Y Comisiwn Etholiadol yn croesawu cynigion i ddiwygio'r canfas cofrestru etholiadol blynyddol
Summary
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi croesawu cynigion Llywodraeth y DU i ddiwygio'r canfas cofrestru etholiadol blynyddol yn ei adroddiad statudol ar y ddeddfwriaeth ddrafft.
Bydd y cynigion i ddiwygio'r canfas, a ddaw i rym yn 2020, yn symleiddio'r broses o archwilio cofrestrau etholiadol y mae'n rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ei chwblhau bob blwyddyn. Bydd hyn yn galluogi'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gael gafael ar ddata ar lefel genedlaethol ynglŷn â'u poblogaeth leol a fydd yn eu helpu i nodi a thargedu cartrefi lle y mae'n debygol bod pobl wedi symud a heb gofrestru i bleidleisio yn gywir.
Quote
Dywedodd Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr Gweinyddu Etholiadau y Comisiwn Etholiadol:
Mae'r broses o ddiwygio'r canfas blynyddol yn hwyr. Mae'r dull anhyblyg presennol sy'n defnyddio papur yn aneffeithlon ac yn gostus. Rydym yn croesawu'r cynigion i ddiwygio'r broses hon gan y byddant yn galluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i flaenoriaethu eu hadnoddau cyfyngedig ar gyfeiriadau sydd wedi newid. Mae angen i lywodraethau'r DU symud yn gyflym er mwyn sicrhau y caiff y diwygiadau eu rhoi ar waith mewn da bryd ar gyfer dechrau'r canfasiad yn ystod haf 2020. Edrychwn ymlaen at gefnogi'r gwaith hwn, a byddwn yn datblygu canllawiau ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar y broses ganfasio newydd.
Continued
Mae'r Comisiwn wedi argymell y dylai'r ddeddfwriaeth a fydd yn caniatáu i’r newidiadau arfaethedig ddigwydd, gael eu rhoi gerbron i'w cymeradwyo gan seneddau a'u rhoi ar waith erbyn mis Rhagfyr 2019 fan bellaf. Rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u timau gael digon o amser i gynllunio'n effeithiol ar gyfer y newidiadau a sicrhau bod ganddynt y sgiliau a'r gallu i'w rhoi ar waith.
Yn ogystal â chefnogi'r gwaith o ddiwygio'r canfas blynyddol, mae'r Comisiwn yn edrych y tu hwnt i hyn ar ddiwygiadau pellach a allai hwyluso'r broses i unigolyn sydd am gofrestru i bleidleisio yn ogystal â'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol eu hunain. Er enghraifft, gellid cynnwys y broses gofrestru mewn trafodion gwasanaethau cyhoeddus eraill ymhellach, yn ogystal â defnyddio data yn well i lunio a chynnal cofrestru etholiadol, fel y gwneir mewn gwledydd eraill. Mae'r Comisiwn wedi cwblhau astudiaethau dichonoldeb i ddangos sut y gellid rhoi'r newidiadau hyn ar waith yn y DU a chânt eu cyhoeddi yn ystod yr haf.
Yn ogystal â hyn, caiff yr astudiaeth ddiweddaraf o gywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholiadol ei chyhoeddi yn ystod yr hydref, gan roi darlun cyfredol o dangofrestru ym Mhrydain Fawr.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i press@electoralcommission.org.uk.
Gellir dod o hyd i adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar reoliadau drafft Llywodraeth y DU ar ddiwygio'r canfas ar wefan y Comisiwn.
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy wneud y canlynol:
- gamgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid
- anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
- Mae gan y Comisiwn Etholiadol ddyletswydd statudol i ymateb i ymgynghoriad y DU ar ei ddeddfwriaeth ddrafft ar ddiwygio'r canfas blynyddol o dan y Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
- Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn cyflwyno rheoliadau ar wahân i ddiwygio'r canfas blynyddol ar gyfer cofrestrau llywodraethau lleol yng Nghymru a'r Alban.
- Mae gofyn i Swyddogion Cofrestru Etholiadol arolygu pob cartref yn ardal eu cyngor o dan y system bresennol er mwyn sicrhau bod eu cofrestr etholiadol yn gyfredol. Os nad ydynt yn cael ymateb, mae gofyn i'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol anfon negeseuon atgoffa eraill a gwneud ymweliadau personol, hyd yn oed os na fu unrhyw newid i'r cartref. Mae'r Comisiwn eisoes wedi tynnu sylw at ei bryder nad yw'r broses hon yn gynaliadwy.