cwestiwn arall i’r Senedd eu hystyried, y cyntaf o'r rhain yw'r cwestiwn a gynhwysir ar hyn o bryd yn y Bil, a’r ail yw'r cwestiwn yr ydym yn awr yn argymell y dylid ei ddiwygio iddo. Darparwyd dau opsiwn gennym yn 2013 oherwydd, fel yr amlygwyd ar y pryd, ni fu modd i ni roi prawf llawn ar y cwestiwn rydym yn awr yn ei argymell yn yr amser oedd ar gael i ni cyn i ni adrodd yn llawn. Felly, gwnaethom yn glir, petai’r Senedd yn diwygio’r cwestiwn yn y Bil i gynnwys y geiriad hwn, y byddai'r Comisiwn yn ymgymryd â gwaith pellach i wirio p’un a oedd y geiriad hwn yn codi unrhyw broblemau eglurder newydd.
- Y geiriad Cymraeg a argymhellir gan y Comisiwn i’w ddefnyddio ar bapurau pleidleisio yng Nghymru yw: “A ddylai’r Deyrnas Unedig aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd? Aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd Gadael yr Undeb Ewropeaidd”
- Nid hwn fyddai’r tro cyntaf i refferendwm mewn rhan o'r DU beidio â defnyddio cwestiwn ‘yes/no’. Y refferenda cenedlaethol diweddaraf i beidio â defnyddio ‘yes/no’ oedd y rhai a gynhaliwyd yng Nghymru a'r Alban yn 1997.
- Ystyriodd Bwrdd y Comisiwn Etholiadol ganfyddiadau'r ymchwil a chymeradwyodd y cwestiwn a argymhellir ar 17 Awst 2015. Mae’r cofnodion a phapurau drafft o gyfarfod y Bwrdd ar gael arwefan y Comisiwn.